Symud i'r prif gynnwys

Hanes P B Abery

Ganed P B Abery yn Folkestone, yn un o un ar ddeg o blant. Yn 1898 prynodd fusnes ffotograffiaeth bychan yn Llanfair ym Muallt a bu’r busnes yn mynd am hanner canrif. Erbyn 1911 roedd y busnes wedi tyfu digon iddo allu symud i’r West End Studio. Gwnaethpwyd ystafelloedd tywyll yn y llawr isaf, siop ar y llawr gwaelod, gweithdy ar gyfer fframio a gosod lluniau ar y llawr cyntaf a stiwdio ar y llawr uchaf i fanteisio ar y golau dydd.


Ffotograffiaeth P B Abery

Yn ystod misoedd yr haf gwelid P B Abery yn aml ar ei feic, gyda chamera a stand drithroed ar ei gefn, a thynnai luniau o grwpiau ymwelwyr yn y ffynhonnau yn Llanfair ym Muallt a Llandrindod. Y bore canlynol byddai grwpiau’n ymgynnull o gwmpas ffenestr ei siop ‘fel gwenyn o gwmpas pot mêl’ yn chwilio am luniau ohonynt eu hunain. Yn ddiweddarach newidiodd y beic am feic modur a seicar ac yn 1928 cafodd ei gar cyntaf, sef ‘baby Austin’.

Ar wahân i dynnu lluniau o grwpiau ymwelwyr, bachai ar unrhyw gyfle i dynnu lluniau o ddigwyddiadau o bwys yn y newyddion, a byddai’n anfon y printiau ar frys at bapurau dyddiol yn Llundain. Pan fu farw fe’i disgrifiwyd gan y Daily Mail fel ‘one-time ace press photographer.’  Pan fyddai’n tynnu lluniau mewn priodasau byddai’n paratoi set o brofluniau i’r briodasferch a’r priodfab eu gweld yn eu gwledd briodas. Hefyd fe’i penodwyd yn ffotograffydd swyddogol gan Waith Dŵr Birmingham pan adeiladwyd Argae Cwm Elan.

Ar ryw adeg cafodd PB Abery nifer o negyddion gwydr gan ffotograffydd lleol arall, Robert Newton Heywood,Trefyclawdd (1877-1935). Mae nifer o’r rhain wedi’u cynnwys yma, y gellir eu gwahaniaethu gan ei gapsiynau ysgrifenedig nodedig, yn aml gyda’r ychwanegiad ‘CT.HK’, talfyriad ar gyfer Copyright, Heywood Knighton.

Cyn i’r Kodak Brownie ddod yn eitem gyffredin arferai pobl fynd i’r stiwdio am nifer o resymau - dyweddïo, bedyddio, graddio, dathlu pen-blwydd arbennig ac ati. Wrth adael ardal heddychlon Canolbarth Cymru i fynd i’r ffosydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn aml deuai milwyr i’r stiwdio i gael portread ohonynt yn eu gwisg i’w roi i’w cymar fel rhywbeth bach i’w gofio. Arafodd y rhan hon o’r busnes ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ond wrth i’r Kodak Brownie, y cyfeiriwyd ato’n flaenorol, ddod yn fwy cyffredin, gwelodd y ffotograffydd gyfle newydd i’w fusnes. Yn fuan dechreuodd fenter yn datblygu a phrintio lluniau. Byddai ffilm a gâi ei hanfon i’r siop erbyn 10 o’r gloch y bore’n barod erbyn pump o’r gloch y pnawn hwnnw.