Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi lansio dull cwbwl arloesol o ddysgu am hanes Cymru drwy ddihangfan rhithiol (virtual escape room) ac adnoddau digidol rhyngweithiol newydd sbon i gyfrannu at nod y Llyfrgell i gefnogi pob ysgol.
Mae’r adnoddau newydd, sydd ar gael i bawb ar wefan y Llyfrgell, yn edrych ar hanes boddi Cwm Tryweryn. Wedi’u creu i alinio gyda’r Cwricwlwm i Gymru, maent yn cynnig ffordd ddynamig o gyflwyno gwybodaeth hanesyddol wrth ddatblygu sgiliau iaith.
Meddai Owain Dafydd, Rheolwr Addysg a Sgiliau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“A hithau’n Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2026 mae’n teimlo’n amserol iawn i ryddhau’r adnoddau newydd yma sydd am gefnogi datblygu sgiliau iaith a llythrennedd, yn ogystal â rhannu hanes un o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol y 1960au yng Nghymru. Mae’n dangos i’r dim sut mae casgliadau’r Llyfrgell yn gallu cael eu defnyddio i ddysgu mewn ffordd greadigol ac yn cyfrannu at gyflawni nodau Strategaeth Ymgysylltu'r Llyfrgell - Dy Lyfrgell Di - i ymgysylltu â phob ysgol yng Nghymru.”
Ceir un adnodd ar gyfer oedran 7-11, sy’n cynnig cipolwg tu ôl i’r llen o’r Llyfrgell a chasgliadau perthnasol ar ffurf cwis. Tra bod yr ail, ar gyfer oedran 13-15, yn cynnig profiad dihangfan rhithiol, lle mae gofyn i ddisgyblion ateb cyfres o gliwiau.
Wedi ariannu gan Adnodd, cafodd y dihangfan rhithiol ei ddatblygu ar y cyd gyda chriw Jengyd, sy’n arbenigo mewn creu dihangfeydd ac yn cynnwys athrawon uwchradd ar eu tîm - cyfuniad allweddol i gynhyrchu adnodd addysgiadol sy’n difyrru.
Mae nifer o eitemau perthnasol o gasgliadau’r Llyfrgell - o ffotograffau a gweithiau celf i ddogfennau ac adroddiadau papurau newydd - yn rhan o’r adnoddau yn ogystal â gwaith creadigol gan Caryl Lewis a Samantha Wynne-Rhydderch.
Meddai Samantha Wynne-Rhydderch:
“Rwy’n falch iawn bod fy ngherdd, sy’n archwilio’r profiad o fod yn ddigartref yn cael ei defnyddio. Fyddwn i byth wedi breuddwydio hyn 20 mlynedd yn ôl pan ysgrifennais 71,200 Megalitrau am y rhan fythgofiadwy hon o'n hanes. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Llyfrgell Genedlaethol am eu hamser a’u hegni i wireddu hyn.”
Mae adborth positif dysgwyr ac athrawon yn tystio y bydd ysgolion ar draws Cymru yn gweld y dihangfan rhithiol a’r adnoddau digidol rhyngweithiol newydd yn ddefnyddiol tu hwnt.
Yn ôl Adam Lewis, Athro Ysgol Plascrug:
“O safbwynt athro, mae’r adnodd yn ehangu ac yn cyfoethogi dysgu’r plant, gan ddod â’r pynciau’n fyw iddyn nhw. Mae’n cynnig mynediad gwerthfawr i ysgolion, gan ddod â chasgliadau’r Llyfrgell yn uniongyrchol i bob ysgol."
** This press release is also available in English **
--DIWEDD--
Ymholiadau'r Wasg
Nia Wyn Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871
NODIADAU YCHWANEGOL I OLYGYDDION
Gwasanaeth Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.