Llawysgrifau Edward a Helen Thomas
Dyma'r prif grŵp o bapurau Edward Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae'n cynnwys 28 cyfrol, gan gynnwys dyddiaduron Edward Thomas, 1895-1917 (yn eu mysg y Dyddiadur Rhyfel olaf); gohebiaeth Edward a Helen, 1896-1917; gohebiaeth Edward Thomas gyda'i dad-yng-nghyfraith James Ashcroft Noble, 1895-1896; rhai gweithiau rhyddiaith, 1906-1912; a drafftiau o gerddi, 1914-1917, y cyfan wedi'u cyhoeddi yn The Collected Poems of Edward Thomas, gol. gan R. George Thomas (Rhydychen, 1978).
Mae Catalog Llawysgrifau Edward a Helen Thomas ar gael arlein. Fodd bynnag mae NLW MSS 22900-21 ac 23077C yn cael eu disgrifio'n llawnach yn y siediwl gwreiddiol Llawysgrifau Edward a Helen Thomas (1993), a'r cynnwys wedi'i fynegeio'n fanylach yn Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales, Cyfrol 9 (Aberystwyth, 2003). Mae'r ddwy gyfrol hefyd ar gael yn Ystafell Ddarllen y Llyfrgell.