Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Ers 1982 mae’r Archif wedi bod yn recordio rhaglenni o ddiddordeb Cymreig ar brif sianelau teledu a radio Prydain, a dyma’r unig fan y gellir cael mynediad hwylus i’r deunydd yma. Ceir cofnod o rai o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocâol yn deng mlynydd ar hugain diwethaf gan gynnwys streic y glöywyr, referenda datganoli a helyntion clwy’r traed a’r genau. Hefyd ceir dwsinau o gyfresi adloniant adnybyddus o Jabas ar S4C i Gavin and Stacey ar y BBC ac o Pobol y Cwm i Cefn Gwlad.
“Rwy’n gwneud astudiaeth o gyfresi drama Cymraeg ar gyfer fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn defnyddio’r Archif yn aml er mwyn gwylio’r deuddeg cyfres rwy’n eu hastudio…Mae cael y cyfle i wylio’r hen gyfresi am ddim yn fantais, ac yn gyfle y dylai pawb wneud y gorau ohono, mae hoff raglenni i i gyd ar gael yma!” Michelle Davies, Myfyrwraig PhD, Prifysgol Bangor