Symud i'r prif gynnwys

Y man cychwyn ar gyfer astudiaeth o gerddoriaeth draddodiadol Cymru yma yn y Llyfrgell Genedlaethol yw’r cyfrolau a ganlyn:

  • yn yr Ystafell Ddarllen, ceir copi o gyfrol werthfawr Wyn Thomas, Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru: Llyfryddiaeth (3ydd argraffiad, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2006), sy’n rhestru'r prif weithiau printiedig ym maes cerddoriaeth draddodiadol Cymru, a cheir yno hefyd gopi arnodedig o waith J.H. Davies, A Bibliography of Welsh Ballads printed in the 18th century (London, 1908-11)
  • yn yr Ystafell Ddarllen, ceir copi o waith anghyhoeddedig Wyn Thomas a Phyllis Kinney, Mynegai i Lawysgrifau Perthnasol i Faes Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru (Rhagfyr 1981), sy’n fan cychwyn ar gyfer canfod adnoddau cerddorol gwerin di-brint yn ein casgliadau.

Adnoddau digidol

Llawysgrifau alawon gwerin

Digidwyd eisoes dair llawysgrif bwysig o waith John Jenkins (Ifor Ceri, 1770–1829), sef:

Am gefndir y rhain, gweler ysgrifau print pwysig Daniel Huws, ‘Melus-Seiniau Cymru’, Canu Gwerin (Folk Song), 8 (1985), 32-50, a 9 (1986), 47-57.

Archifau’n cynnwys alawon a chaneuon gwerin

Conglfaen ein casgliadau di-brint o alawon gwerin Cymru yw papurau’r unigolion hynny fu’n ymwneud â chasglu caneuon, ac â dehongli’r traddodiad, yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn eu plith:

Bu nifer o’r uchod yn gysylltiedig â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac mae archif y gymdeithas honno yn y Llyfrgell hefyd:

Welsh Folk-Song Society Records

Cerdd dant

Cymharol brin yw’r archifau hynny sy’n ymwneud â’n traddodiad o ganu penillion, a gobeithiwn ehangu ein casgliadau yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd nesaf. Yma eisoes y mae:

Datgeiniaid llais ac offeryn

Yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, yma yn y Llyfrgell, y disgwylid canfod cynnyrch mwyafrif datgeiniaid gwerin y genedl, ond ymysg yr archifau, ceir hefyd gasgliadau:

Adnoddau printiedig arlein

Yn 2016, yn sgil cyfraniad ariannol hael gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, digidwyd y casgliadau printiedig cynnar a ganlyn gan y Llyfrgell:

Baledi a cherddi

Er mwyn canfod geiriau caneuon Cymraeg, yn y mesurau caeth neu rydd, yn ein casgliadau, mae dwy gronfa electronig i’w chwilio ar wefan y Llyfrgell:

  • Baledi Cymru Ar-lein, sy’n cynnwys tua 4,000 o faledi wedi'u digido, yn dyddio yn bennaf o'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hynny o gasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol a Llyfrgell Prifysgol Caerdydd
  • Y Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau (MALDWYN gynt), sy’n cynnwys cyfeiriadau at filoedd o gerddi Cymraeg, caeth a rhydd, a ysgrifennwyd mewn llawysgrifau cyn 1830, llawysgrifau sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mewn sefydliadau eraill.

Adnoddau eraill

Cyfeirir ymchwilwyr at yr adnoddau digidol dethol a ganlyn:

  • gwefan Corff y Gainc, sy’n cynnwys alawon traddodiadol o lawysgrifau a ffynonellau print, wedi eu cyflwyno gan y gitarydd Chris Grooms
  • detholiad o ganeuon gwerin o archifau sain Amgueddfa Cymru
  • gwefan chwiliadwy The Full English, dan nawdd yr English Folk Dance and Song Society, sy’n cynnwys nifer o ganeuon gwerin Cymraeg a Chymreig.