Symud i'r prif gynnwys

Eisteddwyr

O blith y miloedd o bortreadau yng nghasgliadau’r Llyfrgell sydd bellach i’w gweld ar-lein, detholwyd rhai i’w harddangos yn yr adran hon ynghyd â bywgraffiadau byr o’r ‘eisteddwyr’.

Gallwch ddarllen hanes enwogion o Gymru a ddaeth yn adnabyddus yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn y meysydd:

  • cerddoriaeth, celf a llên
  • gwleidyddiaeth a hanes
  • crefydd
  • gwyddoniaeth ac arloesi
  • busnes a diwydiant
  • a chwaraeon ac adloniant

Rhan annatod o gasgliad portreadau’r Llyfrgell yw’r delweddau o werin bobl Cymru, sy’n cynnig adlewyrchiad gweledol cyflawn o'n hanes cenedlaethol.

Cerddoriaeth, Celf a Llên

Richard Wilson (1713 -1782)

Ganed y tirluniwr, Richard Wilson ym Mhenegoes, Sir Drefaldwyn, yn fab i ficer lleol. Sylweddolodd Syr George Wynne, cyfaill i’r teulu, fod ganddo ddawn i ddarlunio a pheintio, a gwnaeth drefniadau iddo astudio yn Llundain o dan oruchwyliaeth y darlunydd Thomas Wright.

Yn 1750, symudodd Wilson i’r Eidal, ac yno datblygodd ei arddull yn sylweddol. Gwnaeth enw iddo’i hun fel arlunydd portreadau, ac roedd ganddo gleientiaid cefnog. Tra oedd yn yr Eidal, cafodd ei annog gan yr arlunydd tirluniau, Francesco Zuccarelli, i beintio tirluniau, a daeth yn feistr ar y cyfrwng hwnnw.

Ar ôl dychwelyd i Brydain yn 1757, daeth Wilson yn arlunydd tirwedd llwyddiannus, uchel ei barch. Roedd ei gyfnod mwyaf cynhyrchiol rhwng 1760 a 1768. Ar ddiwedd y cyfnod hwn cyfrannodd at sefydlu’r Academi Frenhinol. Ond dirywiodd pethau’n araf ar ôl hynny a daeth yn bur dlawd. Dychwelodd i Gymru yn 1781, gan ymgartrefu yn yr Wyddgrug.

Er iddo golli bri erbyn adeg ei farwolaeth, ers hynny, mae ei ddylanwad mawr ar nifer o arlunwyr wedi cael ei gydnabod, gan gynnwys J.M.W. Turner a John Constable. Ymysg ei weithiau pwysicaf mae ‘The view near Wynnstay,’ 'Snowdon from Llyn Nantlle' a 'Llyn Peris a Dolbadarn Castle.'


Joseph Parry (1841 -1903)

Roedd Joseph Parry yn gyfansoddwr toreithiog iawn, ac yn ffigwr amlwg ym mywyd cerddorol Cymru ei gyfnod. Mae’n fwyaf adnabyddus am gyfansoddi rhai o emyn-donau mwyaf adnabyddus Cymru megis ‘Aberystwyth’ a ‘Myfanwy.’ Hefyd cyfansoddodd sawl opera, oratorio, cantata a gweithiau i’r piano.

Fe’i ganed ym Merthyr Tudful, yn Ne Cymru, ac yno y treuliodd ei blentyndod cynnar. Pan oedd yn 13 oed, symudodd y teulu i America, gan ymgartrefu yn Danville, Pensylvania. Enillodd gystadlaethau cyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1863-4) ac yn sgil ei lwyddiant codwyd cronfa a’i galluogodd i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol (1868-1871). 

Yn 1872, symudodd i Aberystwyth , a rhwng 1874 a 1880 bu’n Athro Cerdd yng Ngholeg y Brifysgol. Yn 1878, derbyniodd ddoethuriaeth mewn Cerddoriaeth o Gaergrawnt, ac o 1888 bu’n Ddarlithydd Cerdd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd.


Adelina Patti (1843-1919)

Roedd Adelina Patti yn un o gantorion opera mwyaf adnabyddus y 19eg ganrif. Fe’i ganed ym Madrid, i rieni Eidalaidd ac fe’i maged yn Efrog Newydd. Dechreuodd ei gyfra ym myd opera yn yr ‘Academy of Music’, Efrog Newydd yn 1859, yn 16 oed, lle perfformiodd y brif ran yn Lucia di Lammermoor gan Donizetti. Yn 1861, disgleiriodd ei dawn arbennig pan gymerodd ran y soprano, Amina, yn La Sonnambula gan Bellini yn Covent Garden.

Datblygodd ei gyrfa wrth iddi berfformio ar lefel rhyngwladol, cafodd lwyddiant mawr, ac roedd cynulleidfaoedd yn ei haddoli. Adeiladodd theatr yn cynnwys 150 o seddi yng ‘Nghraig-y-Nos’, ei chartref yng Nghwm Tawe Uchaf, a chynhaliodd nifer o gyngherddau preifat yno, gan berfformio ymhell ar ôl ei hymddeoliad swyddogol.

Cynhyrchodd tua 30 o recordiadau gramoffon o ganeuon ac arias operatig yn ei chartref yn ystod 1905 a 1906, ac mae’r rhain wedi eu trosglwyddo a’u rhoi ar CD.


Dylan Thomas (1914-1953)

Ganed y bardd a’r llenor, Dylan Marlais Thomas yn Abertawe yn 1914. Ar ôl cael ei addysg ffurfiol yma, gweithiodd am gyfnod fel gohebydd i’r South Wales Daily Post. Dechreuodd Thomas farddoni ac yn 1934 cyhoeddodd 18 Poems. Yna yn 1936 cyhoeddwyd Twenty-five poems, a The map of love yn 1939.

Priododd Caitlin Macnamara yn 1937 a symudodd i Dalacharn, Sir Gaerfyrddin, pentref sydd â chysylltiad cryf â’i enw, ac a ddylanwadodd yn helaeth ar ei waith. Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd, treuliodd Thomas lawer o’i amser yn Llundain a dechreuodd ysgrifennu sgriptiau radio i’r BBC, a chymryd rhan mewn sgyrsiau a recordiadau ar y radio. O 1944 gweithiodd yn ysbeidiol ar ddrama radio am bentref glan môr yng Nghymru. Ei henw ar y dechrau oedd Quite Early One Morning ond newidiwyd yr enw gan Thomas i Under Milk Wood, ac fe’i gorffennodd yng Ngwanwyn 1953. 

Bu’n byw yn Llangain a Chei Newydd, Gorllewin Cymru, tuag at ddiwedd y rhyfel, a bu hwn yn gyfnod creadigol dros ben. Dwy o’r cerddi a ysgrifennodd yn ystod y cyfnod hwn oedd Poem in October i ddathlu ei ben-blwydd yn dri deg oed, a Fern Hill a soniai’n bennaf am y fferm yn Sir Gaerfyrddin a’i blentyndod. Prif themâu cerddi Dylan Thomas oedd hiraeth, bywyd, marwolaeth a cholli diniweidrwydd. Ysgrifennai’n aml am ei orffennol fel bachgen neu fel gŵr ifanc. Daeth Cymru, ei thirwedd a’i phobl, yn rhan sylfaenol o’i waith.

