Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cartref nifer o archifau a llawysgrifau cyfansoddwyr Cymru.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth amdanynt trwy’r prif ffynonellau.
Rhestrir enwau’r cyfansoddwyr isod, yn nhrefn y wyddor, gyda dolennau cyswllt uniongyrchol i ddisgrifiadau catalog o’u papurau. Rhestr ddethol yn unig sydd isod. Mae’r casgliad yn tyfu bob blwyddyn. Er mwyn cael mynediad at archifau sydd heb gael eu catalogio arlein eto, cysylltwch a ni ar ebost
Gallwch hefyd chwilio a phori Archifau a Llawysgrifau LlGC a gwneud ceisiadau i weld eitemau yn y Llyfrgell.
Mae detholiad o lawysgrifau cyfansoddwyr wedi cael eu digido ar gyfer gwefan Tŷ Cerdd ‘Darganfod Cerddoriaeth Cymru’.
Mae gan bob cyfansoddwr dudalen eu hun lle gallwch archwilio eu llawysgrifau, dysgu am eu bywydau a gwrando ar eu gweithiau. Mae’r cyfansoddwyr yn cynnwys:
Os am wybodaeth bellach am y cerddorion ewch at Y Bywgraffiadur Cymreig arlein.
Mae’r wefan yn cynnwys bywgraffiadau cryno sy’n cyflwyno unigolion (yn cynnwys cerddorion) a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu’n ehangach.
Rhestrir enwau’r cyfansoddwyr isod, yn nhrefn y wyddor, gyda dolennau cyswllt uniongyrchol i ddisgrifiadau catalog o’u papurau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Lle nad oes catalog arlein eto, nodir fod y Catalog i ddod.
Mae archifau cyrff cerddorol a chyhoeddwyr cerddoriaeth yn cynnwys llawysgrifau nifer o gyfansoddwyr.
Papurau Adran Gerdd Prifysgol Aberystwyth , 1883-1986 / UW Aberystwyth Department of Music Archives 1883-1986
Papurau yn cynnwys llawysgrifau cyfansoddwyr:
Llawysgrifau cerddorol a phapurau amrywiol, 1893-[1999], a dderbyniwyd adeg cau Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru yng Nghaerdydd, ac yn fwy diweddar, yn cynnwys nifer fawr o sgoriau cerddoriaeth. Ymhlith y cyfansoddwyr a gynrychiolir yn yr archif mae:
Sefydlwyd cwmni cyhoeddi cerddoriaeth Snell & Sons, Abertawe, Morgannwg, gan DJ Snell ym 1900. Mae'r cwmni wedi cymryd diddordeb mawr mewn prynu hawliau cyhoeddi cyfansoddiadau Cymreig, gan ennill enw fel y cyhoeddwr mwyaf o gerddoriaeth Gymraeg yn y byd. Mae'r Cwmni wedi caffael llawysgrifau cerdd gan lawer o gyfansoddwyr blaenllaw o Gymru yn cynnwys llawysgrifau W. T. David, David Jenkins, Joseph Parry, John Thomas, a Daniel Protheroe.
Mae archif yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnwys nifer o ddarnau, dan ffugenw, a anfonwyd i gystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd. Edrychwch yn yr Adran Gerddoriaeth o fewn papurau pob Eisteddfod unigol .
e.e. dyma Adran gerddoriaeth Eisteddfod Llanrwst , 1951
e.e. Dyma gyfansoddiadau cerddorol Eisteddfod Caerdydd, 2008
Sefydlwyd Hughes a'i Fab, Cyhoeddwyr gan Richard Hughes (1794-1871) ym 1820 fel cwmni argraffu a chyhoeddi, gan arbenigo mewn cyhoeddiadau crefyddol, ysgolheigaidd a cherddoriaeth. Yn 1982, prynwyd Hughes a'i Fab, Cyhoeddwyr gan S4C er mwyn iddynt gyhoeddi llyfrau Cymraeg yn seiliedig ar raglenni teledu newydd
Dau focs o ganeuon sy’n ffurfio cyfres cyfeirnod D5
Llawysgrifau caneuon [1896x1966] , llawysgrifau caneuon a gyflwynwyd i’w hystyried 1932-1966; llawygrifau ar log, [1900-1940] a llawysgrifau wedi crynhoi. 3 ffeil.