Symud i'r prif gynnwys

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth amdanynt trwy’r prif ffynonellau.

Archifau a Llawysgrifau LlGC

Rhestrir enwau’r cyfansoddwyr isod, yn nhrefn y wyddor, gyda dolennau cyswllt uniongyrchol i ddisgrifiadau catalog o’u papurau. Rhestr ddethol yn unig sydd isod.  Mae’r casgliad yn tyfu bob blwyddyn. Er mwyn  cael mynediad at archifau sydd heb gael eu catalogio arlein eto, cysylltwch a ni ar ebost

Gallwch hefyd chwilio a phori Archifau a Llawysgrifau LlGC a gwneud ceisiadau i weld eitemau yn y Llyfrgell.

Darganfod Cerddoriaeth Cymru / Tŷ Cerdd

Mae detholiad o  lawysgrifau cyfansoddwyr wedi cael eu digido ar gyfer gwefan Tŷ CerddDarganfod Cerddoriaeth Cymru’.
Mae gan bob cyfansoddwr dudalen eu hun lle gallwch archwilio eu llawysgrifau, dysgu am eu bywydau a gwrando ar eu gweithiau. Mae’r cyfansoddwyr yn cynnwys:

  • Dilys Elwyn-Edwards
  • Alun Hoddinott
  • William Mathias
  • Joseph Parry
  • Grace Williams
  • Daniel Jones
  • Morfydd Owen
  • Mansel Thomas
  • David Vaughan Thomas
  • E. T. Davies
  • R. S. Hughes
  • David de Lloyd
  • Daniel Protheroe
  • Thomas Osborne Roberts
  • Meirion Williams
  • Hughes a’i Fab (Cyhoeddwyr)

Y Bywgraffiadur

Os am wybodaeth bellach am y cerddorion ewch at Y Bywgraffiadur Cymreig arlein.

Mae’r wefan yn cynnwys bywgraffiadau cryno sy’n cyflwyno unigolion (yn cynnwys cerddorion) a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu’n ehangach.

A-Z  Archifau cyfansoddwyr Cymru

Rhestrir enwau’r cyfansoddwyr isod, yn nhrefn y wyddor, gyda dolennau cyswllt uniongyrchol i ddisgrifiadau catalog o’u papurau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Lle nad oes catalog arlein eto, nodir fod y Catalog i ddod.

Archifau cyrff cerddorol a chyhoeddwyr cerddoriaeth

Mae archifau cyrff cerddorol a chyhoeddwyr cerddoriaeth yn cynnwys llawysgrifau nifer o gyfansoddwyr.

Papurau Adran Gerdd Prifysgol Aberystwyth , 1883-1986 / UW Aberystwyth Department of Music Archives 1883-1986
Papurau yn cynnwys llawysgrifau cyfansoddwyr:

  • Charles Clements
  • Jayne Davies
  • W Hubert Davies
  • Arthur Charles Edwards
  • John Hearne
  • John R Heath
  • Gustav Holst
  • John Hughes
  • David de LLoyd
  • Wiliams Mathias
  • Per Nørgård
  • Ian Parrott
  • Nils H Peterson
  • R Maldwyn Price
  • Tom Price
  • Karl Aage Rasmussen
  • Jonathan Paul Stephens
  • Mansel Thomas
  • Howard Watt
  • Griff Williams and Madam Griff Williams
  • James Thomas Wiliams
  • David Wynne

Archif Tŷ Cerdd

Llawysgrifau cerddorol a phapurau amrywiol, 1893-[1999], a dderbyniwyd adeg cau Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru yng Nghaerdydd, ac yn fwy diweddar, yn cynnwys nifer fawr o sgoriau cerddoriaeth. Ymhlith y cyfansoddwyr a gynrychiolir yn yr archif mae:

Snell & Sons Collection of Music Manuscripts 1930s-1960s

Sefydlwyd cwmni cyhoeddi cerddoriaeth Snell & Sons, Abertawe, Morgannwg, gan DJ Snell ym 1900. Mae'r cwmni wedi cymryd diddordeb mawr mewn prynu hawliau cyhoeddi cyfansoddiadau Cymreig, gan ennill enw fel y cyhoeddwr mwyaf o gerddoriaeth Gymraeg yn y byd. Mae'r Cwmni wedi caffael llawysgrifau cerdd gan lawer o gyfansoddwyr blaenllaw o Gymru yn cynnwys llawysgrifau W. T. David, David Jenkins, Joseph Parry, John Thomas, a Daniel Protheroe.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau

Mae archif yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnwys nifer o ddarnau, dan ffugenw, a anfonwyd i gystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd. Edrychwch yn yr Adran Gerddoriaeth o fewn papurau pob Eisteddfod unigol .

e.e. dyma Adran gerddoriaeth Eisteddfod Llanrwst , 1951

e.e. Dyma gyfansoddiadau cerddorol Eisteddfod Caerdydd, 2008

Hughes a’i Fab Papers

Sefydlwyd Hughes a'i Fab, Cyhoeddwyr gan Richard Hughes (1794-1871) ym 1820 fel cwmni argraffu a chyhoeddi, gan arbenigo mewn cyhoeddiadau crefyddol, ysgolheigaidd a cherddoriaeth. Yn 1982, prynwyd Hughes a'i Fab, Cyhoeddwyr gan S4C er mwyn iddynt gyhoeddi llyfrau Cymraeg yn seiliedig ar raglenni teledu newydd

Dau focs o ganeuon sy’n ffurfio cyfres cyfeirnod D5

Llawysgrifau caneuon [1896x1966] , llawysgrifau caneuon a gyflwynwyd i’w hystyried 1932-1966; llawygrifau ar log, [1900-1940] a llawysgrifau wedi crynhoi. 3 ffeil.