Symud i'r prif gynnwys

Ffurfiau

Mae casgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys amrywiaeth eang o ffurfiau, sy’n adlewyrchu’r ffordd y mae technegau portreadu wedi datblygu dros gyfnod o amser. Mae’r eitemau’n amrywio o ffotograffau carte-de-visite bychain i weithiau coeth mewn acrylig ac olew.

Mae’r amrywiaeth diddorol o ffurfiau a geir yn y casgliad yn cynnwys:

  • Cromolithograffau o Vanity Fair o enwogion o Gymru a Phrydain
  • Silwetau o’r cyfnod Fictorianaidd, ac
  • Amryw o enghreifftiau o ffotograffau ar gerdyn a gynhyrchwyd yn ystod cyfnod y ffyniant ym maes ffotograffiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn yr adran hon, disgrifir rhai ffurfiau ym maes darlunio, peintio, gwneud printiau a ffotograffiaeth, a dangosir enghreifftiau o eitemau o Archif Bortreadau Cymreig y Llyfrgell.

Darlunio

Pensil

Mae’r pensil plwm modern yn cynnwys cymysgedd o bigment (graffit gan amlaf, ond gall fod yn bigment lliw neu siarcol) a graffit mewn casin pren neu blastig. Roedd y stylus yn fath cynnar o bensil a ddefnyddid gan yr hen Eifftiaid a’r Rhufeiniaid. Darn metel tenau oedd hwn a wnaed gan amlaf o blwm ac fe’i defnyddid i wneud crafiadau ar papyrus, math o bapur cynnar.

Mae artistiaid sydd â diddordeb mewn creu ystod lawn o arlliwiau o lwyd golau i ddu, yn gallu gwneud hynny wrth ddarlunio â phensil, gan fod gan bensiliau wahanol raddfeydd, o galed i feddal. Mae nifer o bensiliau wedi eu graddio ar y system Ewropeaidd gan ddefnyddio dilyniant o ‘H’ (ar gyfer caledwch) i ‘B’ (ar gyfer duwch), yn ogystal â ‘F’ (ar gyfer blaen tenau). Maent hefyd ar gael mewn ystod o liwiau, gyda rhai sy’n hydawdd mewn dŵr er mwyn creu effaith dyfrlliw.


Cartŵn

Mae dau ystyr i’r term; yn gyntaf fel llun paratoadol ar gyfer peintiad, gwydr lliw neu dapestri. Fe’u defnyddiwyd yn aml wrth gynhyrchu ffresgos.

Yn ail, yn y wasg argraffu fodern, mae cartŵn yn llun doniol, sy’n aml yn cyfleu eironi neu ddychan dan yr wyneb. Gall fod yn gyfres o luniau sy’n dweud stori, megis stribed cartŵn. Mae’n bosibl dyddio’r mathau hyn o gartwnau yn ôl i 1843, pan ddefnyddiwyd y term gan y cylchgrawn ‘Punch’ wrth ddisgrifio’r lluniau dychanol ar ei dudalennau.


Sialc

Deunydd darlunio a wneir o graig neu briddoedd wedi eu malu, sy’n debyg mewn edrychiad ac ansawdd i basteli. Mae tri phrif fath sef sialc gwyn, coch a du. Mae sialc yn cael ei ddefnyddio’n sych ar bapur, a gall yr artist gyfuno’r lliwiau, gan fod y deunydd yn smwtsio’n hawdd.

Heddiw cynhyrchir sialciau lliw wedi eu prosesu drwy gymysgu craig calchfaen â phigmentau, dŵr a gwm. Enw ar dechneg yr oedd artistiaid o Ffrainc yn y 18fed ganrif yn hoff iawn ohoni oedd ‘aux trois crayons’. Roedd yn gyfuniad o sialciau naturiol coch, du a gwyn, fel arfer ar bapur melynaidd neu lwydwyn.


