Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: Llyfrau lluniadu LlGC 50 a 51
Cafodd Ellis Owen Ellis ('Ellis Bryn-Coch') ei eni yn Aber-erch, Sir Gaernarfon, a dechreuodd beintio tra'n gweithio fel prentis i saer. Cefnogwyd ei yrfa fel arlunydd gan Syr Robert Williams Vaughan o Nannau (1768-1843) a Sir Martin Archer Shee (1769-1830) a fu'n gyfrifol am ei gyflwyno i lawer o arlunwyr pwysig. Canolbwyntiodd Ellis ar bynciau Cymreig gan lunio darluniadau ar gyfer llyfrau ar hanes Cymru a baledi a phortreadau o Gymry enwog. Hefyd, rhwng 1858 a 1860 lluniodd gyfres o gartwnau ar gyfer Y Pwnsh Cymreig.
Ystyriai ei hun yn arlunydd o'r iawn ryw ac ymddengys llawer o'i weithiau'n hynod hyderus ac arloesol. Tua 1844 lluniodd ddarluniau ar gyfer argraffiad o'r faled Gymraeg Betti o Lansantffraid gan Jac Glan-y-Gors (1766-1821). Cerdd ydyw am ferch o gefndir gwerinol Cymreig a oedd wedi ymwrthod â'i gwreiddiau ar ôl symud i Lundain. Gwelir thema debyg yng nghreadigaeth enwocaf Jac, sef Dic Siôn Dafydd. Dengys y darluniau wahanol gyfnodau ym mywyd Betti, o'i magwraeth yn Llansanffraid, trwy ei chyfnod yn gweithio fel morwyn yn Llundain lle cyfarfu â chefnder i Dic Siôn Dafydd, trwy ei chyfnod fel 'merch fonheddig', hyd nes y dychwelodd at ei theulu.
Dywedodd yr hen frenin Sal'mon
O flaen y rhai gwychion i gyd,
Fod amser i bob ryw amcanion,
Arferion dybenion y byd;
Mae amser gan rai i ragrithio,
I swnio a rhuo heb fod rhaid,
Ac amser i fesur neu bwyso
Cerdd Besi o Lansantffraid.
O! ra ti ti, ra ti ti ra ti,
O! ra ti ti ra ti ti ra.
Yr oedd Betti yn edrych yn wastad
Am gariad â'i llygaid yn llon,
A llawer o langciau yn blysio
Ac yn ceisio cael cusan gan hon;
Yr oedd Huwcyn Shon y clocsiwr,
A Tomos y dyrnwr yn daer,
A llengcyn bon'ddigaidd o dailiwr,
A siopwr, a Robin y saer.
O! ra ti ti, &c.
Er hynny 'roedd Betti'n ben uchel,
Hi ddarfu eu gadael hwy 'gyd,
Gan fyn'd yn galonog i Lundain,
I ddangos ei glendid i'r byd,
Ca'dd le gydâ godrwr gwartheg,
Lle bu ddwy fer adeg am dro,
Y peth cyntaf a ddysgodd hi o Saesneg
"Do you want any milk below?"
O! ra ti ti, &c.
'Roedd cefnder i Ddic Shon Dafydd
Ar gynnydd yn gwerthu gwin,
Pan welodd ef Fetti efo'i chynog,
Yr oedd ef yn chwennych ei thrin;
A hithau am ŵr bonheddig,
Gwnaeth olwg nodedig i'r dyn,
Cytunodd i fyn'd atto fo'n forwyn,
Pawb wrth ei fwriad ei hun.
O! ra ti ti, &c.
Os morwyn oedd hi'n myned yno,
Rhaid i ni gael gwyro at y gwir,
Hi gollodd, mae'n resyn dal sylw
Yr enw cyn pen hir;
Dechreuodd wisgo sidanau,
Perwigau o bob lliwiau i'w gwellhau,
Pe gwelsech chwi'r aur wrth ei chopa,
Yn chwipio mewn cadair â dau.
O! ra ti ti, &c.
Mewn chwarae-dy 'roedd Bet yn y boxes,
Er bod yn ei bacsiau gynt,
A'i golwg yn ddisglaer eglur,
A'i gwisg yn arogli'n y gwynt;
Yr oedd yr arglwyddi mawrion,
Rai gloywon, a'u hop'ra glass,
Yn ynfytach pan welsent hwy Fetti,
"What a heavenly, lovely lass!"
