Symud i'r prif gynnwys

15.09.2021

Ar ôl deunaw mis o saib yn sgil Covid-19 mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch i gyhoeddi y byddwn yn dychwelyd i Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd gyda dwy arddangosfa newydd sbon. Bydd yr oriel yn ailagor ar 18 Medi ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rannu ein casgliadau gyda chynulleidfaoedd y tu hwnt i Aberystwyth unwaith yn rhagor.
 
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i dros filiwn o ffotograffau sy'n gysylltiedig â Chymru ac sy’n amrywio o weithiau gan ffotograffwyr arloesol dyddiau cynharaf ffotograffiaeth i bortffolios gan artistiaid cyfoes.  Yn arddangosfa newydd Pobl: Ffotograffau o’r Casgliad Cenedlaethol
byddwn yn canolbwyntio ar y grefft unigryw o ffotograffiaeth ddogfennol.  Mae’r delweddau hyn yn dal harddwch, llawenydd, anobaith a natur benderfynnol yr ysbryd dynol.  P’un a ydyn nhw’n ddelweddau o bobl gyffredin yn mynd o gwmpas eu bywydau bob dydd, neu’n gofnod o ddigwyddiad hanesyddol pwysig, mae pob ffotograff yn yn gofnod ar y pryd i’w gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
 
Sir Benfro yw gwlad y cestyll a’r cromlechi, ac mae’n gartref i bobl angerddol sydd wedi ymfalchïo yn eu hanes, diwylliant a tirlun cyfoethog trwy’r oesoedd. Ochr yn ochr ag arddangosfa Pobl bydd yr arddangosfa barhaol Sir Benfro: Ddoe a Heddiw yn dathlu hanes Sir Benfro yn ogystal â’i swyn barhaus, gan arddangos gweithiau eiconig gan artisiaid a llenorion megis Gwen ac Augustus John, Waldo Williams, Meinir Mathias a Graham Sutherland.

Dywedodd Mike Cavanagh, Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol, Hamdden, Twristiaeth a Chofrestru:
“Mae Oriel Glan-yr-afon yn leoliad o arwyddocâd cenedlaethol, ac rydym yn falch iawn o groesawu Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ôl gyda dwy arddangosfa newydd sbon. Rydym yn siŵr bydd Pobl a Sir Benfro: Ddoe a Heddiw, fel yr arddangosfeydd blaenorol, yn rhai y bydd preswylwyr ac ymwelwyr yn ysu i’w gweld. Mae'r cynnig amrywiol sy'n cynnwys llyfrgell, oriel, gwybodaeth i ymwelwyr a siop goffi, yn darparu ar gyfer anghenion defnyddwyr ein llyfrgell leol, ac yn gyrchfan ddeniadol i ymwelwyr â Sir Benfro hefyd.”

Ychwanegodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:
“Rwy’n hynod o falch ein bod yn medru rhannu rhagor o’n casgliadau gyda’n cyfeillion yn sir Benfro a thu hwnt unwaith eto. Mae cysylltu a chydweithio gyda chymunedau ledled y wlad a darparu mannau i ddehongli a thrafod agweddau ar orffennol, presennol a dyfodol Cymru yn rhan ganolog o’n gwaith.  Diolch i’r bartneriaeth barhaus gyda Chyngor sir Benfro rydyn ni’n medru rhannu ein casgliadau cyfoethog gyda thrigolion y sir a rhai sy’n ymweld â Phenfro.”

Bydd y ddwy arddangosfa i'w gweld tan 23 Ebrill 2022, fel rhan o bartneriaeth barhaus rhwng Cyngor Sir Penfro a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yng Nglan-yr-afon.
 
Cafwyd cyllid i adeiladu'r cyfleuster gan amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys Cyngor Sir Benfro, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Foyle ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae Cyngor Tref Hwlffordd wedi rhoi pecyn cyllido pum mlynedd i'r fenter er mwyn sicrhau bod y llyfrgell yn aros yn agored ar brynhawniau Sadwrn, a hynny trwy gydol y flwyddyn. Dim ond ar foreau Sadwrn yr arferai'r llyfrgell flaenorol agor.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan, tudalen Facebook Llyfrgelloedd Sir Benfro, neu ffoniwch Glan-yr-afon ar 01437 775244.

--DIWEDD--

Gwybodaeth bellach:

Nia Wyn Dafydd

post@llgc.org.uk

**This press release is also available in English**