Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar 25 Gorffennaf bydd arddangosfa arbennig i ddathlu bywyd a gwaith yr artist Mary Lloyd Jones yn agor yn Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dros chwe degawd, mae Mary Lloyd Jones wedi datblygu iaith weledol gwbl unigryw sydd wedi tyfu o’r tir, iaith a’i hunaniaeth. Mae’r arddangosfa hon yn archwilio’r themâu cyfoethog a rhyng-gysylltiedig sydd wedi siapio un o leisiau artistig pwysicaf Cymru.
Yn seiliedig ar archif helaeth a roddwyd i’r Llyfrgell yn ddiweddar ac ar weithiau gan Mary oedd eisoes yn rhan o'r casgliad yn y Llyfrgell, mae arddangosfa Mary Lloyd Jones: Haenau yn gwahodd ymwelwyr i ddathlu oes o greadigrwydd lliwgar.
Yn cynnwys rhai o’i gweithiau mwyaf adnabyddus ochr yn ochr â gweithiau sydd heb eu gweld o'r blaen, mae’r arddangosfa yn cynnig cipolwg ar ei thaith greadigol.
Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Dros y blynyddoedd, mae Mary Lloyd Jones wedi bod yn gyfaill hael i’r Llyfrgell. Diolch iddi, rydyn ni’n ffodus iawn o gael casgliad helaeth o’i gweithiau arbennig yn y Casgliad Celf Cenedlaethol i’w diogelu, gan sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu eu mwynhau a’u hastudio, a chael eu hysbrydoli ganddynt. Mae’r arddangosfa hon yn cynnig cyfle gwych i ni rannu rhai o’r trysorau hyn ac i ddathlu ei chyflawniad artistig eithriadol a'i chyfraniad parhaol i ddiwylliant Cymru. Rhaid annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwn i ymweld a mwynhau ei gwaith anhygoel.”
Meddai Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru a churadur yr arddangosfa:
“Mae gweithio gydag archif Mary i guradu'r arddangosfa hon wedi bod yn fraint wirioneddol. Mae’r arddangosfa’n rhoi cipolwg i ni ar artist sydd wedi treulio dros chwe degawd yn datblygu ffordd gwbl unigryw o weld a dehongli’r byd. Trwy’r casgliad gwerthfawr hwn daw’r chwilfrydedd a’r creadigrwydd sydd wedi gwneud Mary yn un o leisiau artistig pwysicaf Cymru yn fyw.”
Meddai Morfudd Bevan, Curadur Celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Mary a’i theulu am roi rhodd o weithiau mor werthfawr i gasgliad celf y Llyfrgell. O fewn y casgliad ceir esiamplau prin o bob cyfnod a chyfrwng o yrfa’r artist. Un o artistiaid pwysicaf Cymru sydd wedi, ac sydd yn parhau i, ysbrydoli cymaint heddiw.”
Mae nifer o’r gweithiau sy’n cael eu harddangos yn dangos sut y cafodd Mary Lloyd Jones ei hysbrydoli gan ei phlentyndod yng nghefn gwlad Ceredigion ac wedi iddi ailgysylltu gyda’r dirwedd Gymreig ar ôl dychwelyd i Gymru. Mae’r arddangosfa hefyd yn dangos iddi gael ei dylanwadu gan syniadau newydd yn y byd celf fel celf haniaethol, celf geometrig, celfyddyd berfformiadol, cerddoriaeth a chelf ffeministaidd.
I gyd fynd â’r arddangosfa yma bydd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau bywiog a chreadigol, sy’n cynnwys sesiwn sgetshio ar drên bach y Rheidol - ardal sy’n amlwg iawn yng nghwaith Mary, noson paentio abstract gyda Bar yr Almanac i annog talentau’r dyfodol a noson i ddathlu Bywyd Lliwgar Mary Lloyd Jones. Bydd manylion yr holl ddigwyddiadau yn cael eu rhannu ar wefan y Llyfrgell.
Mae mynediad i’r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac mae’n bosib ymweld Llun – Sad 0930 - 1700
** This press release is also available in English **
--DIWEDD--
Ymholiadau'r Wasg
Nia Wyn Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871
NODIADAU I OLYGYDDION
Mae'r uchafbwyntiau celf yn cynnwys:
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.