Symud i'r prif gynnwys

19/03/2026

Mewn digwyddiad arbennig ar Ddydd Gwener 20 Mawrth bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn agor Cornel Clip yn Llyfrgell Wrecsam a bydd Rhaglen Llysgenhadon Casgliad y Werin Cymru yn cael ei lansio. Bydd y ddau gyhoeddiad yn uchafbwynt i brynhawn o weithgareddau i ddathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Wrecsam fydd yn cynnwys cerddoriaeth, sgyrsiau a gweithdai am hanes lleol. 

Mae agor y Gornel Clip yn golygu y bydd gan bobl Wrecsam a’r ardal fynediad at bron i hanner miliwn o raglenni radio a theledu o archifau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C. Hon yw’r 15fed lleoliad i agor dros Gymru fel rhan o brosiect ehangach Archif Ddarlledu Cymru sydd wedi ei hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae’r ardal yn Llyfrgell Wrecsam yn cynnwys 4 terfynell mewn gofod cyfforddus lle gall unrhyw un ddod i wylio a gwrando ar dros 100 mlynedd o hanes darlledu Cymru. 

Mae Casgliad y Werin Cymru yn archif ddigidol genedlaethol sy'n cadw ac yn rhannu hanesion amrywiol Cymru. Bydd Rhaglen Llysgenhadon Casgliad y Werin Cymru yn dod â grŵp bach o unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob cwr o Gymru ynghyd sydd wedi ymrwymo i dreftadaeth ac adrodd straeon cynhwysol.

Nod y fenter yw amlygu lleisiau unigolion a chymunedau, hybu adrodd straeon cynhwysol ac ehangu cyfranogiad, yn enwedig ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. 

Mae’r llysgenhadon yn cefnogi hyrwyddo Casgliad y Werin Cymru o fewn eu rhwydweithiau drwy ymgysylltu achlysurol, ysgafn ei gyffyrddiad. Yn gyfnewid, maent yn derbyn cydnabyddiaeth, mynediad at hyfforddiant a digwyddiadau, a chyfleoedd i gysylltu o fewn rhwydwaith treftadaeth ehangach.

Yn ystod y prynhawn o ddathlu yn Llyfrgell Wrecsam bydd gweithdai ar ddigido a rhannu casgliadau gyda Chasgliad y Werin Cymru ynghyd â sesiynau i ddod i adnabod Archif Ddarlledu Cymru.

Bydd sgyrsiau gan siaradwyr lleol, gan gynnwys Huw Jones (Prosiect Glowyr Wrecsam), Nicola Sawford (Prif Weithredwr Stori Brymbo), a cherddoriaeth fyw gan y cerddor lleol Andy Hickie a Chôr Meibion Froncysyllte.

Dywedodd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’r Llyfrgell yn falch iawn o allu rhoi mynediad i’r adnoddau cyfoethog sydd dan ein gofal ym mhob cornel o Gymru a bod Casgliad y Werin Cymru’n gallu helpu pobol i rannu hanes eu hardaloedd a’u treftadaeth.

Mae ymgysylltu gyda phobl ym mhob tref yng Nghymru yn biler canolog yn ein strategaeth ymgysylltu pum mlynedd, ac mae cael presenoldeb mewn lleoliad prysur a chanolog yn Wrecsam yn rhan bwysig iawn o wireddu hynny.

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lyfrgell Wrecsam am yr holl gydweithio, a’n gobeithio bydd pobl yn dod draw i fwynhau’r adnoddau ac i wylio ambell i glasur o orffennol darlledu.”

Archif Ddarlledu Cymru yw'r gyntaf o'i math yn y DU. Gan olrhain bron i ganrif o ddarlledu, mae'n dwyn ynghyd deunydd o gasgliadau sgrin a sain BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i wneud y casgliad rhyfeddol hwn yn hygyrch i bawb. Yn ogystal â chadw, catalogio a digido'r deunydd hwn, mae’r casgliad cyfan ar gael ar wefan gallwch ei chwilio'n llawn ac mae modd cael mynediad i’w wylio mewn Corneli Clip ar hyd a lled Cymru.

Mae sefydlu'r Corneli Clip yma yn sicrhau bod cymunedau y tu hwnt i'r Llyfrgell Genedlaethol ei hun yn Aberystwyth yn gallu gweld yr archif gyfan yn eu hardal leol. Mae gwaith ymgysylltu eisoes wedi dechrau gyda grwpiau ledled Cymru, ac mae'r Corneli Clip yn darparu lle i weithio gyda grwpiau cymunedol i archwilio a dod â'r archif yn fyw.

Gwnaed prosiect Archif Ddarlledu Cymru yn bosibl trwy gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (£4.7M), Llywodraeth Cymru (£1M) a chronfeydd preifat Llyfrgell Genedlaethol Cymru (£1M).

Dolenni
Gwefan Archif Ddarlledu Cymru 
YouTube
Casgliad y Werin Cymru

** This press release is also available in English **

--DIWEDD--

Ymholiadau'r Wasg
Nia Wyn Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871

NODIADAU YCHWANEGOL I OLYGYDDION

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 8,000,000 o lyfrau a chyfnodolion (gyda tua 4000 o eitemau Newydd yn cyrraedd bob wythnos drwy adnau cyfreithiol a derbynion)
  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 150,000 awr o sain
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 1,000,000 ffotograff
  • 70,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau
  • Dros 2.5PB o ddaliadau archifol digidol anedig
  • Dros 6,000,000 o wrthrychau wedi'u digido

Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.