Symud i'r prif gynnwys

Book of drawings, Penry Williams, 1802-1885

Cyfeirnod: Llyfr lluniadu LlGC 432

Mab i saer maen a pheintiwr tai o Ferthyr Tudful oedd Penry Williams, ond treuliodd y mwyafrif o'i fywyd yn Rhufain yn arlunio.

 

Dechreuodd ei yrfa fel arlunydd yn ei dref enedigol a hynny yn ifanc iawn. Mae enghreifftiau o'i waith cynnar wedi goroesi, megis Merthyr riots (1816). Mae'n debyg i Williams gael ei ysbrydoli ym myd celfyddyd gan ei ysgolfeistr ym Merthyr, Taliesin Williams (Taliesin ab Iolo, 1787-1847), mab Iolo Morganwg, a fu'n gyfrifol hefyd am addysgu arlunwyr enwog eraill, fel y cerflunwyr Joseph Edwards (1814-1882) a William Davies (Mynorydd, 1826-1901).

Derbyniodd le i astudio yn yr Academi Frenhinol, Llundain yn 1822, ac mae'n bosibl iddo fedru gwneud hyn oherwydd nawdd gan William Crawshay (1788-1867), meistr gweithfeydd haearn Cyfarthfa a Hirwaun.Yn yr Academi bu'n fyfyriwr i Johann Heinrich Fuseli (1741-1825), yr arlunydd a drafftsmon o'r Swistir. Yn 1826 symudodd Williams i Rufain ble'r arhosodd nes ei farwolaeth yn 1885. Deuai yn ôl i Gymru yn weddol aml i beintio neu dderbyn comisiynau ac i ymweld â ffrindiau.

Cyn iddo symud i Rufain lluniodd gyfres o ddyfrliwiau cain o olygfeydd yn ne Cymru a Lloegr. Llyfr lluniadu DV432 yw'r unig albwm cyfan llawn gan Williams o'r cyfnod hwn, sef 1822-24. Ceir enghreifftiau eraill o'i waith cynnar yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa ym Merthyr.

Darllen pellach

  • Derrick Pritchard Webley. The life and work of Penry Williams (1802-1885), Aberystwyth : National Library of Wales, 1997.