Derbyniodd Thomas wahoddiad i fynd i America yn 1950, a dychwelodd i’r wlad droeon, gan dreulio ychydig fisoedd yno ar y tro. Rhoddodd ddarlleniadau yn Efrog Newydd ac mewn campysau Prifysgolion ledled y wlad. Ond cafodd broblemau iechyd mawr oherwydd ei fod yn yfed yn drwm, a bu farw yn 39 oed yn Efrog Newydd.


Ebenezer Thomas ‘Eben Fardd’ (1802-1863)

Roedd Ebenezer Thomas, neu ‘Eben Fardd’ fel y câi ei alw, yn cael ei ystyried yn un o feirdd mwyaf Cymru yn ystod ei oes. Fe’i ganed ym mhlwyf Llanarmon, Sir Gaernarfon, a chafodd ei addysg mewn sawl ysgol yn y sir. Pan fu farw ei frawd, William, yn 1822, ymgymerodd Thomas â’r ysgol a gadwai yn Llangybi, Sir Gaernarfon. Yn ddiweddarach aeth i gadw ysgolion eraill yn y sir yn Llanarmon (1825) a Chlynnog (1827).

Yn Eisteddfod Powys, a gynhaliwyd yn y Trallwng yn 1824 y daeth llwyddiant i’w ran y tro cyntaf, a hynny am yr awdl ‘Dinystr Jerusalem.’ Yna enillodd am yr eilwaith yn Eisteddfod Lerpwl, yn 1840, lle dyfarnwyd gwobr iddo am ei awdl ‘Cystudd, Amynedd ac Adferiad Job.’ Y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd y ddwy awdl yma, a cherddi arall, yn y gyfrol Caniadau.  Enillodd am y trydydd tro, a’r tro olaf yn 1858, yn Eisteddfod Llangollen am ei awdl ‘Maes Bosworth.’

Yn ogystal â’i gerddi eisteddfodol adnabyddus, ysgrifennodd nifer o emynau, a chyhoeddwyd casgliad ohonynt yn 1862. Cyfrannodd yn helaeth hefyd at gylchgronau’r cyfnod, a beirniadodd nifer o gystadlaethau barddoniaeth. Cyhoeddwyd casgliad o’i waith o dan y teitl Gweithiau barddonol Eben Fardd (1875).

Sicrhaodd ei lwyddiant fel bardd le canolog iddo yng ngweithgarwch llenyddol hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Llyfryddiaeth

  • Gwefan y BBC, ‘Adelina Patti’
  • Gwefan y BBC, ‘Dr Joseph Parry’
  • Dylan Marlais Thomas (1914-1953)Walford Davies, Y Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2001; arg. arlein, 2007
  • McGovern, Una (ed.), 2002. Chambers Biographical Dictionary. 7fed argraffiad. Edinburgh: Chambers Harrap
  • Ebenezer Thomas (Eben Fardd; 1802-1863)Thomas Parry, Y Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2001; arg. arlein, 2007
  • Turner, Jane (ed.), 1996. The dictionary of art. Basingstoke : Macmillan

Gwleidyddiaeth a Hanes

David Lloyd George (1863 -1945)

Ganed David Lloyd George, gwleidydd, ym Manceinion yn 1863. Bu farw ei dad flwyddyn ar ôl iddo gael ei eni, a symudodd ei fam a’r plant i fyw gyda’i brawd Richard Lloyd (1834-1917) yn Llanystumdwy, Gogledd Cymru. Addysgwyd Lloyd George yn yr Ysgol Genedlaethol yno, ac ar ôl gadael yn 1878 yn bymtheg oed, aeth at gwmni o gyfreithwyr ger Porthmadog. Yn 1884 bu’n llwyddiannus yn arholiadau terfynol Cymdeithas y Gyfraith gan ennill anrhydedd a sefydlodd bractis ei hun yng Nghricieth lle gwnaeth enw iddo’i hun fel siaradwr huawdl a dadleuwr heb ei ail.

Yn 1890, cafodd ei ethol yn Ymgeisydd Rhyddfrydol dros fwrdeistrefi Caernarfon. Materion Cymreig oedd yn mynd â’i fryd fel aelod Seneddol ar y dechrau, yn benodol agwedd y llywodraeth tuag at ddatgysylltiad a phwnc y tir. Roedd yn ymgyrchydd amlwg dros Fudiad Cymru Fydd, oedd yn ceisio cael hunan lywodraeth i Gymru.

Daeth yn Llywydd y Bwrdd Masnach yn 1905, pan ddaeth y Rhyddfrydwyr i rym, ac amlygodd allu gweinyddol arbennig a dawn fel cyfaddawdwr. Yn Ebrill 1908, pan ddaeth H. H. Asquith yn Brif Weinidog, cymerodd Lloyd George ei le fel Canghellor y Trysorlys. Cyflwynodd ei gyllideb ddadleuol gyntaf yn 1909, a wrthodwyd gan Dŷ’r Arglwyddi. Yn 1911, llwyddodd i gyflwyno Mesur Yswiriant Cenedlaethol, oedd yn cynnwys yswiriant iechyd a diweithdra. Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd yn 1914 roedd her fawr yn ei wynebu i sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad. Ym Mai 1915 ffurfiwyd y Llywodraeth Unedig gyntaf, daeth yn Weinidog Arfau, a phan fu farw’r Arglwydd Kitchener ym Mai 1916, fe’i holynodd fel Ysgrifennydd Rhyfel.

Yn Rhagfyr 1916, ymddiswyddodd H. H. Asquith, a daeth Lloyd George yn Brif Weinidog, gan arwain y wlad drwy flynyddoedd y rhyfel. Un o’r pethau pwysicaf a gyflawnodd yn ystod y cyfnod hwn oedd creu unoliaeth ymhlith arweinwyr lluoedd arfog y cynghreiriaid. Ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, roedd yn un o’r rhai mwyaf blaenllaw yn y Gynhadledd Heddwch, a gynhaliwyd ym Mharis, yn 1919. Yn 1921, ar ôl trafodaeth hir, llwyddodd i sicrhau’r Cytundeb Eingl-Wyddelig. Yn 1922, pan ymddiswyddodd yr aelodau Ceidwadol o’r llywodraeth, gan ei gwneud yn amhosibl i’r llywodraeth unedig barhau, ymddiswyddodd Lloyd George yntau fel Prif Weinidog.

Bu’n weithgar ym maes gwleidyddiaeth am nifer o flynyddoedd, ond ni ddaliodd unrhyw swydd ar ôl hyn. Cyhoeddodd ei War Memoirs yn 1938. Yn ystod blwyddyn olaf ei fywyd, fe’i gwnaed yn Iarll Lloyd George o Ddwyfor 1af ac yn Is-iarll Gwynedd. Bu farw yn Llanystumdwy a chafodd ei gladdu ar lan yr afon Dwyfor.

Priododd ddwywaith; yn gyntaf i Margaret Owen, yn 1888, a chael pump o blant. Yn ail yn 1943, i Frances Stevenson a fu’n feistres ac yn ysgrifenyddes iddo am flynyddoedd. Dilynodd dau o’i blant, Gwilym a Megan, eu tad i faes gwleidyddiaeth.