Pastel

Mae pastel yn ddarn lliw wedi ei wneud o bigment powdr yn gymysg â resin neu gwm. Mae pasteli sych yn creu marciau sy’n feddal a gwan sy’n bosibl eu cyfuno â’r bysedd, ac maent ar gael mewn mwy na 600 o arlliwiau. Mae angen defnyddio sefydlyn i ddiogelu’r deunydd sensitif.

Mae dewis mwy cyfyngedig o liwiau pasteli olew ar gael ac maent yn fwy seimlyd, ond yn glynu’n well i bapur. Yn y 18fed ganrif yr oedd pasteli’n fwyaf poblogaidd er iddynt ddod yn ffasiynol eto ar ddiwedd y 19eg ganrif.


Siarcol

Mae siarcol yn hyblyg iawn ac fe’i defnyddir yn aml i wneud lluniau mawr, dynamig neu i wneud brasluniau o lun cyn peintio. Mae’n feddal ac yn frau ac fe’i defnyddir i greu effaith gref neu feddal, neu gellir ei smwtsio i greu effaith o ansawdd arbennig ac i arlliwio.

Siarcol gwinwydd yw’r math a ddefnyddir fwyaf, wedi ei greu o frigau helyg golosgedig. Gwneir siarcol cywasgedig o bowdr siarcol yn gymysg â gwm, ac fe’i defnyddir mewn pensiliau siarcol. Gan amlaf mae’n cael ei gadw drwy ddefnyddio sefydlyn.


Creon

Pensil neu ddarn o sialc, siarcol neu gwyr lliw a ddefnyddir i ddarlunio. Mantais creonau yw eu bod yn hawdd gweithio â hwy, yn rhad ac maent ar gael mewn amrywiaeth fawr o liwiau. Mae’r gair ‘creon’ yn tarddu o’r gair Ffrengig o’r 17eg ganrif ‘craie’ sy’n golygu ‘sialc.’


Inc

Hylif sy’n cynnwys amrywiol bigmentau neu lifynnau, a ddefnyddir ar gyfer ysgrifennu, darlunio neu beintio. Mae rhai mathau o inciau darlunio’n cynnwys:

  • Inc haearn-afalau’r deri  - Gwnaed y rhan fwyaf o  ddarluniau ysgrifbin Renaissance gyda’r inc hwn. Fe’i gwnaed ag asid galig o afalau’r deri. Er ei fod yn edrych yn bron yn ddu ar y dechrau mae’r inc yn troi’n frown ymhen amser.
  • Inc carbon - Fe’i defnyddid gan drigolion yr hen Tsieina a'r Hen Aifft, ond ni chafodd ei ddefnyddio’n helaeth yn Ewrop tan yr 16eg ganrif. Câi’r gronynnau duon eu malu’n fân nes eu bod yn bowdr a’u cymysgu â gwm.
  • Inc Indiaidd neu Tsieinëeg - Yn syml du’r lamp (inc carbon) yn gymysg â gwm a resin wedi’i galedu drwy ei bobi. Mae’n wrth-ddŵr ac mae’r resin yn rhoi sglein i’r llinell.
  • Bistre - inc brown a wnaed drwy dynnu tar hydawdd o huddygl coed. Roedd yn inc poblogaidd ar gyfer darlunio yn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif.
  • Sepia - Pigment sy’n amrywio o ddu i felynfrown, a geir o goden inc y fôr-gyllell. Ni ddaeth yn boblogaidd fel cyfrwng darlunio tan ddiwedd y 18fed ganrif.

Mae inc printio’n hylif â sylfaen olew sy’n wahanol i’r hylif a sylfaen dŵr a ddefnyddir i ysgrifennu. Fe’i datblygwyd gan Johannes Gutenberg, dyfeisiwr y wasg argraffu oedd â llythrennau symudol. Gwneir yr inc drwy falu du’r lamp a’i gymysgu ag olew.


