Symud i'r prif gynnwys

Mae copi llawysgrif o’i gerdd adnabyddus "Leisure" wedi cael ei brynu yn ddiweddar gan y Llyfrgell i ychwanegu at ein casgliad nodedig o lawysgrifau W H Davies.

“What is this life if, full of care,
We have no time to stand and stare.”

Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad o ohebiaeth, drafftiau barddoniaeth, papurau personol, ffotograffau a deunydd printiedig gan W H Davies. Dyma rai o uchafbwyntiau’r casgliad, ond gallwch hefyd chwilio am W H Davies ar y Prif Gatalog.

Barddoniaeth

Barddoniaeth

Copi llawysgrif o "Leisure", wedi'i arwyddo gan W H Davies, dyddiedig 8 Mai 1914 (NLW MS 23960B). Mae'r gerdd yn cynnwys saith o gwpledi, a gyhoeddwyd gyntaf yn Songs of Joy and Others (Llundain, 1911).

Copi llawysgrif, [1910au], o `A Boy's Sorrow', cerdd o ddau bennill wyth llinell gan W H Davies, sydd heb ei chyhoeddi, yn ymwneud â marwolaeth cymydog. (NLW MSS 23875B)

Cyfrol yn cynnwys copïau llawysgrif, c. 1916, o 15 o gerddi gan W H Davies, rhai ohonynt yn debyg o fod heb eu cyhoeddi, a gyflwynwyd i James Guthrie (1874-1952) i'w cyhoeddi gan y Pear Tree Press fel casgliad yn dwyn y teitl ''Quiet Streams'’; a nodiadau wedi cael eu hychwanegu gan yr Arglwydd Kenyon. Ceir llythyr oddi wrth Davies at Guthrie, 1916, yn y gyfrol ar f. 16. (NLW MS 23279C)

10 o gerddi llawysgrif, c.1913-1918, gan W H Davies, o’r enw ‘Heaven’, ‘The Mind’s Liberty’, ‘The Signs’, ‘The Moon’, ‘Rich Days’, ‘On the Mountain’, ‘The One Singer’, ‘A Strange Meeting’, ‘To My Thoughts’, a ‘Till I Went Out’; gydag un gerdd llawysgrif arall o’r enw ‘The Dumb World’. (NLW MS 21629B)

2 gerdd llawysgrif gan W H Davies: 'Molly' a 'The Force of Love'; dau lythyr yn ei law, 1917 a 1918; ac adolygiad o farddoniaeth W H Davies gan Edward Herbert Palmer. (NLW MS 19408C)

Copi printiedig o Forty New Poems (1918) gan W H Davies, gyda cherdyn post wedi’i llofnodi, 1920. (NLW MS 16571B)

Copi printiedig o New Poems (London: Elkin Mathews, 1907), gan W H Davies, sy’n ymroddedig i Helen ac Edward Thomas, yn cynnwys dwy gerdd llawysgrif gan W H Davies, sef 'When Leaves Begin' a 'The Truth'. (NLW MS 18432A)

Gohebiaeth

Gohebiaeth

58 llythyr, 1905-1938, gan y bardd W H Davies (1871-1940), at ohebwyr amrywiol gan gynnwys y beirdd a’r beirniaid Terence Ian Fytton Armstrong (`John Gawsworth'), John Freeman, Harold Monro ac Edward Thomas. Mae'r llythyrau yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi gwaith W H Davies. Ceir hefyd gerddi llawysgrif a theipysgrif gan W H Davies, a ffotograff o’r bardd yn 1900au cynnar, gydag arysgrif arno, a gyflwynodd mae'n debyg i Edward Thomas. (NLW MS 23806D)

13 o lythyrau gan W H Davies, ynghyd â thorion o'r wasg, 1905-50, a 4 o gerddi printiedig, 1909-1925. (NLW MS 22003E)

5 llythyr, 1937-1939, 4 yn deipysgrif ac un llawysgrif, gan “Will” (y bardd W H Davies), Nailsworth, Swydd Gaerloyw, at Alice Williams ei hanner chwaer, yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, yn ymwneud â newyddion personol a theuluol. (NLW MS 23699E, ffolios 60-65).

21 o lythyrau, 1951-1962, at y casglwr E E Bissell (1910-1998), o Ashorne, Warwick, yn ymwneud â'r bardd W H Davies (1871-1940), oddi wrth amrywiol ohebwyr, yn arbennig Richard J Stonesifer bywgraffydd Davies, ac edmygwyr eraill o waith W H Davies. Mae hefyd yn cynnwys atgynyrchiadau o ddau ffotograff o’r bardd, 1920au, a dynnwyd yng nghartref yr arlunydd Syr William Nicholson, a gyflwynwyd i Bissell gan Richard Stonesifer. (NLW MS 23807E)

Gweler NLW MS 21818E, NLW MS 22003E, a NLW MS 16343E am lythyrau pellach gan W H Davies, ac NLW MSS 22906B, 22917C, 22918C, a 23019C ar gyfer cyfeiriadau pellach at W H Davies.