Angharad Llwyd (1780 -1866)

Roedd Angharad Llwyd yn hynafiaethydd ac enillodd wobrau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Fe’i ganed yng Nghaerwys, Sir y Fflint. Roedd ei thad yn hynafiaethydd nodedig ac yn Rheithor Caerwys, y Parchedig John Lloyd (1733-1793).

Enillodd wobr am ei thraethawd ‘Catalogue of Welsh Manuscripts, etc. in North Wales,’ yn Eisteddfod y Trallwng, 1824. Golygodd fersiwn diwygiedig o The History of the Gwydir Family, Syr John Wynn yn 1827. Enillodd ei phrif waith The History of the Island of Mona (1832), y wobr gyntaf yn Eisteddfod Biwmares, yn 1832. Roedd yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion Llundain.


William Ewart Gladstone (1809-1898)

Ganed William Ewart Gladstone, prif weinidog a gwleidydd, yn Lerpwl yn 1809, pumed plentyn Syr John Gladstone, barwnig cyntaf (1764-1851) a’i ail wraig Anne, née Robertson (1771/2-1835). Roedd ei dad yn AS ac yn fasnachwr llwyddiannus. Fe’i haddysgwyd yn Eton a Choleg Crist, Rhydychen. Yng Nghymdeithas Drafod yr Undeb yn Rhydychen gwnaeth enw iddo’i hun fel siaradwr o fri.

Daeth yn aelod seneddol dros Newark yn 1832, fel Ceidwadwr. Gwnaeth argraff, ac ar ôl nifer o is benodiadau o dan y Prif Weinidog, Robert Peel, fe’i penodwyd yn Llywydd y Bwrdd Masnach yn 1843. Roedd yn symud yn araf at ryddfrydiaeth, a phan wahanodd y Ceidwadwyr yn 1846, daeth yn Geidwadwr-Rhyddfrydol. Aeth drwy gyfnod o ddatgysylltiad gwleidyddol rhwng 1846 ac 1859, er iddo ddod yn Ganghellor y Trysorlys yn llywodraeth unedig yr Arglwydd Aberdeen, swydd a fyddai’n ei dal deirgwaith cyn diwedd ei yrfa.

Ymunodd â’r Rhyddfrydwyr yn 1859 ac fel arweinydd y Blaid Ryddfrydol, daeth yn Brif Weinidog yn 1868. O dan ei lywodraeth ef, sefydlwyd system o addysg genedlaethol. Gwnaeth newidiadau o bwys yn y system gyfiawnder ac yn y gwasanaeth sifil. Yn 1869 dadsefydlodd a dadwaddolodd yr Eglwys Brotestannaidd yn Iwerddon, a phasiodd Ddeddf Tir Iwerddon gyda’r nod o reoli perchnogion tir afresymol. Collodd Gladstone etholiad cyffredinol 1874, a daeth ei wrthwynebydd  Benjamin Disraeli yn Brif Weinidog y llywodraeth Geidwadol. Rhoddodd Gladstone y gorau i fod yn arweinydd y Rhyddfrydwyr, ond parhaodd i wrthwynebu a herio’r llywodraeth.

Yn 1880, daeth y Rhyddfrydwyr yn ôl i lywodraethu gyda mwyafrif ysgubol, a daeth Gladstone yn Brif Weinidog unwaith eto. Llwyddodd i weithredu cynllun o newidiadau seneddol, a gyfrannodd yn helaeth at sicrhau bod gan bob dyn bleidlais. Roedd yn araf i ymateb i rai materion ymerodrol, ac effeithiodd hyn ar ei boblogrwydd, ac yn 1885 trechwyd cyllideb y llywodraeth, gan arwain at ei ymddiswyddiad.

Yn ystod trydydd (1886) a phedwerydd (1892-1894) tymor Gladstone fel Prif Weinidog, roedd yn daer i gael mesur hunanlywodraeth i Iwerddon, a pharodd ei ymdrech i ddatrys hyn ar ôl gadael y llywodraeth. Ond holltwyd ei blaid gan yr ymgais i gyflwyno’r mesur, a chafodd ei wrthod. Ar ôl apelio i’r wlad, fe’i trechwyd yn yr etholiad. Yn 1893, ar ôl iddo ddychwelyd am y tro olaf i’r llywodraeth, pasiwyd mesur Hunanlywodraeth yn Nhŷ’r Cyffredin ond fe’i gwrthodwyd gan Dŷ’r Arglwyddi. Ac yntau’n mynd i oed ymddiswyddodd ym Mawrth 1894. Bu farw ym Mhenarlâg, ac fe’i claddwyd yn Abaty Dan Steffan.

Yn 1839 priododd Catherine, merch Syr Stephen Glynne, wythfed barwnig (1780-1815), a’u cartref priodasol oedd Castell Penarlâg yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Cawsant wyth o blant, gan gynnwys Henry Neville Gladstone (1852-1935), gŵr busnes a Herbert John Gladstone (1854-1930), gwleidydd Rhyddfrydol.


Owen M Edwards (1858-1920)

Ganed a maged Syr Owen Morgan Edwards, hanesydd, addysgwr a llenor yn Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd. Astudiodd yng Ngholeg y Bala, ac yna rhwng 1880-1883 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle astudiodd Saesneg, hanes ac athroniaeth. Yna rhwng 1883-1884 astudiodd athroniaeth yng Nglasgow, ac aeth i Goleg Balliol, Rhydychen rhwng 1884-1887. Cafodd gyfnod llwyddiannus iawn yno gan ennill tair o brif wobrau’r brifysgol, ac yn 1887 graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn hanes.

Ar ôl treulio cyfnod yn teithio yn Ewrop, dychwelodd i fywyd academaidd yn Rhydychen, gan ddod yn ddarlithydd a thiwtor hanes. Dau ddylanwad pwysig arno yn ystod y cyfnod hwn yn Rhydychen oedd esthetigaeth Ruskin a William Morris, a Chymdeithas Dafydd ap Gwilym, fu’n gyfrifol am hybu astudio llenyddiaeth Gymraeg ar ddechrau’r 19eg ganrif. 

O 1890 ymlaen bu’n golygu nifer o gylchgronau Cymreig, yn cynnwys Cymru Fydd (1890), Cymru (1891), Cymru'r Plant (1892), Wales (1894), Y Llenor (1895) a Heddyw (1897). Yn Cartrefi Cymru (1896), cyflwynodd gartrefi unigolion adnabyddus oedd wedi cyfrannu at fywyd diwydiannol Cymru. Yn 1906 sefydlodd 'Urdd y Delyn', cymdeithas plant a ragflaenodd 'Urdd Gobaith Cymru' a sefydlwyd gan ei fab Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922. 

Yn 1907, penodwyd ef yn Brif Arolygydd Ysgolion, y cyntaf ohonynt, gan weithio i’r Adran Addysg Gymraeg oedd wedi ei sefydlu’n ddiweddar. Diwygiodd system addysg Cymru gan hybu dysgu Cymraeg a gwella awyrgylch ysgolion Cymru. Gweithiodd yn ddiflino i hybu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg, a hanes a diwylliant Cymru.

