Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol yn ystod yr wythnosau nesaf. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae ychwanegiadau newydd yn helpu i gyfoethogi ein hetifeddiaeth a sicrhau bod y casgliad cenedlaethol yn dal yn ffres a diddorol. O’r herwydd, rydym bob amser yn falch o glywed am unrhyw ddeunydd a allai fod o ddiddordeb.
Rydym yn casglu pob math o ddelweddau symudol a sain - amatur a phroffesiynol, ffugiannol a ffeithiol - sydd â chysylltiad â Chymru neu ei phobl. Mae ffilmiau a fideos cartref, ffilmiau proffesiynol a chynyrchiadau clybiau sinema, oll i gyd, yn rhan bwysig o dreftadaeth sgrin unigryw Cymru tra bod y dreftadaeth sain hefyd yn cynnwys ystod gyflawn o ffurfiau a fformatau hanesyddol a chyfredol. Croesewir deunydd digidol-anedig, yn yr un modd â phob fformat arall a etifeddwyd.
Rhaid i’r cynnwys adlewyrchu Cymru neu Gymreictod mewn rhyw ffordd neu’i gilydd er mwyn iddo ddisgyn o fewn ein gorchwyl casglu. Mae’r enghreifftiau’n rhy niferus i’w rhestru yma, ond ymhlith y testunau a’r themâu y mae bywyd domestig a theuluol, y byd gwaith a diwydiant, bywyd gwledig a hamdden, addysg, bywyd a pherfformiad gwleidyddol a diwylliannol. Yn wir, mae’r rhestr yn hirfaith, ac ar gyfer ffilmiau a delweddau symudol gallwch ddarllen rhagor yn ein Polisi Casgliadau.
Os hoffech drafod delweddau symudol neu ddeunydd clywedol, cysylltwch â ni - trwy e-bost os yn bosibl gan roi cymaint o fanylion ag y bo modd. Os am gysylltu â ni ar y ffôn, bydd eich manylion yn cael eu cofnodi fel bod yr aelod staff priodol yn gallu dod yn ôl atoch pan fydd yn gyfleus. Os byddwn yn cytuno bod y deunydd o ddiddordeb ac yr hoffem ei ychwanegu at y casgliad (neu ei asesu ymhellach), byddwn yn trefnu naill ai iddo gael ei gasglu neu drefnu amser cyfleus i chi ddod â’r deunydd i’r Archif. Os derbynnir y deunydd ar gyfer y casgliad, byddwch yn ôl y drefn arferol yn cael Cytundeb Derbyniadau yn amlinellu’r telerau y byddwn yn gofalu am eich deunydd. Mae’r rhain yn hyblyg ac nid ydynt yn golygu’n awtomatig unrhyw newid perchnogaeth neu hawlfraint a allai fod gennych chi ar y cynnwys. Fodd bynnag, rydym yn gofyn am eich caniatâd ymlaen llaw i ddefnyddio’r deunydd fel rhan o’n gwasanaethau addysg ac ymgysylltu cymunedol parhaus, ar ôl i ni’n gyntaf wneud y gwaith cadwraeth a chreu copïau dyblyg ar gyfer mynediad.
Os ydych chi’n credu fod gennych chi ddeunydd o ddiddordeb, bydd angen i chi gysylltu â’r Archif.