Symud i'r prif gynnwys

13.04.2026

Ar 14 Ebrill bydd arddangosfa newydd yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddathlu gyrfa o gasglu y Curadur Ffotograffau, Will Troughton. Mae arddangosfa Lens y Curadur: Gyrfa o Gasglu yn cynnwys detholiad arbennig o ddelweddau wedi’u dewis gan Will i ddathlu ei yrfa ar drothwy ei ymddeoliad wedi dros dri degawd yn y Llyfrgell.

Mae dros filiwn o ffotograffau sy’n ymwneud â Chymru yng nghasgliad ffotograffau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn ystod ei yrfa mae Will wedi gofalu am filoedd ar filoedd o’r rhain, gan chwarae rôl hanfodol wrth ddiogelu a datblygu archif gweledol Cymru.

O’r nifer anferthol o ffotograffau mae wedi’u gweld, mae rhai wedi dal ei sylw yn fwy nag eraill. Gall hyn fod oherwydd cyfansoddiad cryf, testun anarferol neu bwysig, defnydd diddorol o dechneg, eiliad ddoniol, cysylltiad personol, neu oherwydd bod y ddelwedd yn deffro hen atgof.

Mae’r ffotograffau sydd wedi eu dewis ar gyfer yr arddangosfa hon yn adlewyrchu’r rhinweddau hyn, ond maen nhw hefyd cynrychioli distylliad personol iawn o dros un filiwn o ffotograffau, gan roi’r cyfle i ymwelwyr fwynhau’r Casgliadau Ffotograffau drwy lygad curadurol.

Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Yn ystod ei yrfa yn y Llyfrgell mae cyfraniad Will at ddatblygu a gofalu am y Casgliadau Ffotograffau wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’r cyfle yma i weld detholiad o ffotograffau drwy ei lens o, yn gyfle i ymwelwyr ddod i ddeall yr amrywiaeth sydd yn ein casgliadau, sydd yn adlewyrchu bywyd yng Nghymru a thu hwnt.”

Meddai’r Curadur Ffotograffau Will Troughton: 
“Yn ystod fy nghyfnod yn y Llyfrgell rydw i wedi cael y braint o ddelio gyda miloedd o ffotograffau, ac ar hyd y daith wedi cwrdd â nifer fawr o ffotograffwyr a chydweithwyr ysbrydoledig ac wedi dysgu cymaint ganddyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i rannu rhai o'r ffotograffau sydd wedi creu argraff arna i yn yr arddangosfa hon.”

Mae uchafbwyntiau’r arddangosfa arbennig yma yn cynnwys:

  • [Sheep Shelter, Mynydd Epynt Artillery Range] from the series Portfolio Wales 1, David Hurn, c.1973
  • Antibiotics, Y Dyn Surreal (Dai Evans), c1995
  • Penbryn Mawr, Trefenter, Ceredigion from the series Mynydd Bach, Marian Delyth
  • Marine & Child, Philip Jones Griffiths, 1967

** This press release is also available in English **

--DIWEDD--

Ymholiadau'r Wasg
Nia Wyn Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871

NODIADAU YCHWANEGOL I OLYGYDDION

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 8,000,000 o lyfrau a chyfnodolion (gyda tua 4000 o eitemau Newydd yn cyrraedd bob wythnos drwy adnau cyfreithiol a derbynion)
  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 150,000 awr o sain
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 1,000,000 ffotograff
  • 70,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau
  • Dros 2.5PB o ddaliadau archifol digidol anedig
  • Dros 6,000,000 o wrthrychau wedi'u digido

Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.