Symud i'r prif gynnwys

Y Blew

Papurau'r grŵp pop Cymraeg 'Y Blew', y grŵp pop Cymraeg cyntaf. Gan gynnwys llythyron yn ymwneud â'u perfformiadau, 1967-1969, copïau o gyfweliadau ag aelodau o'r grŵp, hanes sefydlu'r Blew, copïau o ffotograffau a deunydd hyrwyddo, rhai papurau ariannol, 1967-1968, a ffeil sylweddol, 1978-2001, ar y sylw mae'r Blew wedi ei gael ers iddynt chwalu. NLW ex 2219.

Dafydd Iwan

Caneuon Dafydd Iwan,  Copïau holograff o eiriau i ganeuon Dafydd Iwan gan gynnwys 'Carchar' ('Mae Rhywun yn y Carchar'), 'Yr Hawl i Fyw', 'Magi Thatcher' (fersiwn cyntaf), 'Yma o Hyd', 'Y Chwe Chant a Naw' a 'Ciosg Talysarn', Hawl i Fyw. Wyth o ganeuon Dafydd Iwan (Penygroes, 1991) a Holl Ganeuon Dafydd Iwan (Tal-y-bont, 1992). NLW ex 1935:

Copïau o gân 'Gwynfor' yn Archif Plaid Cymru, M385.

Gohebiaeth Dafydd Iwan, 1965-66 a Catalog 'Welsh Teldisc Records Ltd', Abertawe, Awst 1965 yn
Archif Plaid Cymru, M291.

Ar Log

Ar Log

Ceir papurau perthnasol yn Arts Council of Wales Records, C/45/7. Trefniadau o gerddoriaeth – cyweirio, chwarae tapiau ayyb 'Ar Log' recordio ar gyfer arddangosfa telynau Cymreig yn 1980-1.

Trwynau Coch

Trwynau Coch

Papurau Y Trwynau Coch. [1978], yn ymwneud â'r grŵp Pync Cymraeg, Y Trwynau Coch, gan gynnwys cytundeb, 1978, rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r grŵp i berfformio yng nghlwb nos Tito's yng Nghaerdydd a'r amodau, ac ychydig o dorion o'r ‘Cymro’ yn ymwneud â'r grŵp. NLW ex 2617.

Super Furry Animals

Super Furry Animals

Papurau Super Furry Animals (Carl Clowes), 1991-2016. Papurau a gasglwyd a threfnwyd gan Dr Carl a Dorothy Clowes, rhieni Dafydd Ieuan a Cian Ciarán, aelodau o’r grŵp cerddoriaeth Indi/Tecno/Roc-seicoledig Cymreig, y Super Furry Animals (Anifeiliaid Blewog Anhygoel). Mae'r papurau'n cynnwys toriadau o erthyglau papur newydd, cyfweliadau, ffotograffau a hysbysebion am y grŵp, ynghyd ag eitemau am aelodau'r band, a bandiau Cymreig cysylltiedig.

Steve Eaves

Steve Eaves

Caneuon yn y gyfrol Y Trên Olaf Adref, a gyhoeddwyd ym 1984. Casgliad o bapurau, 1982-1983, yn ganeuon, barddoniaeth a llythyron yn ymwneud â geiriau caneuon gwahanol grwpiau Cymraeg diwedd y 1970au a dechrau'r 1980au, wedi eu crynhoi gan Steve Eaves. NLW ex 2133.

Harri Webb

Harri Webb

Harri Webb Papers, (1920-1994) Bardd, gweriniaethwr, a chenedlaetholwr. Papurau yn cynnwys y cwmniau recordio Sain, a Cambrian Recordings.

"Peintio'r Byd yn Wyrdd", Harri Webb Papers. Amryw, gan gynnwys copi teipysgrif o'r gân gyda nodyn gan Harri Webb yn nodi 'from Dafydd Iwan himself'.

Llythyron gan Dafydd Iwan. Pum llythyr gan Dafydd Iwan, cyd-gyfarwyddwr Sain, yn trafod recordiadau o gerddi Harri Webb a sgript o record ar gyfer Plaid Cymru.

Llythyron Heather Jones, 1973-1978. Trafod cerddoriaeth yn bennaf, llwyddiant y record ‘The Green Desert’, a phrosiectau arfaethedig eraill.

