Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cafwyd diwrnod arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ddiweddar wrth ddathlu llwyddiannau ein dysgwyr Cymraeg ac i ddiolch iddynt am roi eu hamser, eu hegni a'u brwdfrydedd i ddysgu'r iaith.
P'un a yw aelodau staff yn siarad Cymraeg yn rhugl neu'n cymryd eu camau cyntaf wrth ddysgu'r iaith, mae'r Llyfrgell wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i feithrin sgiliau a magu hyder.
Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Hoffwn longyfarch ein holl ddysgwyr a diolch iddynt am ei ymroddiad, mae'n braf gweld cynifer o'n staff yn manteisio ar y cyfleoedd i ddysgu’r iaith. Mae'r Gymraeg i bawb ac rwy'n falch iawn bod y Llyfrgell yn buddsoddi yn ein pobl i ddatblygu sgiliau ieithyddol yn y gweithle, fydd wrth reswm o gymorth y tu hwnt i'r gwaith fel sgil bywyd. Mae'r adborth gan y dysgwyr a'r tiwtoriaid wedi bod yn hynod gadarnhaol.”
Mae cefnogi staff i ddatblygu eu Cymraeg wedi bod yn flaenoriaeth bwysig i'r Llyfrgell yn ystod 2025–26. Ers Medi 2025 mae 23 aelod o staff wedi bod yn dysgu'r iaith gyda chefnogaeth y Llyfrgell. Maent yn cael amser pwrpasol yn ystod y diwrnod gwaith i fynychu gwersi Cymraeg, ynghyd â chyfleoedd parhaus i ymarfer a magu hyder.
I'r staff sydd wedi cymryd rhan, nid cwrs iaith yn unig yw hwn. Mae'n rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn yn y gwaith ac yn y cartref.
Meddai Lisa Davies, Cynorthwyydd Cyllid:
“Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig iawn fy mod yn gallu siarad gyda fy nghydweithwyr a chwsmeriaid yn eu hiaith gyntaf. Dwi'n meddwl ei bod yn ardderchog bod y Llyfrgell yn buddsoddi yn ein Cymraeg. Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi.”
Mae'r daith wedi bod yn un gyffrous, gan ddechrau gyda geiriau a brawddegau newydd a datblygu i ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy naturiol gyda chydweithwyr, ymwelwyr a theulu.
Meddai Pete Brigham, Uwch Weinyddwr Systemau:
“Mae dysgu Cymraeg yn golygu fy mod i'n gallu siarad mwy o Gymraeg gyda fy nghydweithwyr. Rydw i hefyd yn gallu cyfathrebu a helpu fy merch sy'n yr ysgol yn y Gymraeg. Mae fy ngwraig hefyd yn dysgu Cymraeg yn y gwaith yn y brifysgol.”
Trwy gydweithio'n agos â Phrifysgol Aberystwyth i gynnal dosbarthiadau Cymraeg yn y Llyfrgell, mae nifer y staff sy'n mynychu gwersi bellach bron wedi treblu ers y llynedd. Hoffai'r Llyfrgell a'r dysgwyr ddiolch yn fawr i'r tiwtoriaid, Brid Davies a Helen Hopkins, am eu cymorth a'u hanogaeth gwerthfawr.
Mae'r cynllun yn cynnwys cyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb, sesiynau gloywi iaith un-i-un a dosbarthiadau lefel Mynediad. Mae rhai staff hefyd wedi cael profiad o drochi yn y Gymraeg yng nghyrsiau preswyl Nant Gwrtheyrn, tra bydd chwe aelod arall o staff yn mynychu cwrs dwys yn Aberystwyth dros yr haf.
Wrth i fwy o staff ddechrau neu barhau ar eu taith ddysgu, mae'r Llyfrgell yn edrych ymlaen at weld mwy o ddysgwyr yn datblygu’n siaradwyr newydd hyderus ac yn denfyddio’r Gymraeg fel rhan naturiol o’u gwaith a’u bywydau bob dydd.
** This press release is also available in English **
--DIWEDD--
Ymholiadau'r Wasg
Nia Wyn Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871
NODIADAU YCHWANEGOL I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.