Treuliodd un tymor fel AS Rhyddfrydol dros Sir Feirionnydd, ond ni safodd eilwaith yn etholiad cyffredinol 1900. Cafodd ei urddo yn Ionawr 1916 a chafodd D.Litt honoris causa gan Brifysgol Cymru yn 1918.


Llyfryddiaeth

  • Archifau Cymru, ‘Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Lloyd George MSS’
  • McGovern, Una (ed.), 2002. Chambers Biographical Dictionary. 7fed argraffiad. Edinburgh: Chambers Harrap
  • H. C. G. Matthew, ‘Gladstone, William Ewart (1809-1898)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Medi 2004; arg. arlein, Mai 2008
  • Wright, Evan Gilbert, ‘Angharad Llwyd (1780-1866)', Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1959; arg. arlein, 2007
  • Robert Thomas Jenkins ‘Edwards, Sir Owen Morgan (1858-1920)', Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1959; arg. arlein, 2007

Crefydd

Evan Roberts (1878-1951)

Ganed Evan John Roberts, arweinydd carismataidd Diwygiad Crefyddol Cymru 1904-05, ym Mwlchmynydd, Casllwchwr, Sir Forgannwg yn 1878. Gweithiodd yn y pyllau glo yng Nghasllwchwr ac Aberpennar er pan oedd yn 12 oed, yna ail hyfforddodd fel gof, cyn troi at y weinidogaeth. Tua diwedd 1903, dechreuodd bregethu ym Moriah, Casllwchwr a mynychodd ddosbarthiadau diwinyddol yng Nghastell Newydd Emlyn. Ar ôl cael ‘gyffwrdd’ gan yr Ysbryd Glân, cefnodd ar ei astudiaethau, a dychwelodd i Gasllwchwr i ledaenu’r Efengyl.

Roedd pregethu Roberts yn denu cannoedd ar y tro, ac ymledodd deffroad crefyddol grymus drwy Gymru. Daeth yn ffigwr amlwg yn Niwygiad Crefyddol 1904-05 (fel y’i gelwir). Cynyddodd aelodaeth eglwysi’n sylweddol, a chododd to newydd o arweinwyr a gweinidogion yn yr eglwysi.  Ymledodd y deffroad i rannau eraill o Brydain, ac ymhellach i ffwrdd i’r meysydd cenhadol. Daeth arddull Roberts o bregethu’n batrwm i gyrff crefyddol newydd megis y Mudiad Pentecostaidd a’r Eglwys Apostolaidd.

Fodd bynnag, ar ôl ychydig mwy na blwyddyn o bregethu cyhoeddus, rhoddodd Roberts y gorau iddi oherwydd blinder mawr. Aeth i Loegr i ymadfer, ac yno y bu’n byw am nifer o flynyddoedd. Cymerodd ran o dro i dro mewn cyfarfodydd yng Nghymru rhwng 1925-30, a dychwelodd i fyw i ardal Caerdydd, lle cyfansoddodd nifer o emynau a cherddi. Cyhoeddwyd casgliad o’i emynau yn Aberdâr yn 1905.


Mary Jones, y Bala (1784-1866)

Cymraes ifanc a Christion Protestannaidd oedd Mary Jones. Pan oedd 16 oed cerddodd bum milltir ar hugain o’i chartref i’r Bala i brynu copi o’r Beibl Cymraeg iddi’i hun. Prynodd y Beibl gan Thomas Charles (1755-1814), offeiriad a Chymro amlwg, oedd wedi cysegru ei fywyd i’r efengyl ac addysg.

Roedd ei rhieni yn Fethodistiaid Calfinaidd pybyr, a daeth Mary’n Gristion yn wyth oed. Fe’i dysgwyd i ddarllen yn yr ysgolion cylchynol a sefydlwyd gan Thomas Charles, a daeth yn freuddwyd ganddi i gael ei Beibl ei hun. Cynilodd am chwe blynedd, ac yn 1800 cerddodd yn droednoeth i’r Bala i brynu Beibl gan Thomas Charles, er nad oedd sicrwydd y byddai copi yno iddi.

Y gred draddodiadol yw bod y daith hon gan Mary wedi cael gymaint o effaith ar Charles nes ysbrydolwyd ef i gynnig i Gyngor y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristnogol ffurfio Cymdeithas i gyflenwi Beiblau yng Nghymru. Yn 1804, sefydlwyd y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor yn Llundain. Yn ddiweddarach priododd Mary ac ymgartrefodd ym Mryn-crug, ger Tywyn, Gwynedd.


Christmas Evans (1766-1838)

Gweinidog gyda’r Bedyddwyr oedd Christmas Evans ac un o’r pregethwyr enwocaf yn hanes crefydd yng Nghymru. Fe’i ganed yn Llandysul, Ceredigion yn 1838. Tra’r oedd yn blentyn, gweithiodd fel gwas fferm i’r enwog David Davis Castellhywel. Pan oedd yn 18 oed, ymunodd ag un o’r eglwysi yr oedd Davis yn eu gweinidogaethu, ac aeth i un o’i ysgolion. Yno y dysgodd ddarllen ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg, a maes o law dechreuodd bregethu.

Dylanwadodd yr awyrgylch crefyddol tanbaid yn Eglwys Bedyddwyr Aberdyar, Llandysul, yn fawr arno, gan ysgogi ei waith yn pregethu. Cafodd ei ordeinio yn 1789 ac ymgartrefodd yn Llŷn, Gogledd Cymru, gan deithio’n bell ar droed neu ar gefn ceffyl i bregethu i’w gynulleidfaoedd. Symudodd i Ynys Môn, ble y sefydlodd gymuned gref i’r Bedyddwyr. Roedd yn bregethwr hynod o boblogaidd a llwyddiannus.

Bu’n weinidog yng Nghaerffili  (1826-8), Caerdydd (1828-32) a Chaernarfon (1832-8). Cododd lawer o arian i dalu dyledion capeli, a chodwyd nifer o gapeli newydd. Daeth yn un o’r tri ffigwr amlycaf yn ‘oes aur’ pregethu, ynghyd â John Elias (1774-1841) a William Williams (1781-1840).


Yr Esgob William Morgan (1545-1604)

Ganed William Morgan yn Nhŷ Mawr Wybrnant, ym mhlwyf Penmachno, ger Betws-y-coed, Gogledd Cymru. Astudiodd Athroniaeth, Mathemateg a Groeg ymysg pynciau eraill, ym Mhrifysgol Caergrawnt, gan raddio yn 1568. Graddiodd yn MA yn 1571, cyn ymroi i astudiaethau Beiblaidd am saith mlynedd. Graddiodd yn BD yn 1578 a DD yn 1583.

Yn ogystal â bod yn ysgolhaig talentog, roedd William Morgan yn weinidog ordeiniedig. Penodwyd ef yn ficer Llanrhaeadr-ym-mochnant a Llanarmon o 1578, a daeth yn Esgob Llandaf yn 1595, a Llanelwy yn 1601.

