Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: Llyfr lluniadu DV271
Roedd George Delamotte yn dod o deulu artistig. Roedd ei frawd William (1775-1863) yn arlunydd mewn dyfrlliw ac olew a gynhyrchodd dirluniau cain o ogledd Cymru. Mae'n bosib mai meibion i William oedd yr arlunwyr William Alfred Delamotte ( fl 1825-55) a'i frawd P. H. Delamotte.
Bu George yn athro arlunio yn Sandhurst, Reading a Llundain ac yn 1809 dangoswyd ei waith yn yr Academi Frenhinol, Llundain. Erbyn ca.1818 mae'n debyg ei fod yn byw yng Nghaerfaddon. Oddi yno ymwelai â bonedd de Cymru. Bu yn Aberpergwm yn 1818, ac Abertawe yn 1825. Tua diwedd yr 1820au cyhoeddodd gyfres o argraffiadau o dirluniau o gwm Nedd.
Mae dyfrlliwiau cain yn y gyfrol hon yn dangos cymeriadau o wahanol ardaloedd yn ne Cymru yn eu dillad pob-dydd. Maent yn rhoi syniad i ni o wisg pobl gyffredin ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan amlygu tlodi a chaledi eu bywydau yn aml. Mae nifer o'r cymeriadau wedi'u darlunio mewn mannau adnabyddus yn rhai o drefi a phentrefi Cymru, fel sgwâr y farchnad yn Abertawe. Ceir ambell enghraifft o draddodiadau brodorol, fel y darlun o'r dyn yn cludo cwrwgl ar ei gefn, a Mrs Gwyn yn cario baban mewn siôl yn 'y dull Cymreig'.