Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar Ddydd Mercher 8 Medi 2021 bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dathlu canmlwyddiant genedigaeth y digrifwr, actor, canwr a chyflwynydd teledu o Gymru Harry Secombe a anwyd yn Abertawe ar 8 Medi 1921. Mewn sesiwn C+A byw ar-lein bydd dau o blant Harry Secombe, David Secombe a Katy Secombe, yn trafod bywyd a gyrfa eu tad, ynghyd ag eitemau o'i archif gyda Nia Mai Daniel, o’r Archif Gerddorol Gymreig.
Mae’r teulu wedi gofalu am archif eu tad ers blynyddoedd lawer ac yn ddiweddar maent wedi dechrau ei drosglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Yn dyddio o’r 1920au cynnar i ddechrau’r 2000au, mae'r archif yn cynnwys gohebiaeth, lluniadau a chartwnau, effemera byd adloniant, llyfrau lloffion, sgriptiau ffilm, teledu a radio, drafftiau llyfrau mewn llawysgrifen, lluniau'r wasg o'r 1940au ymlaen, portreadau a deunydd clyweledol.
Mae'r archif yn adlewyrchu ei fywyd o’i blentyndod yn Abertawe ac yn cynnwys eitemau megis ei adroddiad ysgol a lluniau ohono fel plentyn ac yn berson ifanc. Mae hefyd llythyrau diddorol adref o'r Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys ei gartwnau a lluniau ohono fel milwr. Yn ystod ei wasanaeth gyda'r Magnelau Brenhinol yng Ngogledd Affrica cyfarfu â Spike Milligan am y tro cyntaf, cyfarfod a arweiniodd yn y pen draw at greu The Goon Show.
Mae cofnod hefyd o’i yrfa gynnar gyda lluniau a deunydd hyrwyddo yn ymwneud â’i swydd broffesiynol cyntaf yn Windmill Theatre ym 1946, lle cyfarfu â Michael Bentine, a oedd, ynghyd â Secombe a Peter Sellers, yn hanfodol i berfformiadau yn The Goon Show, a ysgrifennwyd gan Spike Milligan. Cadwodd Harry Secombe lawer o sgriptiau a lluniau o'r cyfnod hwn, gan gynnwys sgriptiau ar gyfer The Goon Show. Wedi'i ddarlledu gyntaf ym Mai 1951 dal y teitl Crazy People, daethpwyd i’w adnabod yn ddiweddarach fel The Goon Show, gyda Harry Secombe yn chwarae nifer o gymeriadau, yn fwyaf nodedig Neddie Seagoon. Dechreuodd hefyd gadw cyfres o lyfrau lloffion sy’n cofnodi ei yrfa yn yr 1950au.
Yn denor medrus ymddangosodd mewn sioeau cerdd a ffilmiau yn y 1960au, ac mae sgriptiau a lluniau o rhai o'i berfformiadau megis y ffilm Ealing Davey ym 1958, y sioe gerdd lwyfan yn seiliedig ar The Pickwick Papers gan Charles Dickens ym 1963 (a 1993), a'i berfformiad fel Mr Bumble yn y ffilm Oliver! ym 1968. Byddai llawer o'i ddilynwyr mwyaf selog hefyd yn ei gofio'n annwyl fel cyflwynydd teledu a chanwr ar raglenni crefyddol fel Songs of Praise a Highway.
Mae drafftiau llawysgrif ei nofel hunangofiannol Twice Brightly, a ysgrifennodd ym 1974 eisoes yn Aberystwyth yn ogystal â llawysgrifau drafft eraill o’i lyfrau.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:
“Mae tyfu a datblygu ein casgliadau yn waith parhaus ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar i deulu Harry Secombe am ychwanegu'r archif hael a rhyfeddol hon i gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n bwysig bod casgliadau’r Llyfrgell yn esblygu gan adlewyrchu’n llawn hanes ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol. Mae’n wych ein bod ni'n gallu dathlu canmlwyddiant geni'r diddanwr poblogaidd Harry Secombe yn y modd addas hwn."
Dywedodd David Secombe, awdur a ffotograffydd, ac un o blant Harry Secombe:
“Mae llythyrau a lluniau ei gyfnod yn y fyddin yn cynnig golwg hynod fyw i feddylfryd milwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r llyfrau lloffion a’r archif sylweddol o ffotograffau’r wasg yn cynnig cipolwg o’r cyfnod roedd fy nhad yn byw drwyddo; ac mae’r archif yn ei chyfanrwydd yn adlewyrchiad annisgwyl o hanes cymdeithasol Prydain yn yr 20fed ganrif, ac fe welir cenedl yn newid trwy brism gyrfa un dyn.”
Meddai Nia Mai Daniel, Rheolwr Rhaglen yr Archif Gerddorol Gymreig:
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at drafod yr archif gyda David a Katy Secombe, ac at nodi canmlwyddiant digrifwr a chanwr mor dalentog a phoblogaidd. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r teulu am roi’r archif anhygoel yma i’r Llyfrgell Genedlaethol, ac rwy’ wir yn meddwl bydd y deunydd yma o ddiddordeb ysgolheigaidd a chyffredinol i fyfyrwyr s’n astudio’r cyfnod, yn enwedig i’r rheiny sydd â diddordeb yn yr Ail Ryfel Byd a datblygiad Prydain ar ôl y rhyfel.”
Bydd y digwyddiad ar-lein Remembering Harry Secombe (1921-2001) yn cael ei gynnal Nos Fercher 8 Medi am 7pm, ewch i’n gwefan am fanylion ac i archebu tocyn.
---DIWEDD---
Gwybodaeth bellach:
Nia Wyn Dafydd
post@llgc.org.uk
**This press release is also available in English**
Sefydlwyd yr Archif Gerddorol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2017, er mwyn casglu, a hyrwyddo defnydd o, archifau a llawysgrifau cerddorol yn y Llyfrgell.
Twitter: @cerddllgc