Symud i'r prif gynnwys

Hanes William Harwood

Ganed William Harwood yn Stalybridge ac fe’i maged gerllaw yn Dukinfield. Bu’r teulu’n byw yn 29 Kay Street am dros ugain mlynedd. Maged Harwood a’i dair chwaer gan eu mam, gan fod eu tad, Daniel Harwood wedi marw pan oedd William yn fachgen ifanc. Ar ôl gadael yr ysgol bu’n gweithio fel Cynorthwyydd Llyfrgell ac yna’n ddiweddarach fel gwerthwr i gwmni ffotograffiaeth.

Symudodd ef a’i deulu, (ei wraig Bertha, ei ferched Edith a Margaret) i Gricieth yn 1925, gan agor siop Deganau a Mân Bethau. Yn ffenestr y siop, yng nghanol y bwcedi, y rhawiau, teganau tunplat a’r ornaments tsieina roedd cardiau post o ansawdd uchel yn dangos lluniau o olygfeydd a digwyddiadau lleol yn ardal Cricieth.


Ffotograffiaeth William Harwood

Roedd yn frwd am ffotograffiaeth ac am ei luniau y mae'n cael ei gofio. Roedd y rhain yn amrywio o stormydd eira, erydu arfordirol, treialon cŵn defaid a’r enwogion lleol - teulu Lloyd George. Yn ddaearyddol roedd y lluniau ar ei gardiau post wedi eu tynnu o fewn ardal gyfyngedig, o Afon Wen yn y gorllewin i Forfa Bychan yn y dwyrain. Cynhyrchodd Harwood y cardiau hyn trwy ddefnyddio Camera â phlât Goertz yn ogystal â defnyddio modelau hanner-plât a chwarter-plât. Cynhyrchwyd ei gardiau o 1926 nes iddo ymddeol yn 1958. Ni chyflogid unrhyw un arall gan y teulu a châi’r holl waith o brosesu platiau Harwood ei wneud yn y llawr isaf.