Welsh Teldisc Records Ltd

Chwiliwch y Welsh Teldisc Records Ltd

Cofnodion busnes John Edwards a Welsh Teldisc Records Ltd, 1962-1976, gan gynnwys mantolenni, 1963-1974; crynodebau gwerthu, 1963-1974; anfonebau a nodiadau dosbarthu, 1963-1972; cofnodion symud stoc, 1965-1966; cofnodion ymholiadau hawlfraint, caniatâd a breindaliadau, 1963-1974; cofnodi contractau, 1964-1967; llyfr log recordio, 1964-1970; geiriau a nodiadau llawes, gyda gohebiaeth gysylltiedig, 1963-1968.
Gweler hefyd Archif Tŷ Cerdd, John Edwards [Welsh Teldisc Ltd Record]. - Papurau amrywiol, 1929-1989. Papurau gan gynnwys papurau'n ymwneud â ‘Welsh Teldisc’ gan gynnwys llythyrau gan Dafydd Iwan, ayyb

Casgliad Ffansîn Rhys Williams

Chwiliwch Casgliad Ffansîn Rhys Williams

Casgliad o 16 ffansin (fanzine) cerddoriaeth pop Cymraeg, 1982-1990.
Mae nifer o ffansins eraill yn y Llyfrgell – chwiliwch y prif gatalog yn ól teitl.

Posteri

Mae gan y Llyfrgell lawer o bosteri o gigs a chyngherddau.  Ymhlith y casgliad posteri amlycaf a gedwir yn y Llyfrgell ar hyn o bryd mae casgliad Gwilym Tudur. Mae'n cynnwys cyfres helaeth o dros 120 o bosteri, sy'n wleidyddol eu natur ac yn hyrwyddo gigs a chyngherddau hanesyddol Cymreig. Derbyniwyd llawer o bosteri yn ddigidol yn dilyn apêl #poster2020 gan gynnwys posteri a ddyluniwyd gan Meirion Wyn Jones a dylunwyr eraill, a threfnwyr cyngherddau.

Papurau Meredydd Evans a Phyllis Kinney

Chwiliwch Bapurau Mededydd Evans a Phyllis Kinney

Mae'r archif yn cynnwys papurau ymchwil cerddorol sy'n ymwneud yn bennaf â cherddoriaeth werin Gymraeg a gohebiaeth yn ymwneud â chyfnod Mer êd fel Pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru rhwng 1963 a 1973. (150 blwch)

Jazz Heritage Wales Archive (Archif Menywod Cymru/Women's Archive of Wales)

Chwiliwch Bapurau Jazz Heritage Wales (Archif Menywod Cymru)

Papurau’n ymwneud â’r ‘Women’s Jazz Archive’, yn diweddarach y ‘Jazz Heritage Wales Archive’ a’i sylfaenydd yr Athro Jen Wilson. (38 bocs)

Papurau Nigel Jenkins

Chwiliwch Bapurau Nigel Jenkins

Mae papurau'r bardd a'r awdur Eingl-Gymreig Nigel Jenkins yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â'r grŵp ‘blues’ cerddorol y ‘Salubrious Rhythm Company’ ac â'r ddeuawd werin ‘Aberjaber’.

Papurau Menna Elfyn

Mae papurau'r bardd Menna Elfyn yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â phrosiectau cerddorol ar y cyd â John Metcalfe, Pwyll ap Sion, Andrew Powell, Helen Gwynfor, Rob Smith, David Evan Thomas ac eraill.

Casgliad ffotograffau Urdd Gobaith Cymru: Accumulated photographs

Chwiliwch Gasgliad ffotograffau Urdd Gobaith Cymru

Grwpiau Pop – Cymraeg. [ca.1965-ca.1985] 180 ffotograff du a gwyn. Yn cynnwys lluniau o Jim O'Rourke gyda'r cerddorion Dónal Lunny, Terry Williams, Davy Spillane ac eraill a weithiodd ar yr albwm 'Y Bont' ym 1988. Hefyd yn stiwdio recordio, DJs a phersonoliaethau eraill sy'n gysylltiedig â sîn gerddoriaeth Gymru.

Grwpiau Pop Saesneg. 44 ffotograff du a gwyn. Roedd y ffotograffau hyn at ddibenion cyhoeddusrwydd a marchnata ac fe'u dosbarthwyd gan gwmnïau recordiau, asiantau ac ati. Fe'u hanfonwyd i'r Urdd i'w defnyddio yn eu cyhoeddiadau

Cantorion sgwâr. 35 ffotograff o gantorion canol y ffordd, [ca.1970-ca.1990].

Adnoddau eraill yn y Llyfrgell Genedlaethol