Symud i'r prif gynnwys

06.08.2026

Heddiw (6 Awst) bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lansio gwefan a llwyfan rhwydweithio newydd sbon, Diwylliant a Hinsawdd Cymru, i helpu sector diwylliant a threftadaeth Cymru i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Mewn digwyddiad rhwydweithio ar stondin Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod, bydd yr adnodd newydd hwn, wedi’i ddatblygu fel rhan o Raglen Argyfwng Hinsawdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn cael ei gyflwyno. 

Nod Diwylliant a Hinsawdd Cymru yw cefnogi unigolion a sefydliadau ar draws y sector i gydweithio i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'n darparu mynediad at wybodaeth ac adnoddau hyfforddi, digwyddiadau, astudiaethau achos, a gofod fforwm ar-lein i rannu syniadau a chydweithio.

Wedi'i ddatblygu mewn ymateb i argymhelliad adroddiad ymchwil Llywodraeth Cymru i'r sector diwylliant yng Nghymru a'r argyfyngau hinsawdd a natur, mae'n cefnogi cyflawni Uchelgais 16 o Flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant.

Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru rol bwysig i helpu pobl i gael gwybodaeth gywir y gallant ymddiried ynddi am newid hinsawdd. 

Mae yna hefyd gymaint o wybodaeth, hanes a threftadaeth anniriaethol a all ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur yn ein casgliadau. Felly, mae gweithredu hinsawdd yn cyd-fynd â'n cenhadaeth graidd i ddiogelu, ehangu a datblygu'r casgliadau, a galluogi pobl i fwynhau a gwerthfawrogi'r cynnwys."

Dywedodd Judith Musker Turner, Arweinydd Rhaglen Argyfwng Hinsawdd: 

"Bydd Diwylliant a Hinsawdd Cymru yn ei gwneud hi'n haws i bobl sy'n gweithio yn y sectorau diwylliant a threftadaeth gymryd camau ar y cyd i ddiogelu diwylliant a threftadaeth Cymru rhag newid yn yr hinsawdd a bydd yn codi proffil yr holl waith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud. Mae gan y sector diwylliant bŵer unigryw i ysbrydoli newid ac i ddod â phobl at ei gilydd, ac mae'n bwysig bod hyn yn cael ei gydnabod yn ehangach." 

Fel sefydliad blaenllaw ym maes cynaladwyedd amgylcheddol - gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru - mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio tuag at y nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2028 a dileu'r defnydd o nwy yn llwyr a lleihau allyriadau carbon. 

Yn ddiweddar, mae'r Llyfrgell wedi trawsnewid ei hystâd hanesyddol trwy raglen ôl-ffitio uchelgeisiol sy'n lleihau ei hôl troed carbon yn sylweddol wrth sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy. Roedd y mesurau yn cynnwys gosod technolegau arloesol fel pympiau gwres aer a daear, 1,622 o baneli solar, a gweithredu system rheoli adeiladau deallus i wella effeithlonrwydd ynni.

Yn ogystal â sefydlu rhwydwaith Diwylliant a Hinsawdd Cymru, mae'r Rhaglen Gweithredu Hinsawdd yn cefnogi:

  • prosiect peilot i helpu 3 sefydliad diwylliannol sydd wedi'u lleoli mewn adeiladau hanesyddol i ddatblygu cynlluniau datgarboneiddio
  • rhaglen hyfforddi i gefnogi'r gweithlu diwylliannol i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithredu yn yr hinsawdd
  • cyfleoedd i bobl sy'n gweithio ym maes diwylliant a threftadaeth yng Nghymru rannu dysgu ac arfer gorau ar yr hinsawdd gyda chydweithwyr o bob cwr o'r DU.

Ewch i'r wefan i ddarganfod mwy ac ymunwch â'r fforwm a chofrestrwch i'r cylchlythyr i glywed am y datblygiadau diweddaraf. 

Bydd y Sesiwn Rhwydweithio: Diwylliant a Hinsawdd Cymru: Sut mae diwylliant yn ysbrydoli cymunedau i weithredu dros yr hinsawdd a natur? ar stondin Llywodraeth Cymru heddiw am 15:30.

** This press release is also available in English **

--DIWEDD--

Ymholiadau'r Wasg
Nia Wyn Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871

NODIADAU I OLYGYDDION

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 8,000,000 o lyfrau a chyfnodolion (gyda tua 4000 o eitemau Newydd yn cyrraedd bob wythnos drwy adnau cyfreithiol a derbynion)
  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 150,000 awr o sain
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 1,000,000 ffotograff
  • 70,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau
  • Dros 2.5PB o ddaliadau archifol digidol anedig
  • Dros 6,000,000 o wrthrychau wedi'u digido

Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.