Llyfryddiaeth

  • Goldman, Paul, 1988. Looking at prints, drawings and watercolours: a guide to technical terms. London: British Museum Press; Malibu, California: J. Paul Getty Museum.
  • National Portrait Gallery, ‘Glossary of art terms’

Peintio

Dyfrlliw

Paent tryloyw wedi ei wneud o bigment yn gymysg â gwm arabaidd, a ddefnyddir a dŵr. Mae golch dyfrlliw’n cynnwys dŵr lle mae gronynnau dŵr sy’n cael eu brwsio o flociau pigment mewn daliant. Rhaid iddo aros yn hylif am ddigon o amser i’r darnau bach o liwiau ddosbarthu eu hunain yn wastad ar hyd y papur.

Rhagoriaeth y cyfrwng yw bod ei natur dryloyw yn caniatáu i arwyneb gwyn y papur gael ei ddefnyddio fel y cyfrwng goleuo. Câi’r dechneg hon ei defnyddio ar roliau papyrus yn yr hen Aifft ac ar lawysgrifau memrwn yn Ewrop yn ystod y canoloesoedd, ond yn Lloegr yn y 18fed ganrif y datblygwyd y dechneg yn llawn.


Llyfryddiaeth

  • Goldman, Paul, 1988. Looking at prints, drawings and watercolours: a guide to technical terms. London: British Museum Press ; Malibu, California: J. Paul Getty Museum.

Gwneud Printiau

Llin-ysgythru

Print sy’n cael ei greu drwy wthio erfyn miniog a elwir yn ‘grafell’ neu ‘bwyntil’ dros blât metel. Mae’r erfyn yn creu llinellau siâp-V fydd yn cael eu llenwi ag inc. Y llinellau hyn sy’n creu’r llun terfynol yn y print.

Gosodir papur dros y plât a chaiff y ddau eu gwasgu  drwy roleri gwasg. Mae’r pwysedd yn gwthio’r inc o’r llinellau a ysgythrwyd yn y plât metel ar y papur. Mae’r llin-ysgythriadau cynharaf yn dyddio o’r 15fed ganrif.


Ysgythru

Dull o wneud printiau lle mae’r llinellau mewn plât metel yn cael eu ‘bwyta’ gan asid. Mae’r plât yn cael ei orchuddio â haen denau o sylwedd cwyraidd, gwrthasid. Drwy’r haen hwn y mae’r ysgythrwr yn tynnu llun gydag erfyn metel, nes datgelu’r metel oddi tano lle bydd y llinellau yn y print.

Yna mae’r plât yn cael ei drochi mewn baddon o asid, sy’n ‘bwyta’ i mewn i’r plât drwy’r llinellau a wnaed. Ar ôl sychu’r plât, mae’n cael ei incio, gan adael ond y llinellau a ysgythrwyd i greu print. Mae dyfnder y llinell, a pha mor dywyll mae’n edrych yn y print yn dibynnu am ba hyd y bydd y plât yn cael ei adael yn y baddon a chryfder yr hydoddiant asid. Mae’r natur yr wyneb cwyraidd yn rhoi’r un  rhyddid i’r arlunydd â phe bai’n gwneud llun â llaw.


Dotwaith

Proses a ddefnyddir wrth ddarlunio, peintio neu ysgythru. Mae dotwaith yn defnyddio dotiau bach i greu llun. Wrth wneud printiau, gellir cerfio’r dotiau allan o blât gydag erfyn metel. Yna rhoddir inc ar y plât, a chrëir print drwy osod papur dros y plât. Yna maent yn cael eu gwasgu drwy wasg.

Roedd ysgythriadau dotwaith ar eu hanterth rhwng 1770 a 1810, cyfnod o brintiau addurnol, a’r meistr arnynt oedd Francesco Bartolozzi (1727-1815) o’r Eidal. Yn aml câi ysgythriadau dotwaith eu printio mewn lliw.


Mesotint

Darganfuwyd y broses hon ganol yr 17eg ganrif, ac mae mwy o ansawdd i’r lliwiau na dulliau ysgythru ac engrafiadau cynharach. Defnyddir erfyn ag ymyl crwm a danheddog (‘rocker’) i wneud mandyllau mewn plât metel. Mae hwn yn creu ‘ymyl garw’ sy’n edrych yn ddu mewn print. Mae’r artist yn crafu’r plât i’w lyfnhau er mwyn cael arlliwiau ysgafnach. Bydd y rhannau hyn yn dal llai o inc neu ddim inc o gwbl.

