Symud i'r prif gynnwys

O gasgliad hanes llafar Ceredigion a wnaed gan Llyfrgell y Sir yn ystod y 1960au a’r 1970au i gasgliad o gerddoriaeth, sydd yn amrywio o roc a phop, i rap, i gerddoriaeth glasurol ac opera, ac i gasgliad o bregethau yn cynnwys recordiad unigryw o’r diwygwir, Evan Roberts yn 1905. Yma hefyd mae’r recordiad cynharaf o Hen Wlad Fy Nhadau gan Madge Breese yn 1898. Yn cyfan ar gael i’w clywed yn yr archif.

Mae’r deunydd masnachol yn ymestyn o ddyddiau cynnar recordio ar silindrau cŵyr hyd at y cynyrchiadau digidol diweddaraf, gyda phob math o ddeunyddiau a chyfryngau rhwng y ddau begwn amser. Wrth reswm, mae’n cynnwys holl ystod cerddoriaeth Gymreig.

Fe amcangyfrifir bod y casgliad yn cynnwys tua 250,000 o oriau o recordiadau, gyda degau o filoedd o recordiau shelac a feinyl, casetiau a chryno ddisgiau. Mae'r fformatau gwahanol yn yr Archif yn cynnwys:

  • silindrau cŵyr
  • recordiau 78
  • recordiau feinyl 45 a 33
  • casetiau sain
  • tapiau ¼ modfedd
  • rîl agored
  • cartrisau wyth trac
  • cryno ddisgiau
  • tapiau sain digidol (DAT)
  • mini-ddisgiau
  • MP3

“Wrth ymchwilio i fywyd y diweddar John Roderick Rees, y bardd o Benuwch, rwyf wedi defnyddio casgliad teledu a sain yr Archif. Mae’r casgliad sain, yn arbennig wedi bod ddefnyddiol i mi gan fy mod wedi dod ar draws cyfweliadu diddorol ohono ar Radio Cymru ac ar Radio Ceredigion” Islwyn Edwards