O! ra ti ti, &c.
Ond toc hi gychwynodd i Gymru,
Wedi denu arian y dyn,
O herwydd fod arni gymhyraeth
O hiraeth am ddangos ei hun;
Hi wisgai bob rhyw dylysau,
Teganau, o raddau di-ri',
Fu erioed ar balmant y 'Mwythig
Un ferch mor fonheddig a hi!
O! ra ti ti, &c.
'Roedd rhai o ddeutu ei chartre'
Yn lluchio coeg eiriau lled gas,
Gan wawdio'n grefyddol o wenwyn
Mae hon heb un gronyn o'r gras;
Yr oedd un yn ei galw hi'n Gadi,
Ar llall yn dweud "Hon ydi Bess?"
"But gentleman, I am a lady,
Pray look at my curricle dress!"
O! ra ti ti, &c.
Mae hon yn rhy falch, meddai'r bobl,
Ac yn uchel ryfeddol o fawr,
A'i hen gariadau yn 'wyllysgar,
Yn chwennych ei llusgo hi 'lawr;
"Wyt ti'n cofio caru'n y gwely,
Cusanu mor fwyn-gu efo mi?"
"Oh! shame on the booby penmynydd,
Are these your manners to me?"
O! ra ti ti, &c.
Ar ôl blino'n rhodio o gwmpas,
Hi aeth ar dro addas i'r dre',
Yn hyn dyma'i chariad hi'n tori,
Peth digon naturiol, on'de?
Pan ddelo tylodi a charchar,
Mae cariad yn siomgar, ni sai,
'Rwy'n meddwl, os bernwch chi'n gywrain,
Fod hynny ar gariad yn fai.
O! ra ti ti, &c.
Ond Bessi aeth ailwaith i Gymru,
I synnu'r hen Fadlen a Sian,
'Roedd crio ac wylo wrth ei gweled,
A'i dillad cyn ddued a'r frân,
Gan ddweyd fod y gwr wedi marw,
Wedi newid ei henw efo'i hoed,
Oes arnoch chwi eisiau gwraig weddw,
Heb fod yn briod erioed?
O! ra ti ti, &c.
J. Jones, Argraffydd, Llanrwst
Lleoliad : NLW BC 2. 15, Sal 3. 66
Defnyddiodd Ellis arddull a oedd wedi ei ddylanwadu gan neo-glasuriaeth John Flaxman (1755-1826) a thrwy hynny llwyddodd i godi pynciau Cymreig i statws y clasuron. Gellir gweld hyn orau mewn cyfres arall o ddarluniau a luniodd Ellis ar gyfer baled, sef Life and Times of Richard Robert Jones, hanes y gŵr a elwir hefyd yn Dic Aberdaron (1780-1843). Yr oedd Dic yn enwog fel ieithydd ac ecsentrig o fri. Yma y mae Ellis yn defnyddio arddull a delweddau clasurol i gyfleu dawn ac ysbrydoliaeth Dic. Dyma restr o'r darluniau ar gyfer y faled :
t. 1 - Funeral of R. R. Jones at St. Asaph; t. 2 - Ty Main, birth place of Jones; t. 3 - Genius of the Greek pointing to Dick the standard of the Lexicon; t. 4 - R. R. Jones at his father's house; t. 5 - Statue of Roscoe after 'Chantry' author of Jones' life etc; t. 6 - R. R. Jones shipwrecked on the coast; t. 7 - R. R. Jones reading Greek before his tutors at Oxford; t. 8 - R. R. Jones' dream at the Bishop's Palace, Bangor; t. 9 - Homer's ghost appearing to Jones with the genius of the Greek; t. 10 - The coronation of Jones by the Geniuses in the mountains of Wales; t. 11 - The genius finding him dead; t. 12 - R. R. Jones in his study at a garret in Midghall St. Liverpool.
Cedwir y mwyafrif helaeth o'i waith sydd wedi goroesi yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yr unig waith pwysig o'i eiddo a gadwyd y tu allan i'r Llyfrgell oedd Oriel y Beirdd, sef portread o rhyw gant o feirdd Cymreig mwyaf blaenllaw'r cyfnod. Cadwyd hwn yn Sefydliad Brenhinol De Cymru yn Abertawe ond fe'i dinistriwyd pan fomiwyd y ddinas yn ystod yr ail ryfel byd.