Nodwedd amlwg y broses hon yw bod yr artist yn gweithio o dywyll i olau. Felly mae’n hawdd adnabod mesotint oherwydd y ffordd benodol y mae’r dyluniad yn datblygu o gefndir tywyll.


Acwatint

Amrywiad ar ysgythru sy’n creu effaith golchliw, yn debyg i lun dyfrlliw. Gyda’r broses hon gorchuddir plât â resin powdr, y gall asid dreiddio trwyddo. Mae’r asid yn ‘bwyta’ rhwng y gronynnau, sy’n dal digon o inc pan gaiff ei brintio i greu effaith golchliw. Bydd y sawl sy’n gwneud y print yn defnyddio farnais amddiffynnol i ‘atal yr asid’ rhag mynd i unrhyw rannau o’r resin y mae eisiau eu cadw’n hollol wyn, yna gellir gwneud print. Dyfeisiwyd y broses yn Ffrainc yn y 1760au.


Lithograff

Dyfeisiwyd lithograffeg yn 1798 ym Munich gan Alois Senefelder.  Dyma’r broses brintio arloesol gyntaf ers dyfeisio intaglio yn y 15fed ganrif. Yr arwyneb cyntaf a ddefnyddid oedd carreg, er bod sinc neu alwminiwm hefyd yn cael eu defnyddio.

Mae’r artist yn tynnu llun ar arwyneb gwastad ag inc neu sialc seimlyd ac mae’n golchi’r garreg gyda dŵr.  Yna mae’n rholio inc argraffu â sylfaen olew dros y garreg. Mae’r inc yn glynu yn y rhannau seimlyd yn unig, ac nid yn y rhannau eraill. Yna gwneir printiau (drych-ddelweddau) ar bapur mewn gwasg lithograffig.

Tyfodd lithograffeg mewn poblogrwydd ar ôl tua 1820 pan sylweddolodd argraffwyr masnachol fod y dull yn hynod o hawdd a hyblyg.


Cromolithograff

Dull ar gyfer gwneud printiau aml-liw yw cromolithograffeg, sy’n cynnwys pob math o lithograff. Mae’r broses yn defnyddio cemegau yn hytrach na phrintio cerfweddol neu intaglio. Defnyddir creon â sylfaen gwêr i dynnu llun ar garreg neu blât metel. Ar ôl gwneud hyn, rhoddir hydoddiant gwm arabaidd ac asid nitrig gwan ar hyd y garreg. Yna mae’n cael ei incio â phaent â sylfaen olew cyn ei gwasgu drwy wasg argraffu gyda thudalen o bapur er mwyn trosglwyddo’r llun ar y papur.

Rhaid i bob lliw yn y llun gael ei roi ar wahân ar garreg neu blât newydd a’i roi ar y papur fesul un. Mae’r broses gyfan yn cymryd llawer o amser, weithiau mae’n cymryd misoedd i gynhyrchu un llun.


Ysgythru pren

Fersiwn o dorlun pren a ddatblygwyd yn y 18fed ganrif. Defnyddir pren caled iawn, a dorrir bob amser yn erbyn y graen (caiff torluniau pren eu torri gyda’r graen) gan ddefnyddio arfau miniog.

Caiff ysgythriadau-pren eu printio’n gerfweddol, nid intaglio, a gwyn yn erbyn du (yn wahanol i’r torlun cyffredin sy’n printio llinellau du yn erbyn gwyn).


