Symud i'r prif gynnwys

Papurau Dylan Thomas yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Oeddech chi'n gwybod bod gan y Llyfrgell Genedlaethol y casgliad mwyaf o ddeunydd sy'n ymwneud â Dylan Thomas? Dros y blynyddoedd, mae'r Llyfrgell wedi casglu nifer o lythyrau a drafftiau o weithiau gan Dylan Thomas ac rydym hefyd wedi bod yn ffodus wrth brynu grwpiau sylweddol o bapurau sydd wedi datblygu ein casgliadau yn sylweddol, sef: Llawysgrifau a phapurau Ymddiriedolaeth Dylan Thomas a Chasgliad (Dylan Thomas).  Mae modd pori trwy’r cofnodion catalog ar-lein trwy ddilyn y dolenni isod:

Eitemau Dylan Thomas eraill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae gan y Llyfrgell hefyd weithiau printiedig, ffotograffau, posteri a deunydd clyweledol sy'n ymwneud â Dylan Thomas ac mae'r rhain wedi eu trosglwyddo i gasgliadau eraill o fewn y Llyfrgell; ceir manylion yn y cofnodion catalog perthnasol.

Arddangosfa arlein

Er mwyn sicrhau bod etifeddiaeth Dylan yn parhau, mae'r Llyfrgell wedi digido llawer iawn o'i archif, ac mae modd edrych ar rhain yn rhad ac am ddim, unrhyw bryd y dymunwch ar ein gwefan Dylan.

Dylan Thomas, 1914-1953. Map Llareggub [194-]

Cyfeirnod: NLW MS 23949E

Braslun dwy dudalen sgematig o Llareggub mewn inc brown, [1944x1951], a dynnwyd gan Dylan Thomas wrth iddo gyfansoddi Under Milk Wood, ei ddrama i leisiau.