Rhyfel Fietnam
Cafodd Philip Jones Griffiths waith yn Affrica, Alasga ac ymhob cwr o Ewrop yn fuan ar ôl dechrau gweithio fel ffotograffydd llawn amser, ac ar ôl dod yn aelod cyswllt o Asiantaeth Ffotograffiaeth Magnum, aeth i Fietnam ym 1966. Teithiodd ar hyd a lled y wlad i dynnu lluniau o’r effaith ar bobl gyffredin Fietnam ac, i raddau llai, yr ymladdwyr. Er bod llawer yn cymharu ei waith â’i gyfoedion Don McCullin, Tim Page a Larry Burrows, Griffiths oedd yr unig un o’u plith a oedd yn amau moesoldeb y rhyfel, I decided to be the one who would show what was really going on in Vietnam. Here was something of profound importance to the whole world. My goal was to present every aspect of the war in a digestible way between two covers of a book. Canlyniad hyn oedd Vietnam Inc., casgliad o dros 260 o luniau oedd yn rhoi beirniadaeth lem o weithredoedd yr Americanwyr yn ne ddwyrain Asia.
Gogledd Iwerddon
Wrth i erchyllterau Rhyfel Fietnam ledaenu i Cambodia a Laos a dechrau tynnu tua’r terfyn, roedd gwrthdaro tra gwahanol yn dod i’r berw yn llawer nes at adref. Erbyn 1972, roedd trais sectyddol wedi dod yn beth arferol yng Ngogledd Iwerddon. Yn y lluniau a dynnodd yno rhwng 1972 a 1973 gwelir golygfeydd rhyfedd wrth i ryfela trefol fynd rhagddo ochr yn ochr â bywydau beunyddiol y bobl gyffredin. Er bod y lluniau’n darlunio’r milwyr, ceir awgrym o ryfel llechwraidd yn digwydd y tu hwnt i olwg y camera, mewn cyferbyniad llwyr â Fietnam.
Gwyliau pecyn cyntaf yr ‘Adventure Club’
Yn nyddiau cynnar 1973 denodd llygad Griffiths am wrthdaro diwylliannol ef i groniclo gwyliau pecyn cyntaf yr ‘Adventure Club’ i Papua Guinea Newydd yn y Môr Tawel. Ymunodd ag amrywiaeth o bobl ar daith gerdded am 3 wythnos drwy wylltiroedd un o’r gwledydd mwyaf digyffwrdd ac amrywiol ei bywyd gwyllt yn y byd. Mae’r lluniau a dynnodd yn dogfennu’r llwythau cyntefig ond hefyd yn dangos eu chwilfrydedd at y gorllewinwyr yn eu plith. Cyhoeddwyd y lluniau yn y Sunday Times Magazine a llawer o gyhoeddiadau eraill yn Ewrop wedi hynny. Aeth Griffiths ar daith arall i’r rhanbarth yn fuan wedyn, gan ganolbwyntio ar dynnu lluniau o’r llwythau brodorol a’u defodau, gan gynnwys lladd moch a’r seremoni Turnim Head. Atgynhyrchwyd ei luniau eto yn y Sunday Times Magazine.
Gwaith arall
Yn 1973, aeth Jones Griffiths i dynnu lluniau Rhyfel Yom Kippur ac yna gweithiodd yn Cambodia o 1973 i 1975. Bu hefyd yn Llywydd Asiantaeth Ffotograffiaeth Magnum o 1980 tan 1985.
Yn ystod ei yrfa fel ffotograffydd, ymwelodd Philip Jones Griffiths â mwy na chant o wledydd, gan chwilio’n aml am straeon ei hunan yn hytrach nag aros am gomisiynau. Roedd bob amser ar ochr y dioddefwyr a’r gorthrymedig ac mae ei ffotograffau wedi ymddangos ym mhob cylchgrawn o bwys yn y byd ac mae galw amdanynt o hyd.