Llyfryddiaeth

  • Gascoigne, Bamber, 2004. How to identify prints: a complete guide to manual processes from woodcut to inkjet. 2il argraffiad. Llundain: Thames & Hudson
  • Goldman, Paul, 1988. Looking at prints, drawings and watercolours: a guide to technical terms. Llundain: British Museum Press ; Malibu, California: J. Paul Getty Museum
  • Griffiths, Antony, 1996. Prints and printmaking: an introduction to the history and techniques. 2il argraffiad. Llundain: British Museum Press
  • National Portrait Gallery, ‘Glossary of art terms’

Ffotograffiaeth

Carte de visite

Cardiau ymweld bach oedd cartes de visite oedd gan amlaf yn mesur tua 4 ½ x 2 ½ modfedd (11.4 x 6.3 cm). Rhoddid ffotograff du a gwyn ar y cerdyn. Yn aml byddai’n ffotograff o rywun enwog. Cyflwynwyd y rhain gan ffotograffydd o Baris, Andre Disdéri. Yn 1854 dyfeisiodd ffordd i dynnu nifer o ffotograffau ar un plât, a thrwy hynny leihau costau cynhyrchu.

Roeddent yn hynod o boblogaidd yn y 1860au, ac yn aml roeddent yn cael eu casglu mewn albymau portreadau Fictoraidd. Daeth y ddyfais newydd mor boblogaidd fel y’i galwyd yn ‘cardomania’ ac ymhen amser lledaenodd ledled y byd. Yn aml câi enw a chyfeiriad y ffotograffydd ei argraffu ar gefn y cardiau, yn aml gydag addurn.


Woodburyteip

Dyfeisiwyd y Woodburyteip, math o ailgynhyrchu ffotograff yn ffotofecanyddol, yn 1864 gan Walter Bentley Woodbury (1834-1885). Er gwaethaf y gofal manwl oedd ei angen i gynhyrchu’r printiau hyn, roeddent yn dal yn boblogaidd tan tua 1900 oherwydd ansawdd y llun terfynol.

Y cam gyntaf yn y broses o greu Woodburyteip yw dinoethi’r ffilm gelatin cromad i olau o dan negatif. Mae’n caledu yn ôl faint o olau y caiff ei ddinoethi iddo. Yna mae’n cael ei ddatblygu mewn dŵr poeth i gael gwared ar yr holl gelatin sydd heb galedu, a’i sychu. Caiff y copi hwn ei wasgu ar haenen o blwm mewn gwasg, a ddefnyddir fel mowld ac fe’i llenwir â gelatin sy’n cynnwys pigment. Yna caiff yr haen gelatin ei gwasgu ar bapur i gwblhau’r broses.


Llun cabinet

Pan gollodd y carte de viste ei newydd-deb, cyflwynwyd y llun cabinet oedd yn fwy o faint (c.1866). Fe’i cynhyrchid drwy ddefnyddio’r un dull â’r carte, roedd y ffaith ei fod yn fwy o faint yn dangos mwy o fanylder yn wynebau’r bobl. Gellid ei ddefnyddio ar gyfer lluniau grŵp a theuluoedd hefyd, a gallai gynhyrchu lluniau o ansawdd uwch na’r carte llai.

Câi printiau cabinet eu gosod ar gardiau oedd yn mesur tua 6¼ x 4¼ modfedd (15.9 x 10.8 cm). Galwyd y ffurf newydd, a gyflwynwyd gan y ffotograffydd, Frederick Richard Window, o Lundain, yn ‘llun cabinet’ oherwydd gellid arddangos ffotograff mawr ar gerdyn cryf ar ben cabinet pren neu ddodrefnyn tebyg.


Coloteip

Cynhyrchid coloteip yn ffotofecanyddol o lun ffotograffig, gyda phrosesau oedd yn debyg i’r broses brintio lithograffig. Defnyddid y broses yn bennaf rhwng tua 1870 a 1920, ac mae’n dal i gael ei defnyddio o bryd i’w gilydd.

Y cam gyntaf yn y broses oedd  rhoi haen o hydoddiant gelatin yn sensitif i olau ar blât wydr, a’i ddinoethi o dan negatif. Roedd y gelatin yn caledu yn ôl faint o olau oedd yn mynd drwyddo. Roedd y gelatin meddal yn amsugno’r dŵr wrth gael ei olchi tra bod y gelatin oedd wedi caledu yn ei wrthyrru. Ar ôl i’r plât gwydr gael ei olchi, roedd yn cael ei incio. Roedd yr inc yn glynu yn y gelatin oedd wedi caledu ac yn creu print ar bapur.


