Symud i'r prif gynnwys

23.02.21

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi bod dau waith celf sy’n rhan o arddangosfa arloesol ‘Artistiaid Ifainc Cymru’ yn Amgueddfa Celf Fodern, Machynlleth (MOMA)  i’w hychwanegu at y Casgliad Celf Cenedlaethol

Mewn partneriaeth gyda MOMA, Machynlleth bwriad y Llyfrgell yw prynu gweithiau celf yn flynyddol fel hyn, gan gefnogi'r arddangosfa hynod bwysig hon ac felly gyrfaoedd artistiaid ifainc Cymreig. Mae ‘Chwilio am Ffigwr Cyfoes IV’ gan Tomos Sparnon ac ‘I Use(d) to Hurt Myself’ gan Jasmine Sheckleford yn ddarnau pwerus sy’n rhan o’r arddangosfa flynyddol newydd yn MOMA. Cafodd yr arddangosfa ei lansio ym mis Tachwedd 2020 er mwyn rhoi llwyfan i waith artistiaid o dan 30 oed sy’n gweithio yng Nghymru. Curadwyd yr arddangosfa gan y curaduron gwadd ifanc Mari Elin Jones a Lloyd Roderick.

Tra bo gwaith amlgyfrwng ar gynfas Tomos Sparnon yn archwilio beth yw bod yn ddynol, gan fyfyrio ar y gwrthdrawiad rhwng yr hyn sy’n weladwy ac yn anweladwy, mae gwaith cyanoteip ar bapur Jasmine Sheckleford yn edrych ar themâu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl, hunaniaeth a theulu.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:

“Mae tyfu a datblygu ein casgliadau yn waith parhaus ac nid yw’r gwaith yma wedi peidio â bod yn ystod y cyfnod clo. Rydym yn falch iawn o fedru ychwanegu’r darnau cyffrous a gwerthfawr hyn i’r Casgliad Celf Cenedlaethol, gan sicrhau bod ein casgliad mor gyfoes â phosib. Mae’n bwysig iawn bod casgliadau’r Llyfrgell yn esblygu’n barhaus gan adlewyrchu’r Gymru gyfredol ddeinamig a’r unigolion amrywiol sy’n rhan ohoni, a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy gefnogi artistiaid ifanc.” 

Dywedodd Emily Bartlett, Rheolwr Gyfarwyddwr Amgueddfa Celf Fodern Machynlleth (MOMA):

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer cefnogi a chydnabod y gwaith gwerthfawr sy'n cael ei greu gan artistiaid ifanc yng Nghymru, a bod y 
ddau waith cyffrous a rhyfeddol hyn bellach am fod yn rhan o'r Casgliad Celf Cenedlaethol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol i ddatblygu’r bartneriaeth hon ymhellach, a’i chefnogaeth i artistiaid ifanc o Gymru, yn y blynyddoedd i ddod. ”

Dywedodd Morfudd Bevan, Curadur Celf y Llyfrgell Genedlaethol:

“Mae’r Arddangosfa arloesol hon yn MOMA, Machynlleth yn gwneud gwaith hynod bwysig yn cefnogi artistiaid ifainc Cymreig ar ddechrau eu gyrfaoedd. Rydym yn hynod falch felly ein bod yn medru cefnogi’r arddangosfa a’r artistiaid trwy brynu gweithiau yn flynyddol o’r sioe i Gasgliad Celf Cenedlaethol y Llyfrgell”.

---DIWEDD---

Gwybodaeth bellach:
Nia Wyn Dafydd
post@llgc.org.uk 

**This press release is also available in English**

Nodiadau i Olygyddion

Graddiodd Jasmine Sheckleford mewn Celfyddyd Gain o Goleg Celf Caerfyrddin yn 2020. Fel artist mae iechyd meddwl, hunaniaeth a theulu wedi dylanwadu arni erioed ac yn ddiweddar mae iechyd meddwl wedi bod yn ffactor amlwg yn ei gwaith. Mae Jasmine yn gweithio gyda ffotograffau polaroid gan ddefnyddio technegau amlygiad hir a dwbl, yna trosi’r ffotograffau hyn i cyanoteipiau. Mae hyn yn creu ymdeimlad o golled a diraddio, wrth iddi archwilio themâu datgysylltu â’i hunan, ei theulu a bywyd bob dydd.

Graddiodd Tomos Sparnon mewn Celfyddyd Gain o Goleg Celf Abertawe yn 2018. Mae gwaith Tomos yn archwilio’r hyn ydyw i fod yn ddynol. Trwy baentio, arlunio, cerflunio a dulliau eraill, mae’n archwilio perthynas dyn â’i gyd-ddyn, ei berthynas â’r byd a’r gwrthrychau sydd ynddo. Mae hefyd yn archwilio perthynas dyn â’i hunan a’i berthynas â Duw. Ei nod yw dal gwrthdrawiad rhwng y gweladwy a’r anweladwy, rhwng realiti a’r hyn nad yw’n real. 

Mae'r Amgueddfa Celf Fodern, Machynlleth (MOMA, Machynlleth) yn rhan o Ymddiriedolaeth Tabernacl Machynlleth, a sefydlwyd ar 18 Mawrth 1986 fel cwmni elusennol wedi'i gyfyngu trwy warant. I ddechrau, roedd ei weithgareddau wedi'u cyfyngu i hyrwyddo cyngherddau yn yr hen gapel Wesleaidd ar ei newydd wedd, yn bennaf trwy Ŵyl flynyddol yn cychwyn ym mis Awst 1987 ac mae’n parhau bob blwyddyn ers hynny. Ar yr un pryd dechreuodd yr Ymddiriedolaeth adeiladu casgliad parhaol o weithiau celf a sefydlwyd MOMA, Machynlleth (MOMA, Cymru i ddechrau) ym 1991. Mae'r ymddiriedolaeth wedi goruchwylio sawl datblygiad dros y blynyddoedd, gan arwain at y safle bresennol sy’n cynnwys awditoriwm a ddefnyddir yn helaeth a sawl gofod arddangos o ansawdd uchel.

Mae MOMA Machynlleth yn cynnal gweithgareddau diwylliannol trwy gydol y flwyddyn ochr yn ochr â'r rhaglen arddangos celf gan gynnwys:

  • Gŵyl Machynlleth sy'n dathlu diwylliant traddodiadol Cymru ynghyd â jazz, cerddoriaeth glasurol ac artistiaid rhyngwladol.
  • gweithgareddau diwylliannol, a hyrwyddir yn annibynnol, gan gynnwys llenyddiaeth, dosbarthiadau Cymraeg a dosbarthiadau iaith eraill, dosbarthiadau celf, darlithoedd, cyfarfodydd cyhoeddus a Gŵyl Gomedi Machynlleth.

Derbyniwyd achrediad llawn gan MALD ym mis Ionawr 2016 ac mae arddangosfeydd yn denu diddordeb cenedlaethol a rhyngwladol, yn aml yn cynnwys artistiaid blaenllaw o Gymru a gweithiau o gasgliad y Tabernacl.