Cyfieithwyd a chyhoeddodd y Testament Newydd yn Gymraeg yn 1567 gan William Salesbury, (b. cyn 1520, d. c.1580), cyfieithydd ac ysgolhaig. Er mor bwysig oedd cyflawni’r gwaith hwn, credai Morgan fod angen cyfieithu’r Hen Destament i’r Gymraeg hefyd. Dechreuodd gyfieithu’r Hen Destament ar ddechrau’r 1580au ac fe’i cyhoeddodd, yn ogystal â fersiwn diwygiedig o Destament Newydd Salesbury, yn 1588. Argraffwyd  mil o gopïau yn wreiddiol, gwnaed ail argraffiad, ac roedd Beibl llai ar gael o1630 ymlaen.

Aeth Morgan ymlaen i weithio ar fersiwn diwygiedig o’r Llyfr Gweddi a Beibl 1588. Parhaodd y gwaith wedi marwolaeth Morgan dan ofal Richard Parry a Dr John Davies, a chyhoeddwyd fersiwn diwygiedig o’r Beibl yn ddiweddarach yn 1620. Mae ei waith yn cael ei ystyried yn garreg filltir bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg, gan ei fod wedi rhoi’r cyfle i’r Cymry ddarllen y Beibl yn eu mamiaith.


Llyfryddiaeth

  • Culturenet Cymru, 2004. 100 Arwyr Cymru. Aberystwyth : Culturenet Cymru
  • John Thomas Jones, ‘Evans, Christmas (1766-1838),’ Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1959; arg. arlein, 2007
  • Williams, Elisabeth, 1998. To Bala for a Bible. Bridgend: Evangelical Press of Wales
  • Glanmor Williams, ‘Morgan, William (c.1545-1604),' Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2001; arg. arlein, 2007

Gwyddoniaeth ac Arloesi

Henry Morton Stanley (1841-1904)

Ganed Henry Morton Stanley, newyddiadurwr ac arloeswr, yn John Rowlands yn Ninbych, Gogledd Cymru, yn 1841. Bu farw ei dad pan oedd yn ddwy oed, a chafodd ei fagu gan ei daid nes ei fod yn bump. Yn fuan wedyn cafodd ei anfon i wyrcws Llanelwy, a bu yno nes oedd yn 15 oed. Ar ôl gorffen ei addysg elfennol, gweithiodd fel athro-ddisgybl mewn Ysgol Genedlaethol, cyn gadael a mynd i America yn 1859, yn 18 oed, i chwilio am fywyd newydd. Daeth yn gyfeillgar â gŵr busnes o’r enw Henry Stanley, a mabwysiadodd ei enw. Gwasanaethodd yn Rhyfel Cartref America, i’r ddwy ochr. Yn ddiweddarach ymunodd â’r Llynges, ond gadawodd, a dechreuodd yrfa fel newyddiadurwr.

Yn 1867, daeth yn un o ohebwyr tramor y New York Herald. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe’i comisiynwyd gan gwmni papur newydd i ddod o hyd i’r arloeswr, David Livingstone, oedd yn Affrica er na wyddai neb yn union ble. Neilltuwyd swm helaeth o arian i ariannu’r daith, a theithiodd Stanley i Zanzibar ym Mawrth 1871, i ddechrau ei daith 700-milltir drwy’r goedwig law drofannol, gyda mwy na 200 o ŵyr yn cludo offer a  bwyd. Canfu Stanley ef ar 10 Tachwedd 1871, yn byw ger Llyn Tanganyika, yn Nhanzania, a chredir iddo’i gyfarch gyda’r geiriau enwog ‘Dr Livingstone, I presume?’

Teithiodd Stanley yng nghwmni Livingstone i archwilio’r ardal, ac ysgrifennodd lyfr am ei brofiadau ar ôl dychwelyd How I found Livingstone: travels, adventures and discoveries in Central Africa (1869). Daeth llwyddiant y llyfr â Stanley i sylw’r cyhoedd. Yn 1874, dychwelodd Stanley i Affrica i barhau’r gwaith archwilio, gyda chymorth ariannol y New York Herald a Daily Telegraph Prydain. Dilynodd yr afon Congo, a ffrwyth y daith epig hon oedd cyhoeddi Through the Dark Continent (1878).

Yn 1878 daeth Brenin Leopold II o Wlad Belg, at Stanley, roedd yn awyddus i ddatblygu rhannau o Affrica, a manteisio ar gyfoeth yr ardal. O ganlyniad dychwelodd Stanley i Affrica, i ran isaf yr afon Congo, a gyda chymorth Brenin Leopold, agorwyd ffyrdd newydd. Arweiniodd gwaith Stanley yno at greu Talaith Rydd Congo, oedd yn eiddo preifat i Frenin Leopold.

Ar ôl dychwelyd i Ewrop, priododd merch o Gymru oedd yn arlunydd, sef Dorothy Tennant, yn 1890. Daeth yn aelod Seneddol dros Lambeth North, Llundain yn 1895, a bu yn y swydd honno tan 1900. Cafodd ei urddo yn 1899, i gydnabod ei wasanaeth i’r Ymerodraeth Brydeinig yn Affrica.


Thomas Pennant (1726 -1798)

Ganed Thomas Pennant, naturiaethwr, hynafiaethydd a theithiwr i deulu bonedd Cymreig o Whitford, Sir y Fflint. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadeg Wrecsam, yna symudodd yn 1840 i Ysgol Thomas Croft yn Fulham, Llundain. Pan oedd yn 18 oed, dechreuodd astudio yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, ond gadawodd heb gymryd ei radd. Wrth deithio yng Nghernyw yn 1746-1747, cyfarfu â’r hynafiaethydd a’r naturiaethwr William Borlase. Aildaniodd ddiddordeb Pennant mewn mwynau a ffosiliau, ac ysgogodd Borlase ef i ymroi i astudiaethau gwyddonol pellach yn ystod y 1750au. 

Ar ôl gadael y Brifysgol, teithiodd Pennant yn helaeth ym Mhrydain ac Ewrop. Cwblhaodd ddisgrifiadau ysgrifenedig manwl am ei deithiau, ac ystyrir bod A Tour in Wales (1778-1783) ymysg y gweithiau gorau mewn llenyddiaeth Gymraeg ar ôl 1770. Cyflogodd yr arlunydd, Moses Griffith i wneud y rhan fwyaf o’r darluniau ar gyfer ei wahanol lyfrau. Gwnaed nifer o ddarluniau hefyd gan John Ingleby o Halcyn, yn bennaf ar gyfer ei drefluniau a’i bortreadau bach. Fel noddwr, prynai Pennant weithiau gan arlunwyr topograffigol adnabyddus. 

Roedd ei wybodaeth eang mewn sŵoleg yn amlwg yn nifer o’r llyfrau a gyhoeddodd yn cynnwys British Zoology (1761-1777) an Arctic Zoology (1785-1787). Derbyniodd sawl anrhydedd a chydnabyddiaeth yn ystod ei oes yn cynnwys Cymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr (1754), Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol (1767), a gradd anrhydeddus gan Brifysgol Rhydychen (1771), ymysg eraill. Cyhoeddwyd ei hunangofiant adnabyddus The Literary Life yn 1793, ac mae’n ffynhonnell wybodaeth gyfoethog am yr ysgolhaig adnabyddus hwn.


