Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar Ddydd Iau 12 Mawrth cafodd disgyblion Ysgol Maesydderwen, Ystradgynlais, a’r grŵp cymunedol Welfare Wonder Women gyfle arbennig i ddod i gyswllt gyda chelf o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Cafodd dau baentiad pwysig eu cludo o Aberystwyth i’r Neuadd Les yn Ystradgynlais er mwyn rhoi profiad unigryw ac ysbrydoledig i bawb oedd yno.
Cymerodd y disgyblion a’r grŵp cymunedol ran mewn gweithdai creadigol dan arweiniad yr artist Elissa V Evans, lle roedd cyfle iddyn nhw weld Mother & Child gan Josef Herman a Mothers & Children gan Claudia Williams.
Roedd y sesiynau’n edrych ar sut mae gwahanol artistiaid wedi dehongli'r thema o famau a phlant. Yn y gweithdai, cafodd y disgyblion a’r menywod y cyfle i greu eu hymatebion artistig eu hunain gan ddefnyddio’r un themâu a chymryd ysbrydoliaeth o weithiau Herman a Williams.
Roedd y digwyddiad yma yn rhan o ymdrechion hirsefydlog y Llyfrgell i fynd â chasgliadau allan i ysgolion, sy’n rhan bwysig o strategaeth newydd y Llyfrgell i gyrraedd pob ysgol a phob tref yng Nghymru. Y nod oedd gwneud argraff nid yn unig o fewn ysgol ond ar draws y gymuned ehangach. Drwy adeiladu ar bartneriaeth gref oedd eisoes yn bodoli gyda'r Neuadd Les, sicrhaodd y Llyfrgell bod y paentiadau hyn, sydd â chyswllt gyda’r ardal, yn cyrraedd ac yn ysbrydoli sawl cenhedlaeth yn ardal Ystradgynlais.
Meddai Lloyd Roderick, Swyddog Addysg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydym wedi bod yn mynd â gweithiau celf i ysgolion yn flynyddol ers 15 mlynedd ac mae’n pwysleisio ymrwymiad y Llyfrgell i rannu’r casgliadau gyda chymunedau a chynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r wlad.
Ein gweledgaeth yw sicrhau bod holl bobl Cymru yn gwybod am y Llyfrgell, yn cael cyfle i ymwneud gyda hi ac yn gweld ei gwerth. Mae gweithgareddau fel hyn yn fford wych o gyflawni hynny.”
Meddai Zoe Gealy o'r Neuadd Les:
"Mae heddiw wedi bod yn wych.
Gallwch weld bod y bobl ifanc yn ogystal ag aelodau hŷn y gymuned wedi ymgysylltu ac wedi ystyried yr hyn a ddywedwyd gan yr artist a thîm y Llyfrgell. Maent wedi defnyddio’r wybodaeth i greu’r gwaith, sydd wedi bod yn gyffrous iawn."
--DIWEDD--
Ymholiadau'r Wasg
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Cyfathrebu
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 01970 632844
NODIADAU YCHWANEGOL I OLYGYDDION
Gwasanaeth Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:
Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg LlGC wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion Cwricwlwm i Gymru o ran profiadau a sgiliau.
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.