Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae casgliad yr Archif yn eang iawn o ran cynnwys. Mae'n cwmpasu pob agwedd ar ddiwylliant a bywyd Cymru a'r Cymry fel y mae wedi ei groniclo gan y cyfryngau clyweledol, sef recordiadau sain, fideo a ffilm, ac i raddau, y cyfryngau digidol diweddaraf.
Ceir ymhlith y casgliad ddarllediadau teledu a radio, recordiadau sain a ffilmiau amatur, recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau, ffilmiau a fideos masnachol ar bob pwnc dan haul - o chwaraeon i ryfel, o newyddion i raglenni hanes, o gelf i'r diwydiant glo a'r chwareli, o wleidyddiaeth i operâu sebon, o gerddoriaeth bop i Bobol y Cwm, o ganu gwlad i Gwm Hyfryd, o hanes llafar i ganu aflafar!
Mae esiamplau niferus o ddeunydd sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau Cymru, ac sy'n gymorth i osod gweddill y casgliadau mewn cyd-destun ehangach.