Symud i'r prif gynnwys

13.03.26

Mae’r Taoiseach Micheál Martin a’r Prif Weinidog Sir Keir Starmer, ynghyd â’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Cyfathrebu a Chwaraeon Patrick O’Donovan a’r Gweinidog dros Ddiwydiannau Creadigol, y Cyfryngau a’r Celfyddydau Ian Murray, wedi cyhoeddi cyllid o €5 miliwn ar gyfer deuddeg prosiect o dan Raglen Cydweithredu Diwylliannol y DU–Iwerddon, gan wireddu ymrwymiad a wnaed yng Nghynhadledd DU–Iwerddon 2025 i sefydlu partneriaeth strategol i ddyfnhau ac ehangu cydweithrediad rhwng y prif sefydliadau diwylliannol yn y ddwy wlad.

Gwnaed y cyhoeddiad yng Nghorcaigh heno yn ystod yr ail Gynhadledd DU–Iwerddon i gryfhau’r berthynas ar ôl Brexit.

Bydd y prosiectau a gymeradwywyd ar gyfer cyllid yn digwydd yn ystod y cyfnod rhwng 2026 a 2030.

Mae’r holl brosiectau hyn yn adlewyrchu dymuniad y ddwy Lywodraeth i lwybro ffordd newydd o gydweithredu, fel y nodir yn y rhaglen DU–Iwerddon 2030 a gyhoeddwyd yng nghynhadledd gyntaf DU–Iwerddon yn Lerpwl y llynedd.

Un o’r prosiectau a fydd yn derbyn 750,000 o Ewros yw rhaglen arddangosfa a digwyddiadau gydweithredol gyntaf o’i math rhwng y pedair Llyfrgell Genedlaethol – Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a’r British Library. Bydd y prosiect “Ar draws yr ynysoedd hyn – hanesion a dyfodol ar y cyd” rhwng y Llyfrgelloedd Cenedlaethol ynghyd â phartneriaid a chymunedau eraill yn archwilio dwy thema o ymgysylltu ag ymwelwyr, sef arbenigrwydd diwylliant, straeon ac iaith yr ynysoedd hyn, a hefyd y cysylltiadau rhwng cymunedau a’r dylanwad cyfoethog rydym wedi’i gael ar ein gilydd.

Gan groesawu’r cyhoeddiad – dywedodd Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Llwyd Morgan, sydd yng Nghorcaigh ar gyfer y digwyddiad: 

“Mae hwn yn brosiect cyffrous, unigryw ac arloesol. Bydd yn gweld y pedair Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i greu rhaglenni, prosiectau a deunyddiau deniadol a fydd yn ysbrydoli ac yn cynnig cyfleoedd i gymunedau a theuluoedd ddysgu a deall mwy amdanynt eu hunain a’i gilydd.”


--Diwedd--

** This press release is also available in English **

Cyswllt cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Cyfathrebu rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762

NODIADAU I OLYGYDDION

Closer ties with Ireland are delivering for the UK in a volatile world, as leaders attend second UK-Ireland summit www.gov.uk/government/news/closer-ties-with-ireland-are-delivering-for-the-uk-in-a-volatile-world-as-leaders-attend-second-uk-ireland-summit


UK-Ireland Summit 2026 - Remarks by Taoiseach Micheál Martin at the reception to celebrate cultural ties between Ireland and the UK Cork City Hall, 12 March www.gov.ie/en/department-of-the-taoiseach/speeches/uk-ireland-summit-2026-remarks-by-taoiseach-miche%C3%A1l-martin-at-the-reception-to-celebrate-cultural-ties-between-ireland-and-the-uk-cork-city-hall-12-march/

 

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan: www.llyfrgell.cymru