Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fydd mynediad at ein gwefannau am gyfnodau heno (11 Rhagfyr 2024) oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn hynod falch cyhoeddi rhodd hael i’w casgliadau o dri gwaith eiconig gan yr artist blaenllaw Mary Lloyd Jones o Aberystwyth. Adwaenir yr artist am ei thirluniau deinamig, lliwgar, mynegiadol ac haniaethol yn seiliedig ar dirlun a diwylliant Cymru.
Ganed yr artist ym Mhontarfynach yn 1934 a hyfforddodd yng Ngholeg Celf Caerdydd yn yr 1950au, cyn dychwelyd i Geredigion i fyw. Dyma’r ardal sydd wedi cael cryn ddylanwad ar ei gwaith fel y gwelir yn y tirlun pwerus ‘Ponterwyd/Gaia’ a oedd yn rhan o’r rhodd hael diweddar i’r Llyfrgell. Nododd yr artist ‘Y byd naturiol yw testun fy ngwaith, cymylau, cysgodion creigiau, creithiau, patrymau caeau ac anialwch corsydd mawnoglyd’.
O Ddydd Llun, 19 Gorffennaf ymlaen, a thrwy gydol yr haf rydym yn hynod falch o ddatgan y bydd modd gweld y gwaith yma’n cael ei arddangos yn Oriel Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol.
Crëwyd y gweithiau olew tri darn (triptych) trawiadol ‘Barclodiad y Gawres’ a ‘Bryn Celli Ddu’ yn arbennig ar gyfer arddangosfa yn oriel eiconig Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol yn 2006, ac felly mae’n hynod addas bod y gweithiau yma bellach yn cael eu cartrefu yn y Llyfrgell. Mae’r gweithiau tri darn yn seiliedig ar y patrymau cerfiedig a grëwyd gan y Brythoniaid ar gerrig cynhanesyddol ‘Barclodiad y Gawres’ a ‘Bryn Celli Ddu’ ar Ynys Môn, ac felly lle gwelir gwreiddiau'r iaith Gymraeg. Yn y gweithiau hyn mae’r artist yn mynegi ei theimladau am berthyn i ddiwylliant ac iaith leiafrifol. Bu Mary Lloyd Jones yn ymchwilio papurau’r ysgolheigion Syr John Rhys ac Iolo Morgannwg â gedwir o fewn y Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer y gweithiau, ac felly teimlodd yr artist y byddai’r Llyfrgell yn gartref hynod addas ar eu cyfer.
Nododd yr artist Mary Lloyd Jones:
“Yn y ddau ddarn yma rwyf yn gwneud i liwiau wrthdaro i greu awyrgylch arbennig sy’n cyfleu cyffro hudol y cerfiadau rhyfeddol hyn, a’u perthynas efo’r modd o fyw 4,000 mlynedd yn ôl. Trwy hyn rwyf yn ceisio cyffwrdd â hanes a dirgelwch sy’n perthyn i oes a fu. Mae yna barch uchel yn bodoli at lenyddiaeth Gymreig hynafol ac mae beirdd yn aml yn cyfleu'r hyn yr hoffwn i ddweud yn fy nghyfansoddiadau. Mae creu pont rhwng y traddodiad barddonol a chelf weledol yn rhan o’r hyn rwyf yn ceisio ei gyflawni.”
Dywedodd Morfudd Bevan, Curadur Celf y Llyfrgell Genedlaethol:
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Mary Lloyd Jones am ei chefnogaeth frwd i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n fraint medru adeiladu ar y casgliad o weithiau’r artist sydd eisoes gennym o fewn y Llyfrgell gyda’r rhodd hynod hael yma o weithiau.”
Ychwanegodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:
“Mae tyfu a datblygu ein casgliadau yn waith parhaus ac rydym yn falch iawn o fedru ychwanegu’r darnau gwerthfawr hyn i’r Casgliad Celf Cenedlaethol. Rydym yn hynod ffodus fel sefydliad o gyfeillgarwch a chefnogaeth arbennig yr artist amryddawn Mary Lloyd Jones ac mae ei gwaith yn cyfleu agweddau pwysig ar Gymru a’i diwylliant. Edrychaf ymlaen at gael groesawu pobl i weld y gweithiau arbennig yma yn Oriel Gregynog trwy gydol yr haf."
---DIWEDD---
Gwybodaeth bellach:
Nia Wyn Dafydd
post@llgc.org.uk
**This press release is also available in English**