Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae yna gyffro o weld rhywle neu rywun cyfarwydd o’r gorffennol yn dod yn fyw o’ch blaen ar y sgrin, yn enwedig os na wyddech chi am fodolaeth y rhaglan. Dros y blynyddoedd, mae’r Archif wedi casglu a derbyn toreth o ddeunydd clyweledol gan aelodau o’r cyhoedd a chwmnïau masnachol , sy’n golygu bod ein casgliad yn enfawr o ran maint, ac yn amrywiol iawn o ran cynnwys. Ydych chi erioed wedi ystyried efallai bod ffilmiau o’ch ardal chi yn yr Archif?
Mae yna sawl ffordd o gael mynediad i’r archif. Defnyddiwch y Catalog i chwilio deunydd, defnyddiwch ein hystafell wylio i weld a gwrando ar ein deunydd, gwneud gwaith ymchwil, archebu copïau neu mynychu a sioe ffilmiau. Mae dros 700 o ffilmiau yr archif ar gael arlein fel rhan o brosiect ‘Unlocking Film Heritage’ mewn partneriaeth gyda’r British Film Institute.
“Mae hi’n gysur mawr i mi fod Archif o’r fath yn bodoli sy’n diogelu elfennau mor bwysig ar ein diwilliant ni. Cefais y cyfle i bori drwy eitemau o’r casgliadau helaeth fwy nag unwaith a chael llwyddiant o ran fy ymchwil. Yr un mor bwysig, fodd bynnag, oedd i mi gael mwynhad pur wrth wneud!” Hywel Gwynfryn