Ffoto-engrafiad

Proses printio ffotofecanyddol yw ffoto-engrafiad ar gyfer ailgynhyrchu nifer o ffotograffau. Dyfeisiwyd y broses yn  1879 gan Karl Klic o Fienna. Y cam gyntaf yn y broses yw rhoi haen wastad o sylwedd gwrthasid ar blât copr disglair. Gwneir tryloywlun positif o’r negatif. Gorchuddir un ochr i’r papur sidan â gelatin wedi’i sensiteiddio â photasiwm deucromad, ac yna caiff ei ddinoethi i olau o dan y copi positif.

Bydd y gelatin yn caledu mwy ar y rhannau hynny sy’n dod i gysylltiad â mwy o olau. Caiff y papur sidan gwlyb ei wasgu, ochr y gelatin ar i lawr, ar y plât copr. Tynnir y papur ar y cefn i ffwrdd yn y dŵr cynnes. Rhoddir y plât mewn cyfres o faddonau asid. Bydd yr ysgythru’n ddyfnach yn y rhannau sydd â llai o gelatin. Ar ôl i’r plât gael ei olchi’n drwyadl, caiff yr engrafiad ei brintio mewn gwasg ysgythru, fel pob math arall o brintio intaglio.


Ciplun

Y diffiniad eang ohono yw ffotograff a gymerir yn gyflym a heb baratoi, a wneir gan bobl gyffredin i gofnodi digwyddiadau yn eu bywydau a’r lleoedd y maent wedi byw ynddynt ac ymweld â hwy. Mae’r term yn cael ei gysylltu hefyd â’r diddordeb mawr sydd gan artistiaid yn y ciplun du a gwyn ‘clasurol’.

Cyflwynwyd cysyniad y ciplun i’r cyhoedd ar raddfa fawr gan Eastman Kodak Company, a gynhyrchodd y camera bocs  Brownie yn 1900.


Print arian/Print arian gelatin

Defnyddir y broses gelatin arian hyd heddiw gyda ffilmiau du a gwyn a phapurau printio. Y cam gyntaf yn y broses yw rhoi halwynau arian mewn gelatin er enghraifft ar wydr neu bapur â chôt o resin arno. Pan ddinoethir yr halwynau arian i olau, rhyddheir rhai gronynnau o arian metelig, gan ffurfio llun anweledig.

Datblygir ffilmiau drwy ddefnyddio hydoddiant sy’n lleihau’r gronynnau arian. Mae’r cryfder, tymheredd a’r amser a neilltuir i’r hydoddiant weithio, yn caniatáu i’r ffotograffydd reoli’r cyferbyniad yn y llun terfynol. Yna mae’r broses yn cael ei ‘hatal’ drwy niwtraleiddio’r hydoddiant mewn ail faddon. Ar ôl cwblhau’r broses ddatblygu, rhaid cael gwared â’r halwynau arian drwy drochi’r ffotograff mewn hydoddiant sefydlogi, ac yna rhaid golchi’r print mewn dŵr glân. Mae’r llun terfynol yn cynnwys arian metelig wedi ei ymgorffori mewn haenen gelatin.

Datblygwyd printiau gelatin-arian yn y 1870au ac erbyn 1895 roeddent wedi disodli printiau albwmin oherwydd eu bod yn fwy sefydlog, yn symlach i’w cynhyrchu, a nid oeddent yn melynu.


Llyfryddiaeth

  • Baldwin, Gordon, 1991. Looking at photographs: a guide to technical terms. Los Angeles, CA: J. Paul Getty Museum ; London: British Museum Press
  • Gascoigne, Bamber, 2004. How to identify prints: a complete guide to manual processes from woodcut to inkjet. 2nd edition. London: Thames & Hudson
  • National Portrait Gallery, ‘Glossary of art terms’
  • V&A, ‘Photographic processes’