Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
(18 Chwefror 1936 – 19 Mawrth 2008)
Cynhaliwyd arddangosfa i ddathlu bywyd a gwaith y Cymro, Philip Jones Griffiths, un o ffotograffwyr dogfen pwysicaf y cyfnod diweddar yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 27 Mehefin 2015 - 12 Rhagfyr 2015. Mae'n adnabyddus ar draws y byd am ei ffotograffau treiddgar a phwerus ac am ddefnyddio'i gamera i bledio achos y gorthrymedig. Yn fuan ar ôl ei farwolaeth yn 2008, dywedodd y newyddiadurwr John Pilger:
"I never met a foreigner who cared as wisely for the Vietnamese, or about ordinary people everywhere under the heel of great power, as Philip Jones Griffiths. He was the greatest photographer and one of the finest journalists of my lifetime, and a humanitarian to match…. His photographs of ordinary people, from his beloved Wales to Vietnam and the shadows of Cambodia, make you realise who the true heroes are. He was one of them".