Llyfryddiaeth

  • Gwefan y BBC, ‘Henry Stanley (1841-1904)’
  • William Llewelyn Davies, ‘Stanley, Sir Henry Morton, formerly Rowlands, John (1841-1904)' Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1959; arg. arlein, 2007
  • Hall, Richard, 1974. Stanley : an adventurer explored. London: Collins, 1974.
  • Charles W. J. Withers, ‘Pennant, Thomas (1726–1798)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Medi 2004; arg. arlein, Hydref 2007 

Busnes a Diwydiant

Edward Gordon Douglas-Pennant (1800-1886)

Roedd y Cymro Edward Gordon Douglas-Pennant yn berchennog tir a gwleidydd. Ganed yn Edward Gordon Douglas yn 1800. Ei daid, ar ochr ei dad oedd James Douglas, 14eg Iarll Morton, a’i frawd hŷn oedd George Sholto Douglas, 17eg Iarll Morton. Etifeddodd ystâd y Penrhyn, ger Bangor, Gogledd Cymru, gan Richard Pennant, perthynas i’w wraig, Juliana (1737?-1808), a newidiodd ei enw drwy Drwydded Frenhinol i Douglas-Pennant.

Roedd yn berchennog tir pwerus, a ehangodd ystâd y Penrhyn yng Nghymru a Lloegr. Daeth yn berchennog Chwarel Lechi’r Penrhyn, ger Bethesda, Gogledd Cymru. O dan ei berchnogaeth, ehangodd y chwarel nes ei bod yn un o’r chwareli llechi mwyaf yn y byd.

Dechreuodd ymhél â gwleidyddiaeth, a rhwng 1841-1865 daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon. Yn 1866 fe’i gwnaed yn Arglwydd Penrhyn o Landygai. Cafodd ei olynu gan ei fab hynaf George Sholto Gordon Douglas-Pennant (1836-1907).


Lewis Weston Dillwyn (1778-1855)

Ganed Lewis Weston Dillwyn, naturiaethwr a gŵr busnes, yn 1778 yn Hackney, Llundain Fwyaf. Roedd ei dad, a aned yn America ac a fu’n byw yno am y rhan fwyaf o’i fywyd, yn ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn caethwasiaeth. Cafodd addysg  yn Ysgol y Cyfeillion dan ofal y Crynwyr yn Tottenham. Yn 1798, aeth i Dover a dechreuodd astudio planhigion. Fe’i gwnaed yn gymrawd y Gymdeithas Linneaidd yn 1800.

Yn 1802, prynodd ei dad Grochendy’r Cambrian yn Abertawe, a rhoddodd y lle dan ofal ei fab. Symudodd i’r ardal, gan fyw i ddechrau yn Burrough Lodge, yna yn Sketty Hall. Yn 1814, daeth dylunwyr a chrefftwyr Crochendy Nantgarw dan reolaeth Crochendy’r Cambrian, a dechreuwyd gweithgynhyrchu porslen. Bu’n rhedeg y cwmni tan 1817.

Roedd hefyd yn adnabyddus am y gwaith a gyhoeddodd ar fotaneg a chregynneg. Dechreuodd gyhoeddi ei brif waith botaneg, the Natural History of British Confervae, astudiaeth ddarluniadol o algae dŵr croyw ym Mhrydain, yn 1802, gan ei gwblhau yn 1809. Yn 1805 cyhoeddodd Botanist’s Guide through England and Wales gyda Dawson Turner, ac wyth mlynedd yn ddiweddarach yn 1817, cyhoeddodd A Descriptive Catalogue of British Shells.

Yn sgil y Ddeddf Diwygio etholwyd Dillwyn yn 1832 i’r senedd fel aelod dros Forgannwg. Roedd wedi bod yn uchel siryf y sir yn 1818. Rhoddwyd hawlfraint bwrdeistref Abertawe iddo yn 1834, ac yn 1839 ef oedd Maer Abertawe.

Yn 1807, priododd Mary Adams (1776-1865), merch John Llewelyn o Benlle’r-gaer, Llangyfelach, Morgannwg, a chawsant dri mab a thair merch. Roedd eu mab, John Dillwyn Llewelyn (1810-1882) yn ffotograffydd ac yn wyddonydd arbrofol. Roedd eu mab Lewis Llewelyn Dillwyn AS (1814-1892) yn Rhyddfrydwr Cymreig enwog.


Llyfryddiaeth

  • Archifau Cymru, ‘Prifysgol Abertawe, Dillwyn family'
  • Douglas Pennant, E. H., 1982. The Pennants of Penrhyn: a genealogical history of the Pennant family of Clarendon, Jamaica, and Penrhyn Castle. Bethesda: Gwasg Ffrancon
  • B. D. Jackson, ‘Dillwyn, Lewis Weston (1778–1855)’, rev. Alexander Goldbloom, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004
  • National Trust, 2009. Penrhyn Castle, Gwynedd. Swindon: The National Trust

Chwaraeon ac Adloniant

Jimmy Wilde (1892-1969)

Ganed William James (Jimmy) Wilde, bocsiwr a phencampwr pwysau pryf, ym Mhont-y-gwaith, ym mhlwyf Craig Berth-lwyd, ger Tylortown yn Ne Cymru. Gadawodd yr ysgol pan oedd yn dair ar ddeg oed drwy lwyddo mewn arholiad i gael tystysgrif gwaith. Aeth i weithio yn y pyllau glo, ac er mwyn ennill ychydig mwy o arian, cymerodd ran mewn gornestau mewn stondinau bocsio mewn ffeiriau. Prin y byddai’n colli gornest, ac yn fuan iawn gwnaeth enw iddo’i hun fel bocsiwr. Daeth yn enwog yn y cylch bocsio Cymreig, a phenderfynodd adael y pyllau glo er mwyn dilyn gyrfa mewn bocsio.

Roedd ei ymddangosiad swyddogol cyntaf ar 26 Rhagfyr 1910, pan ymladdodd yn erbyn Les Williams mewn gornest tair rownd ddi-sgôr. Yn fuan wedyn enillodd ornest ar 1 Ionawr, 1911, yn erbyn Ted Roberts. Enillodd pob gornest o’r 103 nesaf, ac enillodd bencampwriaeth pwysau pryf Prydain yng Nglasgow yn 1912. Er iddo golli teitl Prydain yn 1915, llwyddodd i’w adennill yn 1916, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno daeth yn Bencampwr Pwysau Pryf y Byd cyntaf pan roddodd grasfa i Young Zulu Kid o’r Unol Daleithiau. Daliodd ei afael ar y teitl hwn nes iddo ymddeol yn swyddogol. 

O 1911 tan ei ymddeoliad, bu’n ymladd mewn cyfanswm o 138 o ornestau, yn cynnwys saith gornest Prydeinig neu fyd, a’r ‘Lord Lonsdale Challenge Belt’. Cafodd sawl ffugenw, megis ‘the Mighty Atom’, ‘the Tylorstown Terror’ a ‘the Ghost with a Hammer in his hands’ oherwydd ei ddyrnau nerthol a’i draed chwim.