Papurau personol, ffotograffau a deunydd printiedig

Papurau personol, ffotograffau a deunydd printiedig

Papurau'n ymwneud â'r bardd a’r awdur W H Davies (1871-1940), gan gynnwys:

Torion o'r wasg, 1930-1990, a heb ddyddiad, rhai yn ymwneud â dadorchuddio cerflun yng Nghasnewydd i’w anrhydeddu ef yn 1990; llungopïau o dystysgrif priodas ei rieni, 1864, ac ail a thrydedd priodas ei fam, 1875 a 1891, gyda’i thystysgrif marwolaeth, 1922;

Bwydlen gyda'i lofnod arno, 1930, ar gyfer cinio a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Westgate, Casnewydd, yn ei anrhydeddu; gwahoddiad i ddadorchuddio plac coffa iddo yn 1938, a gwahodd i ginio (y fwydlen yn dwyn llofnod W H Davies a John Masefield); rhaglenni digwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant ei eni yn 1971;

Cerdd deyrnged i W H Davies gan Alison J Bielski, ‘Tribute’; cerddi gan blant o Gasnewydd i gofio’r canmlwyddiant, a stamp diwrnod cyntaf; ynghyd â llungopïau o ffotograffau. (Papurau W H Davies. NLW ex 1973)

Copi printiedig o Autobiography of a Super Tramp (Llundain: AC Fifield, Ail Argraffiad, 1908, gyda rhagair gan G Bernard Shaw), gyda dau lythyr yn ei law, 1908-9. (NLW MS 16572B) Llyfryddiaeth c. 1958-1979, mewn llawysgrif a luniwyd gan yr Arglwydd Kenyon, sy’n rhestru ei gasgliad ef o weithiau cyhoeddedig William Henry Davies, ac yn cynnwys nodiadau ar eu tarddiad ac argraffiadau (NLW MS 23280B). Ceir llyfrau printiedig o waith W H Davies, a roddwyd gan Lloyd Tyrrell-Kenyon (1917-1993), pumed barwn Kenyon o Gredington, yn yr Adran Llyfrau Printiedig. Chwiliwch y catalog am fanylion.

8 ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r bardd a’r awdur William Henry Davies (1871-1940). Mae'r rhan fwyaf yn ffotograffau o aelodau o'r teulu, ond yn cynnwys hefyd dadorchuddio cerflun iddo yng Nghasnewydd 1970, a golygfa o Prince Rupert, British Columbia lle roedd ewythr iddo yn cadw siop. (Llyfr ffoto 2984 A)

Portread sialc ac inc gan William Rothenstein (1872-1945) o W H Davies, 1921. PG00745. Ceir delwedd ddigidol ar gatalog LLGC.

Manylion bywgraffyddol

Manylion bywgraffyddol

Ganed William Henry Davies, y bardd a’r awdur, yng Nghasnewydd. Bu farw ei dad pan oedd yn dair, ac fe fabwysiadwyd y plant gan eu nain a’u taid ar ôl i’w fam ailbriodi. Addysgwyd Davies mewn ysgolion yng Nghasnewydd ac wedyn aeth yn brentis at wneuthurwr fframiau.

Pan yn 22 oed, teithiodd i Efrog Newydd, gan gyrraedd yr Unol Daleithiau, gyda dim ond ychydig o ddoleri yn ei boced. Wedi hynny dechreuodd fyw fel trempyn, bywyd a ddisgrifir ganddo yn ei hunangofiant Autobiography of a Super-Tramp (1908) - gan deithio miloedd o filltiroedd ar draws America, yn fwyaf aml yn cardota ond hefyd yn gwneud gwaith achlysurol a theithio’n anghyfreithlon ar y trenau cludo nwyddau. Ar y ffordd i gloddfeydd aur yn y Klondike, cwympodd o dan drên gan dorri ei droed dde, ac yn dilyn hyn cafodd dorri ei goes i ffwrdd o dan y ben-glin.

Dychwelodd Davies yn y pen draw yn ôl i Gymru, ac yna symudodd i Lundain, lle bu'n byw mewn tai llety cyffredin, pedlera nwyddau a phregethu ar gorneli stryd. O’r diwedd daeth o hyd i gyhoeddwr ar gyfer ei gerddi a, rhwng 1905 a 1939, cyhoeddwyd nifer o gyfrolau bychain o’i farddoniaeth. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd daeth yn gyfaill i’r bardd Edward Thomas a'i wraig Helen.

Ysgrifennodd Davies bedwar nofel, gan gynnwys The True Traveller (1912), a The Adventures of Johnny Walker, Tramp (1926 ); a gweithiau rhyddiaith eraill yn cynnwys Beggars (1909), Nature (1914) a My Birds and my Garden (1933). Golygodd nifer o flodeugerddi barddonol ac roedd yn gyd-olygydd cylchgrawn misol o'r enw Form. Fe wnaeth Davies gyfarfod ei wraig Helen mewn arhosfan bws mewn rhan dlawd o Lundain, ac fe wnaethant briodi yn 1923, ond ni chawsant blant. Dethlir eu perthynas yn Love Poems (1935) a hefyd Young Emma (1980) a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth. Bu farw Davies yn Nailsworth yn Swydd Gaerloyw. Cafwyd adfywiad yn y diddordeb yn y bardd yn dilyn cyhoeddi W. H. Davies : Selected Poems yn 1985.

Darllen pellach