Symud i'r prif gynnwys

Cynnwys y casgliad ffilm

Mae'r casgliad yn cynnwys dros 5 miliwn troedfedd o ffilm yn dyddio o 1898, a gall ymwelwyr wylio teitlau sydd yn cynnwys siwrnai ‘ysbryd’ ar drên drwy orsaf Conwy (1898), cystadleuaeth athletau a rasio ceffylau yn Stadiwm Caerdydd (1911), Lloyd George a’i gŵn anwes (tua 1929), adferiad o’r ffilm nodwedd gyntaf yn yr iaith Gymraeg, Y Chwarelwr (1935) a ffilm ddogfen ysbrydoledig am Dylan Thomas, a enillodd Oscar (1962).

Yn ogystal â hyn, mae cannoedd o ffilmiau amatur yn dyddio o ddechrau’r ugeinfed ganrif, sy’n amrywio o garnifal Y Drenewydd yn 1950 i wyliau teuluol yn Y Bermo yn 1939, ac sioe Tal-y-bont yn 1964 i gneifio defaid ar fferm Maes Caradoc, Nant Ffrancon, yn 1946. Mae siawns gref iawn y gwelwch chi rywun neu rywle cyfarwydd.

Casgliad ffilm yr Archif yw’r unig gasgliad a fwriadwyd at ddibenion casglu, cadw a darparu mynediad i dreftadaeth delweddau symudol Cymru a’i phobl.

“Dangosodd yr Archif ffilm yn Ninas Mawddwy, ac mi welais fy hun fel merch fach 6 oed efo fy nhad. Roeddwn wedi rhyfeddu gymaint, fel i mi drefnu i fynd i’r Llyfrgell i’w gweld eto gyda fy Mab.”
Mrs. Pugh Dinas Maddwy