Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Yng nghanol y 1970au ymddangosodd math newydd o gerddoriaeth Gymraeg, sef yr Opera Roc neu Sioe Gerdd.
Efallai'r taw’r Opera Roc mwyaf adnabyddus yw ‘Nia Ben Aur’. Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan rai o'r enwau mwyaf ym myd Roc a Pop Cymreig y 1970au gan gynnwys Edward H. Dafis, Hergest, Ac Eraill a Sidan.
Perfformiwyd Nia Ben Aur am y tro cyntaf ar lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1974. Hon oedd un o’r sioeau cyntaf o’i bath yn y Gymraeg, a hefyd y tro cyntaf i’r byd cerddoriaeth roc a phop gael ei groesawi ar lwyfan yr Eisteddfod. Gwnaethpwyd recordiad o'r sioe ym 1975 a'i ryddhau ar label record Sain. Ail-ryddhawyd fersiwn wedi'i hail-lunio'n ddigidol ar CD, eto ar label Sain yn 2000.
Ysgrifennodd Meic Stevens, Geraint Jarman a Heather Jones opera roc yn 1970 ar gyfer HTV sef Etifeddiaeth drwy’r Mwg.
Ceir copi o raglen radio BBC Radio Cymru ‘Etifeddiaeth Drwy'r Mwg’ yn y Llyfrgell: ‘Dathlu deugain mlynedd darllediad cynta'r Opera Roc Gymraeg 'Etifeddiaeth Drwy'r Mwg'. 3 Mai 2010. (LlGC AGSSC-RADIO / Digidol/Digital llgc-id:1302531)
Mae fideo o raglen deledu ‘Etifeddiaeth Drwy'r Mwg’ a ddarlledwyd ar 28 Chwefror 1970 yn rhan o archif HTV Wales yn y Llyfrgell, Roedd John Ogwen, Robin Griffiths, Geraint Wyn Davies, Huw Tudor, Heather Jones a Mike Stevens yn ymddangos yn y rhaglen, ac mae llais Geraint Jarman yn darllen cerdd. Arbrawf ar gyfer Dydd Gwyl Dewi oedd y rhaglen Etifeddiaeth Drwy'r Mwg. Dyma ran o’r disgrifad yn y catalog: "an Experiment for St. David's Day to Introduce the Pop Music Style into Folk Singing in the Form of Opera". Production called "inheritance Through the Smoke". Words were by Geraint Jarman, and the music was composed (and sung by in one song featured here) by Meic Stevens. First song sung by Heather Jones, second song by Mike Stevens. 1 film reel (10 min.): black and white;16mm. (NLW 99240929102419).
Mae Hefin Wyn yn ‘Be Bop a Lula’r Delyn Aur’ (Y Lolfa 2002) yn son bod un o’r caneuon ar record Meic Stevens, ‘Diolch yn Fawr’ “yn arwydd-dôn sioe hwyr yr oedd Meic yn gysylltiedig â hi yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1971 sef ‘Sachliain a lludw’. Llwyfanwyd y sioe seicadelig gan Gwmni Theatr Cymru ac roedd yn cynnwys Meic Stevens, Heather Jones a’r Tebot Piws
Mae CD Gillian Elisa ‘Haul ar nos hir’ (Sain, 1999) yn cynnwys tair can o’r sioe gerdd Melltith ar y Nyth gan Endaf Emlyn a Hywel Gwynfryn, sef ‘Gollyngaf Di’ , ‘Yr Alaw’ a ‘Tu Draw’. Mae hefyd yn cynnwys dwy gan o’r sioe gerdd Celwydd gan Cefin Roberts, Tim Baker, Catrin Edwards a Valmai Jones ar gyfer Theatr Bara Caws sef ‘Tada a Mama’ a ‘Celwydd’.
Mae Albwm gyntaf Tecwyn Ifan ‘Y Dref Wen’, (Sain 1977), yn cynnwys caneuon o ddwy sioe, sef "Heledd", a berfformwyd yn Felin-fach, Pasg, 1975 ac "Yr Anwariaid" [The Barbarians], Aber-porth, Haf 1976.