Ar ôl iddo ymddeol, daliodd i weithio fel rheolwr bocsio a hyrwyddwr gornestau bocsio.


John Charles (1931-2004)

Ganed (William) John Charles, pêl-droediwr, yn 1931, yng Nghwmbwrla, Abertawe. Addysgwyd ef yn ysgol iau Cwmdu ac ysgol uwchradd Manselton. Daeth yn amlwg yn fuan iawn ei fod yn bêl-droediwr talentog. Fe’i dewiswyd i chwarae i dîm ysgol Manselton yn ei flwyddyn gyntaf, yna i ysgolion Abertawe pan oedd yn ddeuddeg oed. Ar ôl gadael yr ysgol yn 1946, ymunodd â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe fel aelod o staff.

Cafodd Charles ei gyfle cyntaf yn y gêm broffesiynol pan arwyddwyd ef gan Leeds United i chwarae fel cefnwr, ar ôl iddynt ei weld yn chwarae i Gendros, clwb ieuenctid lleol yn Abertawe. Chwaraeodd ei gemau cynharaf gyda Leeds fel cefnwr, cyn symud i safle canolwr. Roedd ei gêm gyntaf yn nhîm cyntaf Leeds yn gêm gyfeillgar yn erbyn y clwb o’r Alban, ‘Queen of the South’. Yn ôl Billy Houliston, canolwr blaen y clwb hwnnw, Charles oedd y ‘blaenwr gorau iddo’i gyfarfod erioed.’ Sgoriodd Charles 150 o golau cynghrair mewn wyth mlynedd i Leeds, a chwaraeodd yn eithriadol o dda yn safle’r canolwr a chanolwr blaen.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn 1950, yn chwarae yn erbyn Gogledd Iwerddon, ac yntau’n 18 oed. Roedd hon yn record yng Nghymru, a barhaodd tan 1991. Yn ystod cyfnod o wasanaeth cenedlaethol rhwng 1950 a 1952, chwaraeodd Charles i dîm y Fyddin, yn ogystal â chymryd rhan mewn chwaraeon eraill yn rheolaidd megis bocsio a rhedeg.

Yn 1957 fe’i trosglwyddwyd i glwb Juventus yn yr Eidal, am ffi drosglwyddo gwerth £65,000, oedd yn record, bron i ddwywaith cymaint â’r hyn a dalwyd o’r blaen am chwaraewr o Brydain. Treuliodd gyfanswm o bum mlynedd efo’r tîm, gan sgorio 93 gôl mewn 155 o gemau. Cafodd lwyddiant yn syth, a gyda Charles fel sgoriwr pennaf y tîm, enillodd y tîm bencampwriaeth y gynghrair yn 1957, a chawsant lwyddiant pellach yn 1960 a 1961, a chwpan yr Eidal yn 1959 a 1960. Yn 1997 drwy bleidlais, dewiswyd ef fel y chwaraewr tramor gorau gan gefnogwyr Juventus, ac ef oedd y chwaraewr tramor cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer rhestr enwogion pêl-droed yr Eidal.  Câi ei adnabod fel ‘il Buon Gigante’ neu’r ‘Cawr Addfwyn.’

Dychwelodd Charles i Leeds yn 1962, ond ni fu’r cyfnod hwn mor llwyddiannus iddo, ac ar ôl tri mis, dychwelodd i’r Eidal at Roma. Ni chafodd gystal hwyl, a chafodd ei adael allan o’r tîm. Ymunodd â Dinas Caerdydd ar ddiwedd tymor 1962-3. Chwaraeodd dri thymor gyda hwy yn yr ail gynghrair, a chwaraeodd ei gêm olaf i Gymru yn 1965, gan gwblhau ei rediad o dri deg wyth o gapiau a phymtheg gôl.

Symudodd i bêl-droed y tu allan i’r gynghrair gyda Hereford United yna Merthyr Tudful, ac roedd yn dal yn chwaraewr medrus ac yntau yn ei bedwar degau. Daeth yn rheolwr ar Ferthyr a Hereford, a rheolwr y tîm ieuenctid yn Ninas Abertawe o 1974 i 1976. Cafodd nifer o broblemau iechyd yn ddiweddarach yn ei fywyd, a bu farw yn Ysbyty Pinderfields, Wakefield, yn 2004.


Ivor Novello (1893-1951)

Ganed Ivor Novello (ei enw iawn oedd David Ivor Davies), cyfansoddwr, actor a dramodydd yn 1893 yng Nghaerdydd, yn unig fab i David Davies a Clara Novello Davies. Roedd ei fam yn athrawes ganu ac yn arweinydd côr, a rhoddodd wersi canu i Ivor. Arweiniodd hyn at lwyddiant mewn eisteddfodau, ac ysgoloriaeth i Goleg Magdalen, Rhydychen ac yntau ond yn 10 oed. Bu yno am bum mlynedd.

Dim ond 15 oed oedd Novello pan gyfansoddodd ei gân gyntaf ‘Spring of the Year,’ ond cafodd fwy o lwyddiant gyda’r gân ‘The Little Damozel’ a gyfansoddodd yn ddiweddarach yn 1910. Symudodd i Lundain yn 1913, a’r fflat yn Rhif 11 Aldwych oedd ei gartref yn Llundain am weddill ei oes. Daeth Syr Edward Marsh yn noddwr iddo yno, a chafodd ei annog i gyfansoddi mwy o ganeuon. Newidiodd ei enw i Ivor Novello trwy weithred newid enw yn 1927.

Cyfansoddodd un o’i ganeuon mwyaf llwyddiannus yn ystod y rhyfel gyda’r gân ‘Till the boys come home (Keep the home fires burning’), i eiriau Lena Guilbert Ford. Cyfansoddodd bron i 60 o faledi a chaneuon yn ystod ei yrfa. Cafodd ei lwyddiant mawr cyntaf yn cyfansoddi i sioeau gyda Theodore & Co., cynhyrchiad gan George Grossmith ac Edward Laurillard, gyda chyfansoddiad ar y cyd gan Novello a Jerome Kern. Yn ddiweddarach gwnaeth gyfansoddiadau eraill ar gyfer See-saw, Arlette, Who’s Hooper? a The Golden Moth, ymysg eraill.

Ar ôl cyfnod yn gwasanaethu yn y fyddin, cynigiwyd ei ran actio gyntaf i Novello yn 1921 yn y ffilm fud The Call of the Blood (1920), oedd yn gychwyn ar yrfa lwyddiannus ym myd ffilmiau. Ei ddyhead pennaf oedd bod yn actor ar lwyfan, a gwireddwyd hynny yn 1921 pan ymddangosodd yn Deburaut. Aeth yn ei flaen i gynhyrchu a chymryd rhan yn y ddrama lwyddiannus The Rat, yn 1924. Roedd ffilm o The Rat (1925) yn llwyddiant mawr ac arweiniodd at ddwy ffilm ddilynol. Ysgrifennodd a chymerodd ran mewn nifer o ddramâu eraill cyn troi at sioeau cerdd poblogaidd megis Glamorous night (1935) a King’s Rhapsody (1949), yr olaf ohonynt.


