Symud i'r prif gynnwys

Roedd gan dde Cymru 125 o ffotograffwyr yn 1901. Byddai’r ffotograffwyr hyn yn ennill bywoliaeth trwy dynnu lluniau portreadau stiwdio, priodasau ac achlysuron teuluol eraill.

Cofnod o fywyd bob dydd

Mae portreadau stiwdio D C Harries gyda chefndir a phropiau wedi eu paentio, yn rhoi cipolwg ddiddorol i ni ar waith ffotograffydd stryd fawr yn y cyfnod hwnnw. Nid am y ffotograffau hyn y cofir amdano, fodd bynnag, ond am y rheini a dynnwyd yn Llandeilo a’r ardal gyfagos. Mae’r ffotograffau yma yn cofnodi bywyd bob dydd mewn tref fechan a’r ardal wledig o’i chwmpas cyn yr Ail Ryfel Byd.

Er ei fod wedi ei gyfyngu i ardal ddaearyddol fechan, mae ansawdd gwaith

D C Harries yn rhoi mwy o bwysigrwydd i’w ddelweddau. Mae delweddau o berchennog car newydd yn edrych yn falch y tu ôl i’r llyw, neu wynebau glowyr yn ymddangos ar ôl eu shifft yn ddelweddau sydd ag apêl byd-eang. Felly hefyd y ffotograffau niferus o dyddynnod to gwellt gwyngalchog sy’n rhoi awgrym o ffordd o fyw sydd wedi darfod o’r tir.

Datblygiad amaethyddiaeth

Fel y gallech ddisgwyl, mae amaethyddiaeth yn destun amlwg yn ei ffotograffau.

Roedd mecaneiddiad cynyddol byd amaeth a’r peiriannau a ddaeth i’r ardal yn sgil hyn o ddiddordeb mawr iddo. Mae’n anodd dychmygu bod peiriannau, sydd i ni yn edrych yn hen ac yn drwsgl, yn enghreifftiau o’r dechnoleg ddiweddaraf pan dynnwyd eu lluniau.

Ffotograffau diwydiant

Er bod Llandeilo mewn ardal wledig, mae’n llai na 10 milltir i ffwrdd o ffiniau gogleddol pyllau glo de Cymru. Mae ei ffotograffau, felly, yn cynnwys golygfeydd o ardaloedd glofaol Rhydaman a’r cyffiniau a’r chwareli calchfaen yn Llandybie – a oedd yn hanfodol ar gyfer y diwydiant dur.

Mae ffotograffau D C Harries yn rhychwantu’r holl sbectrwm cymdeithasol. Un o’i gyfeillion oedd y diwydiannwr Isaac Haley, ffotograffydd amatur brwd. Ymgartrefodd Haley ym mhlasty Glanbran gerllaw. Mae’r casgliad yn cynnwys nifer o olygfeydd o du mewn a thu allan y plasty, a ddymchwelwyd yn 1930.

Doedd bywyd yn yr ardal ddim bob amser yn dawel. Roedd yna achlysuron, megis y tro hwnnw y cafodd bws o Landeilo i Rydaman ddamwain, pan oedd bywyd yn gallu bod yn ddigon cyffrous, yn arbennig felly i’r teithwyr.

Edrych ar y casgliad

Gadawyd y casgliad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn ewyllys Hugh Newton Harries, mab olaf D C Harries i oroesi, yn 1976. O’r casgliad enfawr mae 2,500 o negatifau wedi eu dethol, eu hargraffu a’u rhwymo yn gyfrolau sy’n cynnwys rhyw 100 o ffotograffau ym mhob un. Mae’r rhain ar gael i’w gweld ar y silffoedd agored yn yr Ystafell Ddarllen.