Mae arddangosfeydd am ddim i'r cyhoedd. Gwiriwch yr oriau agor cyfredol cyn ymweld.
Rhaid i chi wisgo mwgwd/masg oni bai eich bod wedi eich eithrio rhag gwneud hynny o dan Ganllawiau Llywodraeth Cymru.
Eich diogelwch chi a diogelwch ein staff yw ein blaenoriaeth uchaf i leihau'r risg y bydd Covid-19 yn lledaenu.
Beth rydyn ni wedi'i wneud i'ch cadw chi'n ddiogel
- Arwyddion clir i'ch tywys trwy'r adeilad - efallai bod rhai llwybrau wedi newid ers eich ymweliad diwethaf
- Gorsafoedd glanweithio trwy'r adeilad
- Mwy o gyfundrefnau glanhau trwy'r adeilad
Sut y gallwch chi chwarae rhan wrth gadw eraill yn ddiogel
- Gwisgwch fwgwd/fasg a dilynwch y canllawiau pellter cymdeithasol ac arweiniad y llywodraeth pan ymwelwch, hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu
- Os ydych chi'n dangos unrhyw un o’r symptomau coronafirws, neu os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd â'r firws yn ystod y 14 diwrnod diwethaf, rydyn ni'n gofyn i chi beidio â ymweld, ond mwynhau ein hadnoddau arlein o adref
- Cadwch at y system unffordd yn yr adeilad
- Defnyddiwch y gorsafoedd glanweithio a golchwch eich dwylo yn rheolaidd yn ystod eich ymweliad
Bwyd a Diod
Ni chaniateir bwyd a diod yn ardaloedd arddangos y Llyfrgell.