John Orlando Parry (1810-1879)

Ganed John Orlando Parry, actor a chanwr, yn Llundain yn 1810. Roedd yn unig fab i’r cerddor John Parry (1776-1851) (Bardd Alaw fel y câi ei adnabod) a’i wraig Maria. Pan oedd yn fachgen ifanc dysgodd ei dad ef i ganu a chanu’r delyn a’r piano. Hefyd astudiodd y delyn o dan Robert Boscha, ac erbyn ei fod yn 15 oed roedd yn perfformio fel telynor proffesiynol.

Canodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf ar 7 Mai 1830, yn Ystafelloedd Sgwâr Hanover, Llundain. Cafodd wersi gan Syr George Smart mewn cerddoriaeth gysegredig a chlasurol, ac roedd galw mawr amdano i berfformio mewn cyngherddau a gwyliau cerdd.

Yn 1833 aeth i’r Eidal a chafodd wersi canu gan Luigi Lablanche yn Naples, lle bu’n byw am gyfnod byr. O 1836 ymlaen, cymerodd ran mewn nifer o burlettas a pherfformiadau comig, er enghraifft The Sham Prince a ysgrifennwyd ac a gyfansoddwyd gan ei dad.

Yn 1842, cefnodd Parry ar y llwyfan ac aeth i berfformio i'r neuaddau cyngerdd. Daeth yn enwog am ei dalent arbennig fel pianydd wrth iddo berfformio mewn digwyddiadau o bwys, fel y daith gyngerdd y bu arni o gwmpas y Deyrnas Unedig gyda Camillo Sivori, Liszt ac eraill. Gwnaeth gynhyrchiad o Notes, Vocal and Instrumental yn 1850, a ysgrifennwyd gan Albert Smith. Yn y cynhyrchiad, canai mewn gwahanol leisiau, canai’r piano, sgwrsiai efo’r gynulleidfa, a newidiai ei ddillad fwy nag unwaith. Roedd y sioe’n llwyddiant, a chymerodd ran mewn sioe adloniant arall The Portfolio for Children of All Ages (1852), oedd yr un mor boblogaidd. Fodd bynnag, dirywiodd ei iechyd o ganlyniad i’r bwrlwm mawr yn ei fywyd, a bu’n rhaid iddo roi’r gorau i berfformio’n gyhoeddus.

Yn 1860, penderfynodd ailafael yn ei rôl fel perfformiwr, gan wneud perfformiadau comig, gyda deunydd a gyfansoddwyd ganddo ef ei hun, am naw mlynedd arall. Cyfansoddodd nifer o ganeuon a baledi yn ystod ei oes, ac enillodd nifer ohonynt wobrau gan y ‘Melodists’ Club’ gan gynnwys ‘Fair Daphne’ (1840) a ‘The Flying Dutchman’ (1848). Ymddeolodd yn 1869, oherwydd salwch.

Llyfryddiaeth

  • G. C. Boase, ‘Parry, John Orlando (1810–1879)’, rev. David J. Golby, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004
  • Culturenet Cymru, 2004. 100 Arwyr Cymru. Aberystwyth : Culturenet Cymru
  • Davies, Maldwyn, 2005. The ghost with a hammer and the Welsh wizard. Country Quest (May), tud.48-49
  • Mary Auronwy James, Novello, Ivor (David Ivor Davies cyn 1927; 1893-1951) Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2001; arg. arlein, 2007
  • McGovern, Una (ed.), 2002. Chambers Biographical Dictionary. 7fed argraffiad. Edinburgh: Chambers Harrap
  • Harris, Gareth, 2006. Jimmy Wilde: World flyweight champion boxer: The Tylorstown legend. Pontypridd: Coalopolis Publishing
  • Huw Richards, ‘Charles, (William) John (1931-2004)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2008; arg. arlein, Ionawr 2009
  • John Snelson, ‘Novello, Ivor (1893-1951)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Sept 2004; arg. arlein, Mai 2009
  • Welsh Warriors, ‘Jimmy Wilde, Merthyr Tydfil: World Flyweight Champion’

Cymeriadau lleol a gwerin

Mae lluniau o gymeriadau gwerin Cymru hefyd yn rhan hanfodol o Archif Portreadau Cymru. Roedd gan Syr John Ballinger, Llyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru weledigaeth i greu casgliad pan ddywedodd y dylai’r Llyfrgell gasglu ‘portreadau o ddynion a merched, nid yn unig enwogion, ond cymeriadau diddorol o bob hil.’


Jane Leonard ‘Siani pob man’ (1834-1917)

Roedd ‘Siani Pob Man’ yn gymeriad lleol adnabyddus, a drigai mewn bwthyn traddodiadol gyda waliau o bridd ar draeth Cei Bach, ger Cei Newydd, Ceredigion. Fe’i ganed yn Fferm Bannau Duon Farm, Llanarth, a bedyddiwyd hi’n Jane Leonard. Cafodd yr enw ‘Siani Pob Man’ oherwydd ei harfer o grwydro’r ardal, a galw heibio i ffermydd a thai, yn gofyn am fwyd, yn arbennig adeg cynhaeaf.

Roedd hi’n boblogaidd gyda’r twristiaid, yn wir eu hoffter ohoni a arweiniodd at gyhoeddi cardiau post yn cynnwys cerdd a llun ohoni. Yn aml eisteddai y tu allan i’w bwthyn yn bwydo’r ieir, canu rhigymau, neu’n dweud eu ffortiwn wrth yr ymwelwyr. Bu farw yn 1917, yn 83 oed, ac mae wedi’i chladdu ym Mynwent Henfynyw.


Alice Edwards, Aberaeron

Dyma ffotograff o Alice Edwards a’i theulu, o Aberaeron, Ceredigion. Tynnwyd y ffotograff yn null poblogaidd y carte-de-visite, a hynny gan Ebenezer Morgan, ffotograffydd o Aberystwyth â stiwdios ffotograffig yn Heol y Wig rhwng 1868 a 1895.


‘Twm Crwca’

Roedd Arthur Squibbs yn ffotograffydd a weithiai yng Nghei Newydd a Aberteifi o 1901 ymlaen. Tynnodd nifer o ffotograffau o bobl wrth eu gwaith bob dydd, yn cynnwys gweithwyr. Mae’r Archif Portreadau yn cynnwys casgliad o weithwyr Aberaeron ar droad y ganrif ddiwethaf, gan gynnwys ffotograff cabinet o ‘Twm Crwca’ cyhoeddwr Aberaeron yn 1901.


Mrs Price (o 'Three Horse Shoes', Llanwrda)

Mae’r eisteddwr mewn gwisg Gymreig wedi ei henwi fel ‘Mrs. Price of Three Horse Shoes, Llanwrda’.

Tynnwyd y ffotograff carte-de-visite tua 1900 gan Edward Richard Gyde, ffotograffydd o Aberystwyth â stiwdios yn Heol y Wig a Ffordd y Môr.


Llyfryddiaeth

  • Mari Alderman, 2006. Victorian Professional Photographers in Wales 1850-1925. Genuki: UK & Ireland Genealogy
  • Cyngor Sir Ceredigion, 2009. Siani Pob Man (1834-1917) Llyfrgell Ceredigion – Hanes Lleol – Awduron a chymeriadau