Symud i'r prif gynnwys

Papurau David Jones

Mae Papurau David Jones yn LLGC. Mae catalog arlein ar gael.

Trefnwyd ei archif yn LlGC i bum grŵp:

  • Llawysgrifau llenyddol, 1927-1981,
  • gohebiaeth, 1910-1985,
  • deunydd yn ymwneud â’i waith celf, 1821, 1900-1970,
  • dogfennau personol, 1853-1976, 
  • papurau a gronnwyd ganddo, 1892-1974

Mae’r archif yn cynnwys llawysgrifau llenyddol David Jones, gyda drafftiau llawysgrif o

  • In Parenthesis: seinnyessit e gledyf ym pen mameu,
  • The Anathemata: fragments of an attempted writing,
  • Epoch and Artist: selected writings by David Jones,
  • The Sleeping Lord and other fagments,
  • The Dying Gaul and other writings
  • The Roman quarry and other sequences

Mae corff sylweddol o ohebiaeth  

  • at David Jones oddi wrth ei gyfeillion, golygyddion ac eraill, 1910-1976;
  • llythyrau drafft oddi wrth David Jones at ffrindiau, golygyddion papurau newydd ac eraill, 1929-1982;
  • a llythyrau gan David Jones, 1919-1985, a gyhoeddwyd yn Dai Greatcoat: a self-portrait of David Jones in his letters.

Ceir enghreifftiau o gelf gan David Jones a deunydd yn ymwneud â’i waith fel artist, ynghyd â dogfennau personol, papurau ariannol, papurau teuluol, ffotograffau, a deunydd ymchwil a gronnwyd ganddo.

Pigion o gasgliadau eraill yn y Llyfrgell Genedlaethol

Ceir llythyrau niferus oddi wrth David Jones at unigolion amrywiol ym mhrif gasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru (NLW MSS), ac ym mhapurau personol nifer o unigolion sydd yn y Llyfrgell. Gweler y catalog am fanylion pellach.

Llyfrgell David Jones

Rhoddwyd Llyfrgell David Jones ar adnau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1975, ac fe’i prynwyd wedyn yn 1978. Am fanylion pellach gweler The Library of David Jones: A Catalogue gan Huw Ceiriog Jones, (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 1995).

Ffotograffau

Ceir tua 110 ffotograff o’i gyfeillion, teulu a lleoedd yng Nghasgliad Cenedlaethol Ffotograffau Cymru yn LLGC, (Llyfr Ffoto 4302). 

Lluniau

Mae gan LlGC weithiau celf gan David Jones yn cynnwys 'Tir y Blaenau', 'Capel-y-ffin', 'Llys Ceimiad: La Bassée Front 1916', 'Beird Byt Barnant', 'Cloelia Cornelia', 'Cara Walia Derelicta', 'Pwy Yw'r Gŵr' a 'Optima Musa Veritas'. Gweler y catalog am fanylion pellach a delweddau digidol.

Prynu delweddau arlein

Mae rhai cardiau a phrintiau gan David Jones ar werth o siop arlein y Llyfrgell

Recordiadau

Ceir recordiadau o raglenni radio’r BBC am David Jones, tâp o gyfweliad 'David Jones: artist and writer', a darllediad o In Parenthesis yn Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru