Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'r cyfryngau clyweledol o ran eu natur yn rhai bregus, gyda nifer ohonynt hefyd yn fyrhoedlog. Golyga hyn fod cynnal casgliadau fel y rhain yn gofyn llawer iawn o waith cynnal a chadw.
Cynhelir rhaglen barhaus o archwilio, trwsio a chopïo, er mwyn ceisio sicrhau parhad y deunyddiau. Mae byrhoedledd rhai fformatau yn golygu bod rhaid cadw a chynnal rhychwant eang o hen beiriannau. Cedwir y casgliad mewn storfeydd pwrpasol lle rheolir lleithder a thymheredd i safonau proffesiynol cydnabyddedig.