Dyma rai enghreifftiau o bapurau'n ymwneud â sioeau cerdd a geir yn ein harchifau. Ceir manylion pellach ar Archifau a Llawysgrifau LlGC.
Chwiliwch y Catalog am fformatiau eraill e.e. CDs, llyfrau, ffotograffau, a deunydd o’r Archif Sgrin a Sain.
Mae archif sioeau cerdd Cymru yn gasgliad o sgriptiau a geiriau sioeau cerdd, gwreiddiol ac addasiadau, a berfformiwyd yng Nghymru mewn Eisteddfodau Cenedlaethol a'r Urdd yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys:
Aled Lloyd Davies a fu'n gyfrifol am lawer iawn o'r geiriau. Hefyd ceir 10 CD/DVD-Rom. 1 bocs. Cyfeirnod NLW ex 2863.
Dramâu, Pasiantau a Sioeau cerdd
Sgriptiau dramâu gwreiddiol ac anhysbys, addasiadau o ddramâu poblogaidd, dramâu a gomisiynwyd a sioeau plant. Fe’u perfformiwyd yn bennaf mewn cystadlaethau actio yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan gwmnïau drama amatur neu ar lwyfan y brifwyl.
Eisteddfod Rhyl 1985. Trafod Yr Opera Roc yn y ffeiliau cofnodion (FF/252)
Mae Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnwys deunydd perthnasol:
Mae Emyr Edwards yn awdur dramâu a dramâu cerdd, ynghyd ag astudiaeth y theatr. Ef oedd sylfaenydd a chyfarwyddwr Cwmni Theatr yr Urdd. Bu’n brif arholwr lefel A Drama gyda CBAC am bum mlynedd ar hugain. Mae’r papurau yn cynnwys sgriptiau dramâu gan Emyr Edwards a chyfieithiadau a dramâu ganddo, 1973-2015. Hefyd, cyfrol a grynhowyd yn 2014, yn cynnwys ffotograffau, rhaglenni ac adolygiadau’n ymwneud â pherfformiadau Theatr Genedlaethol Ieuenctid yr Urdd, 1973-88.
Gweithiau yn cynnwys:
Chwilio archifau'r bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Chwilio papurau Rhydwen Williams
Yn cynnwys:
Chwilio papurau Gilmor Griffiths
Babouscka, 1983. Sgript gan Vera Griffiths, geiriau a cherddoriaeth gan Gilmor Griffiths. Addasiad o’r chwedl Rwsieg, ar gyfer sioe gerdd Ysgol Hiraddug, Dyserth. Sgriptiau, sgôr llawn mewn llyfr lloffion, brasluniau a nodiadau. Cerddoriaeth yn cynnwys: ‘Babouscka’; ‘Knowledge is a wonderful thing’; ‘Hwyrgân yr Hydref’; ‘The Kings’; ‘Parents are so square’.
Chwilio Earthfall Dance Company Archives
Mae papurau'r Earthfall Dance Company, yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â chynyrchiadau llwyfan, gweithdai phreswyl a theithiau, ee
Sioe ‘Gig’, 2009-2010. Mae Gig yn croniclo'r digwyddiadau cythryblus ym mywyd band roc, gan ymgorffori dawns, cerddoriaeth fyw a ffilm. Mae'r eitemau'n cynnwys rhaglenni theatr printiedig, rhaglen deithiau a thaflenni; nodiadau creadigol a nodiadau / cyfarwyddiadau llwyfan; a’r sgôr gerddorol, 2009-2010.
Dwy Sioe Gerdd yn Archifau a Llawysgrifau LlGC
'Culhwch ac Olwen' a 'Dŵr'. Llawysgrif dwy sioe gerdd NLW ex 2839:
Dyffryn Teifi a’r CYlch 1981. Ffeil am Opera Roc a Phasiant y plant (E21)
Ffeil yn cynnwys cyfieithiadau (geiriau'n unig), 1988-1997, ynghyd â rhai nodiadau perthnasol am Opera, oratorio a sioe gerdd (1/1/6)
Ffeil yn cynnwys geiriau cyfieithiadau Sioe Gerdd ac operetta, 1996-1998 ar gyfer Eisteddfodau Cenedlaethol, 1987-2001.