Symud i'r prif gynnwys

Roedd ffotograffiaeth yn y cyfnod hwn yn dal yn grefft a oedd yn cael ei hymarfer yn bennaf gan ffotograffwyr proffesiynol a hynny, weithiau, mewn amodau anodd. Ar wahân i broblemau i gael gafael ar gemegau a chyflenwadau ffotograffig, gallai’r colodion sychu cyn i’r plât gael ei dinoethi neu gallai’r platiau gracio yn y gwres tanbaid ar ôl cael eu dinoethi, ni fu tywod erioed yn ffrind i’r ffotograffydd.

Ffotograffau o'r Hen Aifft yn y casgliad

Mae nifer o enghreifftiau rhagorol o waith y ffotograffwyr hyn yma a thraw drwy’r casgliad. Mae enghreifftiau o waith gan y Brodyr Beato yn llyfrau ffoto 4551 (d) Casgliad T. I. Ellis Collection 8 a 426 (c) Temples of the Thebaid Baalbek. Yn y llyfr olaf hwn mae 28 o enghreifftiau gan Beato a Dumas.

Mae ffotograffwyr eraill sy’n cael eu cynrychioli’n cynnwys y brodyr Zangaki, dau ffotograffydd Groegaidd y gwyddom ychydig iawn amdanynt. Ar wahân i dynnu lluniau o ryfeddodau’r Hen Aifft cymerodd y rhain nifer o ffotograffau o fywyd bob dydd yn yr Hen Aifft. Er bod y brodyr wedi dewis testun eu lluniau gan bwysleisio dieithrwch yr Aifft, maent er hynny’n rhoi cipolwg ar fywyd ar y pryd. Nid yw eraill, fel y llun o’r crocodeil, fawr mwy na hynod bethau.

Yn llyfr ffoto 301 Souvenirs D’Orient mae 100 o ffotograffau gan Felix Bonfils (1831-1885) Hippolyte Arnoux, ffotograffydd o Ffrainc a sicrhaodd bod y gwaith o adeiladu’r canal ar gof a chadw.

Mae nifer o’r ffotograffau o’r Aifft o’r cyfnod hwn wedi eu gosod mewn llyfrau ochr yn ochr â golygfeydd masnachol o’r India. Yn aml câi’r llyfrau hyn eu creu gan y mân fonedd a âi allan i’r India fel rhan o’r Raj Prydeinig, yn aml fel swyddogion o’r fyddin. Mae llyfr ffoto 407 (c) Llyfr Ffoto Pryse-Saunders Album 3 yn enghraifft nodweddiadol o’r genre hwn.