Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn lansio Cynllun Strategol 2021-2026 Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Llyfrgell i Gymru a’r Byd mewn digwyddiad ar-lein fore Iau, 18 Tachwedd 2021.
Meddai Ashok Ahir, Llywydd Dros Dro y Llyfrgell:
"Rydym yn dechrau’r bennod newydd hon gyda phenderfyniad ac awch i gyflawni mwy eto. Mae ein cynllun yn anelu at ddyfodol ble byddwn yn parhau i ddefnyddio ein hystod unigryw o sgiliau ac arbenigedd i feithrin a gofalu am gof y genedl, gosod sylfaen economi gwybodaeth, grymuso ymchwil a dysg, a bod yn ganolog i fywyd y genedl."
Mae’r Llyfrgell yn cydnabod fod ganddi gyfrifoldeb tuag at bobl Cymru heddiw ac yfory a’i bod yn ymrwymo i gyflawni ei chenhadaeth yn effeithiol ac yn gynaliadwy dros y pum mlynedd nesaf. Bydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang ac yn integreiddio nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i’w gwaith cynllunio a chyflawni.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:
"Yn fwy nag erioed mae angen Llyfrgell Genedlaethol ddeinamig a pherthnasol ar Gymru, sy’n hyrwyddo amrywedd ac un sy’n wirioneddol gredu ym mhotensial gwybodaeth a diwylliant i drawsnewid bywydau, ac yn barod i ymgymryd â’i rôl unigryw i sicrhau adferiad ac adnewyddiad y genedl yn sgil pandemig Covid-19. Rydym yn parhau i ddatblygu, gan drawsnewid ein ffyrdd o weithio a rhannu ein profiad a’n harbenigedd gydag eraill yn ogystal â chynyddu cyfleoedd i ymgysylltu â'n casgliadau a'n gwasanaethau. Byddwn yn ymroi i fod yn sefydliad agored, blaengar ac arloesol. Dyma’r unig ffordd y byddwn yn creu llyfrgell i Gymru a’r byd."
Ychwanegodd Ashok Ahir, Llywydd Dros Dro:
"Bydd ein Cynllun Strategol newydd yn datgloi cyfoeth cymdeithasol ac economaidd i bobl Cymru, drwy sicrhau y gall pob un elwa o’n casgliadau helaeth a’n hystod o wasanaethau a chymorth proffesiynol. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i barhau i chwarae rhan ganolog fel Llyfrgell i Gymru a’r Byd, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid strategol i ddarparu gwasanaethau sy’n llesol i unigolion ac sydd o fudd i gymunedau ledled Cymru."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden AS:
"Rwy'n falch iawn o weld bod y cynllun strategol newydd yn gosod y Llyfrgell Genedlaethol fel sefydliad uchelgeisiol, dylanwadol, cadarnhaol ac yn bwysicaf oll - perthnasol. Mae bod yn berthnasol i fywydau pobl Cymru o ddydd i ddydd yn gyflawniad gwych, ac yn fraint. Dymunaf yn dda i'r tîm wrth iddynt symud i fabwysiadu a gweithredu'r weledigaeth newydd gan rannu a dathlu cof ein cenedl gyda chymunedau ledled Cymru a'r byd."
Byddwn yn gweithio tuag at wireddu’r weledigaeth hon drwy osod pedwar amcan strategol a llesiant fel camau i’w blaenoriaethu rhwng 2021 a 2026:
Dyma’r ddolen i’r Cynllun Strategol llawn a Chrynodeb o’r Strategaeth
--DIWEDD--
Gwybodaeth bellach:
Rhian Evans
post(at)llgc.org.uk
**This press release is also available in English**