Symud i'r prif gynnwys

25.02.2026

Ar Ddydd Mercher 25 Chwefror bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cychwyn ar daith ysgolion arbennig i ddathlu Gŵyl Dewi. Bydd y Gwasanaeth Addysg a’r cerddor a bardd Casi Wyn yn dilyn llwybr pererindod hanesyddol, gan gychwyn yn Nhreffynnon, teithio drwy ganolbarth Cymru a gorffen yn Nhyddewi.

Dros gyfnod o dri diwrnod bydd y tîm yn cyflwyno 6 gweithdy barddoniaeth - dau bob dydd - mewn gwahanol ysgolion cynradd, a thrwy hynny yn ymgysylltu â dros 150 o ddisgyblion.

Casi Wyn fydd yn arwain y gweithdai, gan ddefnyddio neges Dewi Sant, “Gwnewch y pethau bychain” fel ysbrydoliaeth i’r disgyblion gyfansoddi cerddi eu hunain. Bydd y gweithdai’n annog plant i gysylltu’r neges â bywyd cyfoes yng Nghymru, gan feithrin mynegiant creadigol a hunaniaeth.

Bydd y disgyblion hefyd yn cael y cyfle i weld rhai trysorau o gasgliadau’r Llyfrgell gan sicrhau bod hyn yn brofiad bythgofiadwy. Mae’r rhain yn cynnwys Llyfr Taliesin, sy’n cynnwys un o’r cyfeiriadau cynharaf at Ddewi Sant a rhai o’r cerddi Cymraeg hynaf, a mapiau unigryw John Ogilby, sy’n nodi’r llwybr pererindod. 

Meddai Owain Dafydd, Rheolwr Addysg a Sgiliau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae hwn yn brosiect cyffrous sy’n cyfuno hanes, diwylliant a chreadigrwydd. Nod y daith yw creu cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu mwy am eitemau pwysig i dreftadaeth Cymru sydd ar gadw yn y Llyfrgell, yn ogystal â hybu sgiliau creadigol a llythrennedd. Mae hefyd yn gyfle i'r Llyfrgell ymgysylltu gyda dysgwyr ar draws Cymru a rhannu ein casgliadau ar hyd a lled Cymru.”

Bydd pob disgybl yn derbyn llyfryn am Lyfr Taliesin i sbarduno sgyrsiau yn eu cartrefi. Er mwyn sicrhau bod gan y prosiect waddol parhaol, bydd adnodd digidol sy’n cynnwys fideo o’r daith a deunyddiau dysgu yn cael eu cyhoeddi ar Hwb a gwefan y Llyfrgell yn y dyfodol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ysgolion ledled Cymru brofi’r daith a’r gweithgareddau. 

Mae’r prosiect yma wedi’i ariannu gan Gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026 Llywodraeth Cymru.

** This press release is also available in English **
 

--DIWEDD--

Ymholiadau'r Wasg
Nia Wyn Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871

NODIADAU YCHWANEGOL I OLYGYDDION

Ysgolion sy'n cymryd rhan:

  • Ysgol Gymraeg Gwenffrwd, Treffynnon
  • Ysgol Bryn Clwyd County, Llandyrnog
  • Ysgol Glantwymyn, Glantwymyn
  • Ysgol Gymunedol Tal-y-bont, Tal-y-bont, Ceredigion
  • Ysgol Glannau Gwaun, Abergwaun
  • Ysgol Penrhyn Dewi Church in Wales VA School, Tyddewi

Gwasanaeth Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:

  • Cyflwyno rhaglen o weithgareddau a darpariaethau addysgol sy’n alinio gyda gofynion Cwricwlwm i Gymru.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.
  • Hwyluso mynediad at wybodaeth i’r rhai mewn addysg ac addysgwyr, a’u cynorthwyo i gael y gorau o’r casgliadau drwy ddehongli gwybodaeth sydd yn y casgliad cenedlaethol.
  • Cynyddu presenoldeb y Llyfrgell, ac ymwybyddiaeth o’r sefydliad a’r gwaith mae’n gwneud, ar draws Cymru.
    Cynorthwyo LlGC i gyflawni’r blaenoriaethau strategol Cysylltu Cymru a'r Byd, Cynllun Strategol y Llyfrgell ar gyfer 2025-2030.
  • Cynhyrchu adnoddau dysgu digidol o safon uchel i’w cyhoeddi ar Hwb, platform dysgu cenedlaethol digidol Cymru.
  • Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg LlGC wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion Cwricwlwm i Gymru o ran profiadau a sgiliau.

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 8,000,000 o lyfrau a chyfnodolion (gyda tua 4000 o eitemau Newydd yn cyrraedd bob wythnos drwy adnau cyfreithiol a derbynion)
  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 150,000 awr o sain
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 1,000,000 ffotograff
  • 70,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau
  • Dros 2.5PB o ddaliadau archifol digidol anedig
  • Dros 6,000,000 o wrthrychau wedi'u digido

Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.