Symud i'r prif gynnwys

Yr Ymfudwyr Cymreig

Mae hi bellach dros 140 mlynedd ers i’r ymfudwyr Cymreig cyntaf lanio ym Mhatagonia. Roedd bywyd yn galed yn y blynyddoedd cynnar. Heb gymorth y brodorion lleol ni fyddent wedi goroesi.  Erbyn yr 1880au roedd y wladfa wedi hen sefydlu ac yn destun dipyn o chwilfrydedd yn ôl yng Nghymru. Mae nifer fawr o ffotograffwyr wedi cofnodi bywyd yn y rhan anghysbell yma o Dde America. Gyda’i gilydd mae yna bellach 24 albwm sy’n cynnwys ffotograffau o’r ymfudwyr Cymreig a’u disgynyddion yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


Edward Jones Williams

Mae rhai o’r golygfeydd mwyaf diddorol o Batagonia wedi eu cofnodi gan Edward Jones Williams (c.1858-1932), a oedd yn gweithio fel peiriannydd sifil yn yr ardal. Ymwelodd â Phatagonia gyntaf yn 1881 a gweithiodd ar gamlesi dyfrhau yn nyffryn Camwy. Yn ddiweddarach bu’n gyfrifol am fapio taith Rheilffordd Ganolog Chubut. Roedd y rheilffordd yn rhedeg o Puerto Madryn i’r aneddiadau pellach. Parhaodd i fod yn rheolwr gweithredol y rheilffordd hyd at 1907.


Y Parch D D Walters

Treuliodd y Parch D D Walters (1874-1968) 16 mlynedd ym Mhatagonia. Mae ei gasgliad o ffotograffau yn canolbwyntio ar agweddau o fywyd crefyddol, yn arbennig y Band of Hope, y bu’n gyfrifol am ei sefydlu. Cofir amdano hefyd yn prynu ceffyl o’r enw Krujer er mwyn ei helpu i fynd o un lle i’r llall. Roedd cyn-berchennog Krujer wedi ei hyfforddi i aros y tu allan i bob tafarn roedden nhw’n mynd heibio iddi. Camp nad oedd wrth fodd pregethwr dirwestol!

Cafodd canmlwyddiant sefydlu’r wladfa yn 1965 ei ddathlu’n helaeth a chafwyd casgliadau o ffotograffau gan T Elwyn Griffiths a Dwynwen Belsey yn cofnodi’r digwyddiadau.