Ffotograffau moduro
Mae esblygiad cyflym y cerbyd modur yn yr 20fed ganrif hefyd yn cael ei gofnodi’n fanwl drwy’r casgliad i gyd. Roedd tripiau siarabáng a cheir cynnar yn cael eu tynnu’n aml gan ffotograffwyr amatur a phroffesiynol fel ei gilydd. Mae llawer o’r rhain yn cynnwys sawl gwneuthuriad a model sydd wedi mynd yn angof erbyn heddiw.
Mae cartref teuluol Charles Rolls, un hanner o Rolls-Royce, yn Hendre, Sir Fynwy. Mae’r tŷ a’r teulu yn destun nifer o albymau ffotograff yn y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig.
Trwy gydol yr 1950au a’r 1960au bu Geoff Charles yn gweithredu fel gohebydd moduro Y Cymro, gan brofi a thynnu lluniau nifer helaeth o geir. Ei ddiddordeb mewn moduro a’i arweiniodd ef i fynychu ras 24 awr Le Mans yn 1955. Tra oedd Geoff y tu allan yn nôl rhywbeth i’w yfed bu Mercedes Pierre Leveque mewn gwrthdrawiad ac fe ffrwydrodd. Cafodd 77 eu lladd i gyd. Mae’r ffotograffau a ddeilliodd o hyn ymysg y rhai mwyaf dirdynnol sydd ganddo.