Poblogrwydd y cardiau post
Roedd cardiau post mor boblogaidd fel bod cardiau ar bob agwedd o fywyd (ac weithiau marwolaeth) i’w cael.
Ar raddfa ehangach, roedd cwmnïau cenedlaethol megis Francis Frith, Valentines ac E T W Dennis yn cynhyrchu llawer iawn o gardiau post o Gymru. Dewisodd y cwmnïau mawr hyn bortreadu yr agweddau hynny ar ardal a oedd yn fwyaf tebyg o apelio at dwristiaid.
Ymysg eu hoff bynciau roedd:
- golygfeydd mynyddig
- cestyll
- promenadau
- pier glan-y-môr
Roedd poblogrwydd y cardiau post hefyd yn cyd-fynd gyda’r cyfnod pan oedd David Lloyd George mewn grym. Cyhoeddwyd rhai cannoedd o gardiau yn portreadu David Lloyd George. Nid oedd pob un yn garedig!
Oherwydd y costau a oedd ynghlwm wrth gynhyrchu ffotograffau, roedden nhw’n bethau prin mewn papurau newydd. O ganlyniad byddai nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a lleol yn cael eu tynnu gan ffotograffwyr mentrus ac yn cael eu gwerthu fel cardiau post. Mae’r genres yma yn enghreifftiau o ffoto-newyddiaduraeth. Un gyfres o’r fath yw trychineb pwll glo Senghennydd yn 1913. Er bod y syniad o gynhyrchu cerdyn post o ddigwyddiad o’r fath yn atgas i nifer o bobl, dyma’r union fath o ddelwedd y byddai pobl yn ei gweld ar deledu neu mewn papurau newydd pe bai digwyddiad o’r fath yn y newyddion heddiw.