Merthyr Tudful
Gerllaw ym Merthyr Tudful wedyn cyhoeddwyd nifer o bapurau newydd fel:
- The Cardiff and Merthyr Guardian (1845-74)
- The Merthyr Star (1859-81)
- Fellten (1868-76)
Yno ym 1873 y sefydlwyd The Workman's Advocate: Amddiffynydd y Gweithiwr fel newyddiadur dwyieithog Radicalaidd. Roedd yn parhau'r traddodiad a gychwynnwyd gan Y Gweithiwr: The Workman ac Udgorn Cymru: The Trumpet of Wales, 2 bapur a bleidiai achos y Siartiaid ac a gyhoeddwyd yn y dref rhwng 1834 a 1842.