Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar Ddydd Llun 16 Mawrth daeth disgyblion, chwaraewyr a haneswyr at ei gilydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddathlu penllanw Prosiect Menywod a Chwaraeon: Cymru, gan Archif Menywod Cymru. Ers 2023, yn dilyn derbyn grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r Archif wedi bod yn gweithio ar y prosiect uchelgeisiol ac arloesol yma i gofnodi hanes menywod ym myd chwaraeon.
Dair blynedd yn ddiweddarach mae’r prosiect wedi cyflawni’r amcan hwn a chafodd seremoni ei chynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol i nodi’r achlysur. Yn osgystal â dathlu’r prosiect cafodd disgiau o ffilmiau a lluniau eu trosglwyddo i ofal y Llyfrgell a’u rhoi ar wefan Casgliad y Werin Cymru. Mae’r adnoddau felly ar gadw’n ddiogel ar gyfer y dyfodol ac yn hygyrch i bawb eu gweld, fel gwaddol parhaol i waith y prosiect.
Mae’r hanesion sydd wedi eu casglu yn adlewyrchu menywod o bob cefndir o ran anabledd, ethnigrwydd, iaith, oedran a rhywioldeb, ac yn cynrychioli cymaint o gampau gwahanol â phosibl.
Mae’r ffilmiau yn cynnwys 60 o hanesion llafar chwaraewyr y gorffennol a’r presennol. Mae’r cyfweliadau hyn yn sail i ffilm y prosiect Beth yw’r Sgôr? / What’s the Score?, a gafodd ei dangos am y tro cyntaf yn ystod y dathliad.
Mae dros 500 o luniau o gampau cymunedol gan ferched a menywod wedi’u casglu fel rhan o waith y prosiect, sydd hefyd wedi’u digido a’u hychwanegu at wefan Casgliad y Werin Cymru.
Mae’r adnoddau hyn yn cofnodi hanesion chwaraeon amrywiol, ac yn cynnwys straeon ac atgofion fel:
Mae nifer o’r storiau yn darlunio sut y bu’n rhaid i fenywod frwydro yn erbyn cyfleusterau gwael, diffyg cefnogaeth ariannol a misogynistiaeth i gyrraedd eu potensial ac i gyflawni eu dyheadau.
Meddai Catrin Stevens, Rheolwr y Prosiect:
“Roedden ni yn Archif Menywod Cymru yn ymwybodol iawn fod campau menywod wedi cael eu tanbrisio a’u hesgeuluso gan haneswyr ac yn gyffredinol. Roedden ni’n awyddus i wneud iawn am hynny a chyfrannu at geisio sicrhau gwell cydbwysedd rhwng campau menywod a dynion.
Diolch i’r prosiect yma mae ffynonellau sy’n ymwneud â hanes menywod a chwaraeon yng Nghymru wedi’u cofnodi a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rydw i’n mawr obeithio trwy godi ymwybyddiaeth o orchestion menywod ym myd chwaraeon yng Nghymru y byddwn yn ysbrydoli menywod eraill i ymfalchïo yn yr hanes ac efelychu eu llwyddiannau.”
Meddai Iola Baines, Curadur Delweddau Symudol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae'n bleser cael ychwanegu ffrwyth y prosiect pwysig hwn at gasgliad yr Archif Sgrîn a Sain. Yn rhy aml, ‘rydyn ni’n gweld bylchau sylweddol mewn archifau ffilm o ran cofnodi campau a chyraeddiadau merched, gan nad ydi camerâu dros y degawdau wedi rhoi hanner y sylw iddyn nhw ag i chwaraeon dynion. Mae'r casgliad gwych yma yn help i lenwi'r bylchau hynny, yn ogystal â bod yn ddathliad gogoneddus o gyfraniad merched Cymru i'r campau, fydd ar gael i bawb yn y dyfodol ei fwynhau a chael ysbrydoliaeth ohono.”
Meddai Berian Elias, Swyddog Maes Casgliad y Werin Cymru:
“Mae’n fraint fawr gallu ychwanegu deunydd y prosiect hwn at archif Casgliad y Werin Cymru, gan sicrhau mynediad agored i bawb sy’n dymuno dysgu am hanes a threftadaeth gyfoethog chwaraeon merched yng Nghymru. Mae’r cyfraniadau hyn yn llenwi bwlch pwysig yn yr archif ac yn cynnig adnoddau o werth i ddathlu rôl merched Cymru yn y byd chwaraeon. Byddant hefyd yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i genedlaethau’r dyfodol ac yn annog eraill i rannu eu straeon eu hunain.”
Agwedd arall ar waith y prosiect oedd ymchwilio hanesion menywod arloesol ym myd chwaraeon nad ydynt yn fyw bellach. Mewn cydweithrediad â Phwyllgor y Placiau Porffor, mae 3 phlac wedi'u gosod i gynrychioli'r 40 o fenywod a ymchwiliwyd iddynt. Mae'r rhain ar gyfer:
** This press release is also available in English **
--DIWEDD--
Ymholiadau'r Wasg
Nia Wyn Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871
NODIADAU YCHWANEGOL I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.