Ganwyd Philip Jones Griffiths yn Rhuddlan ar y 18fed o Chwefror 1936, yr hynaf o 3 mab Joseph Griffiths, rheolwr ar Wasanaeth Cludiant Rheilffyrdd lleol y London Midland & Scottish, a’i wraig Catherine (née Jones), bydwraig. Yn rhugl yn y Gymraeg, cafodd Philip ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanelwy lle chwaraeai rygbi fel prop blaen.
Blynyddoedd cynnar
Dechreuodd ymhél â ffotograffiaeth pan oedd yn 14 mlwydd oed, ac ymunodd â Chlwb Camera’r Rhyl yn ddiweddarach. Cyn gadael yr ysgol bu’n tynnu lluniau mewn priodasau i’r Rhyl Leader a bu’n gweithio fel ffotograffydd yng Ngwersyll Gwyliau Golden Sands gerllaw.
Prifysgol
Ar ôl gadael yr ysgol aeth i fwrw’i brentisiaeth yn fferyllydd gyda Boots yn y Rhyl, lle câi fenthyg camerâu i’w defnyddio ar y penwythnos. Byddai’n dweud ei fod wedi dysgu tynnu lluniau pan oedd rhwng 16 a 18 oed, I got all that beautiful landscape stuff out of the way in North Wales and was ready for the rest of the world.
Aeth ymlaen i astuddio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Lerpwl, lle dechreuodd weithio’n rhan-amser i’r Manchester Guardian ac fel dyn camera i gwmni teledu Granada. Cafodd swydd fel fferyllydd i Boots ym Mhiccadilly ym 1959. Llwyddodd i gyfuno’i waith fferylliaeth gyda gwaith ffotograffiaeth lawrydd i bapurau newydd The Sunday Times, The Guardian a The Observer, hyd nes y’i penodwyd yn ffotograffydd llawn amser gyda The Observer ym 1961.
Bywyd teuluol
Ni fu Jones Griffiths yn briod erioed ond bu mewn perthynas tymor hir gyda Donna Ferrato a Heather Holden. Bu farw o gancr ar 19 Mawrth 2008 ac fe’i goroeswyd gan ei ddwy ferch, Fanella Ferrato a Katherine Holden.