Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Symffoni'r Môr Mawr – Transatlantic Symphony yn waith cerddorfaol gyda lleisiau sydd wedi’i gyfansoddi gan Katie Jenkins, sy'n wreiddiol o Bontypridd ac sydd bellach wedi'i lleoli yn Efrog Newydd.
Wedi'i ysgrifennu yn ddwy iaith Cymru, mae'r darn yn dathlu'r berthynas barhaol rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau trwy gerddoriaeth, barddoniaeth, iaith a thraddodiad corawl.
Ar draws tri symudiad, mae'r symffoni yn olrhain taith ymsefydlwyr Cymreig i America, yn dathlu'r cysylltiadau diwylliannol sy'n parhau i gysylltu'r ddwy genedl, ac yn edrych i'r dyfodol gyda neges o gymuned, treftadaeth ac adnewyddu.
Mae'r prosiect yn tynnu ar hunaniaeth Cymru fel Gwlad y Gân ac ar y traddodiad hir o roddion diwylliannol sy'n cael eu cyfnewid rhwng cenhedloedd. Mae'n cynnig mynegiant cerddorol cyfoes o gyfeillgarwch rhwng Cymru ac America wrth i'r Unol Daleithiau nodi 250 mlynedd ers y Datganiad Annibyniaeth.
Daeth y recordiad gwreiddiol o'r symffoni â chast eithriadol o ddawnus o Gymru a rhyngwladol at ei gilydd gan gynnwys Syr Bryn Terfel, y pianydd o fri rhyngwladol a pherfformiwr Gwobr GRAMMY Chloe Flower, Bardd Cenedlaethol Cymru Hanan Issa, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Côr Meibion Pendyrus, CF1 x Côr Ifor Bach a'r soprano Ellen Williams.
Mae'n taflu goleuni ar y stori gyfoethog Gymreig-Americanaidd ac ar greadigrwydd cyfoes Cymru, gan dynnu ar liwiau canu Cymreig ac egni traddodiadau cerddorol America.