Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fydd mynediad at ein gwefannau am gyfnodau heno (9 Gorffennaf 2025) oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Dymuniad Philip Jones Griffiths oedd sicrhau bod ei gasgliad yn aros yng Nghymru a chreu ‘The Philip Jones Griffiths Foundation for the Study of War’, er mwyn diogelu ei archif ac i ddarparu 'education to the public in the art and science of photography, in particular, promoting lectures and exhibitions and research opportunities, and by providing financial assistance, equipment or books to persons under 25 to assist them to become photographers'.
Derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru’r Archif Philip Jones Griffiths o 2011 ymlaen, mewn grwpiau a oedd yn gwneud cyfanswm o dros 250 o focsys. Roedd y rhain yn cynnwys printiau ffotograffig, sleidiau, camerâu, llyfrau, cylchgronau, toriadau papur newydd, llyfrau nodiadau, effemera a chofroddion. Mae’r gwaith ar yr archif yn parhau.